Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:26, 21 Tachwedd 2018

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Roeddwn am ddefnyddio fy nghwestiynau cyntaf fel llefarydd i ymdrin â phroblemau mewn gofal cymdeithasol yn hytrach nag iechyd, fel symbol o ba mor bwysig ydyw i bobl ar draws y Siambr hon, yn enwedig yma yn ein plaid ni—. Rydym yn gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel partneriaeth gyfartal, heb fod un yn bwysicach na'r llall. Felly, a gaf fi gofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: a yw Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o nyrsys cofrestredig a gweithwyr gofal sy'n hanu o wledydd o fewn yr UE sy'n gweithio mewn cartrefi gofal yng Nghymru ar hyn o bryd, ac os felly, beth yw'r ffigurau hynny?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:27, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Helen Mary, a gaf fi eich croesawu i'ch rôl fel llefarydd, a chroesawu hefyd y ffordd rydych newydd nodi pwysigrwydd iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd? Mae'r grŵp rhanddeiliaid Brexit rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gadeirio ar y cyd wedi edrych ar y mater hwn. Ceir prinder cymharol o ddata ar y sector gofal cymdeithasol o'i gymharu â'r sector iechyd. Yn y sector iechyd, mae gennym ffigurau eithaf cywir ar effaith Brexit, boed yn Brexit 'dim bargen' neu'n rhyw fath o drefn bontio, ar y gweithlu o'i fewn. Felly, rydym wedi comisiynu gwaith i fynd ati i lenwi rhai o'r bylchau yn y data, ond mae rhai o'r bylchau yn y data'n deillio'n syml o natur eang ac amrywiol y sector gofal. Nid yw mor gydgysylltiedig â'r GIG sydd gennym. Ond rydym wedi comisiynu gwaith i edrych ar hynny, a chyn gynted ag y byddwn yn ymwybodol o hynny, rwy'n siŵr y byddwn yn dod ag ef gerbron y tŷ wedyn i weld sut rydym yn ei wneud. Ond dyna'n union yw'r rheswm pam rydym yn ei wneud: i weld sut y gallwn baratoi ar ei gyfer os ydym mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid inni wynebu colli pobl o'n gweithlu gofal cymdeithasol, sydd mor bwysig i'r holl bobl sy'n derbyn gofal gan bobl sy'n dod i'r wlad hon o bob rhan o'r byd, a dweud y gwir, i ddarparu gofal ar gyfer ein dinasyddion.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:28, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb, Weinidog. Er gwaethaf yr hyn rydych wedi'i ddweud am gymhlethdod y sector o gymharu â'r sector iechyd, rwy'n siŵr y byddech yn deall ei bod hi'n rhwystredig iawn nad ydym yn gwybod, ac mor agos at Brexit â hyn, ein bod yn dal heb gael—pa un a fyddech byth yn gallu cael set o ffigurau mor gynhwysfawr a chywir ag y gallwn ei chael ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ond mae'n rhwystredig nad ydych yn gwybod yn iawn, a rhannaf eich pryder, wrth gwrs, am effaith bosibl Brexit ar y gweithlu, ac os caiff pobl eu hatal rhag dod i weithio yma.

Weinidog, fe fyddwch yn gwybod am astudiaeth y llynedd gan y BMJ sy'n cysylltu toriadau a chyni mewn gofal cymdeithasol â chynnydd yn nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal. Un o'r mesurau lliniarol, wrth gwrs, fel y byddwch yn gwybod, yw presenoldeb nyrsys cofrestredig sydd wedi cymhwyso'n llawn i staffio cartrefi gofal. A ydych yn derbyn y gallai fod risg i ddiogelwch mewn cartrefi gofal os yw Brexit a'r rheolau mewnfudo yn effeithio'n sylweddol ar lefelau nyrsys cofrestredig mewn cartrefi gofal, a beth y gallwch ei wneud i liniaru'r risg honno?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:29, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n bendant fod angen inni ochel rhag hynny. Rydym wedi cyflwyno ein safbwyntiau'n glir iawn i Lywodraeth y DU, nid yn unig o ran yr angen i'n staff gofal presennol aros a chael croeso yma yng Nghymru doed a ddelo, ond hefyd er mwyn osgoi tynhau ar reolau mewn perthynas ag unigolion sy'n gweithio yn y rheng flaen neu eu teuluoedd hefyd, oherwydd rhaid inni ymdrin â'r ddau beth. Ac un o'r rhwystredigaethau sydd gennym ar hyn o bryd, Ysgrifennydd y Cabinet a minnau, yw nad yw Llywodraeth y DU yn derbyn ein sylwadau, a gyflwynwyd gennym yn ysgrifenedig, sy'n dweud, 'Nid yw'n ddigon da dweud o fewn y maes iechyd y byddwn yn treialu meysydd lle y gallwn gael rhyw fath o hawl preswylio ar gyfer unigolion sy'n gweithio gydag iechyd.' Mae angen ei gymhwyso i ofal cymdeithasol, ond mae angen ei gymhwyso mewn ffordd gydymdeimladol i'w teuluoedd hefyd, oherwydd pam y byddech yn aros yma, pam y byddech yn dod i weithio yma oni bai eich bod yn gwybod hefyd fod eich teulu yn cael gofal? Felly, rydym—.

Mae'r ansicrwydd a grybwyllwyd gennych, fodd bynnag, yn ffaith bendant yn sgil yr anhrefn ynghylch negodiadau Brexit—y ffaith ein bod ar y pwynt hwn dros ddwy flynedd ar ôl y refferendwm lle rydym yn dal heb gael eglurder manwl ynglŷn â'r hyn y mae angen inni gynllunio ar ei gyfer. Ond rydym yn cynllunio yn awr, ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ers peth amser, gyda'n rhanddeiliaid, gan gynnwys yr arolygiaeth gofal, y fforwm gofal, gyda darparwyr yn uniongyrchol, i ddweud, 'Beth yw'r effeithiau a hyd yn oed gyda sector cymhleth, a allwn gael y data mwyaf cywir ar yr hyn y gallai'r effaith fod, yn enwedig effaith 'dim bargen'?'

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:31, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i chi, unwaith eto, Weinidog. Yn amlwg, nid oes neb yn mynd i feio Llywodraeth Cymru am Brexit, ond credaf ei bod yn briodol ein bod yn gofyn rhai cwestiynau ynglŷn â pha mor hir y mae wedi'i gymryd i ni gael y wybodaeth hon, oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o resymau eraill pam y dylem gael syniad gwell a chliriach o beth yw cymysgedd sgiliau a chymysgedd cymwysterau ein gweithlu gofal cymdeithasol.

Wrth gwrs, yn y Cynulliad blaenorol, pasiwyd deddfwriaeth gennym i greu lefelau gofynnol o staff nyrsio mewn rhai lleoliadau ysbyty. Dewiswyd y lleoliadau hynny am fod tystiolaeth gadarn yn profi bod lefelau staff nyrsio yn effeithio ar ganlyniadau cleifion. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae astudiaeth y British Medical Journal yn dangos bod cael staff nyrsio cymwysedig mewn cartrefi gofal yn gallu cael effaith debyg ar gyfraddau marwolaethau ac ar ganlyniadau. Mewn egwyddor, neu ar yr ochr hon i'r tŷ, byddem yn cefnogi camau i ymestyn y ddeddfwriaeth honno i gynnwys cartrefi gofal yn y pen draw. Rydym yn sylweddoli bod hynny'n uchelgeisiol ar hyn o bryd, ond a wnewch chi ymrwymo mewn egwyddor i ystyried ymestyn y Ddeddf i gynnwys nyrsys cofrestredig mewn cartrefi gofal, os bydd y dystiolaeth yn ddigon cadarn yn y dyfodol?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:32, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Byddwn bob amser yn cadw meddwl agored ar hyn, oherwydd credaf eich bod yn gywir yn dweud bod angen i ni ddilyn y dystiolaeth bob amser. Ac wrth gwrs, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi adolygu ac adnewyddu'r canllawiau mewn perthynas â darpariaeth nyrsio yn y sector cartrefi gofal, gan gydnabod, unwaith eto, fod cartrefi gofal yn amrywio'n sylweddol o ran y math o breswylwyr sydd ganddynt—a ydynt angen gofal 24 awr ac yn y blaen. Felly, rydym wedi ei adolygu a'i adnewyddu yn weddol ddiweddar. Ond rydym bob amser yn cadw meddwl agored am hynny'n seiliedig ar y dystiolaeth, yn hytrach na dweud yn syml, 'Dyma nifer; os byddwn yn cyrraedd yr isafswm hwn, byddwn yn darparu gofal nyrsio diogel o fewn y sector gofal.' Os ydym am ddilyn y dystiolaeth, mae'n debyg fod angen i ni ei wneud mewn ffordd ddeallus iawn sy'n dweud, oherwydd yr anghenion nyrsio amrywiol iawn sydd i'w cael mewn gwahanol gartrefi gofal, boed yn gartrefi sy'n cynnwys cleifion oedrannus eiddil, boed yn gartrefi sy'n cynnwys cleifion dementia—bydd y gwahaniaethau'n sylweddol. Gallai fod yn wahanol o fis i fis neu o chwarter i chwarter hyd yn oed, yn dibynnu ar y preswylwyr sy'n dod i mewn. Ond rwy'n cytuno ynglŷn â'r angen i sicrhau bod y dystiolaeth yn dweud wrthym beth yw'r lefelau nyrsio diogel yn y sector gofal, a byddwn bob amser yn cadw meddwl agored i'r dystiolaeth a gyflwynir ar hynny.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:33, 21 Tachwedd 2018

Llefarydd y Ceidwadwyr—Janet Finch-Saunders. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod wedi dychryn cymaint â minnau wrth glywed am fethiannau erchyll a'r achosion honedig o gam-drin ac esgeuluso yn nghartref preswyl Pines yng Ngwynedd. O'r deunydd ffilm a ddaeth o'r cartref hwn, ceir tystiolaeth ymddangosiadol o ffugio dogfennau, cuddio meddyginiaethau ym mwyd preswylwyr, dulliau anniogel o symud preswylwyr a diffyg urddas a pharch cyffredinol yn eu triniaeth a'u gofal. Mae'r digwyddiadau hyn i gyd yn disgyn yn llawer is na'r hyn a ddisgwylir yng Nghymru gyda'i rheoliadau gofal ei hun, a chafodd hyn oll sylw o ganlyniad i newyddiaduraeth ymchwiliol a welais neithiwr ar raglen S4C, Y Byd ar Bedwar. Yr hyn sy'n peri pryder i mi, Weinidog, yw bod Arolygiaeth Gofal Cymru eisoes yn gwybod am y cyfleuster preswyl hwn a bod nifer o adroddiadau beirniadol wedi cael eu gwneud yn erbyn ei ymddygiad a'r ffordd y câi preswylwyr eu trin, ond mae'n amlwg eu bod wedi parhau i drin oedolion agored i niwed yn wael. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Cymru i sicrhau y bydd yn rhaid i unrhyw gyfleusterau, megis cartref preswyl Pines, ddilyn rhaglenni gwella llym ac ystyrlon, er mwyn sicrhau bod preswylwyr agored i niwed yn cael eu diogelu rhag unrhyw gamymddygiad neu esgeulustod?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:34, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn, a do, fe welais raglen Y Byd ar Bedwar, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r pryderon a godwyd ynghylch Pines yng Nghricieth, fel y mae Arolygiaeth Gofal Cymru. Rhoddodd yr arolygiaeth gamau ar waith ar unwaith ar ôl iddynt gael gwybod am y materion a nodwyd gan S4C yn y Pines, ac mae ei harolwg yn parhau ar hyn o bryd. Nawr, oherwydd hynny, mae'n anodd i mi wneud unrhyw sylw pellach am y Pines ei hun ar hyn o bryd, ond rydych yn gywir yn nodi, mewn gwirionedd, fod arolygiadau a chynlluniau gwella wedi bod yn y gorffennol gan arwain at fesurau gwella yn y cartref hwn. Mae'n iawn fod yr arolygiaeth yno ar hyn o bryd yn ymchwilio i'r honiadau diweddaraf, a dyna ydynt ar hyn o bryd—honiadau—ac yn gweld beth sydd angen ei wneud. Ond mae'n anodd i mi wneud sylwadau pellach ar Pines.

Fodd bynnag, yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal dros 600 o arolygiadau yn rhan o'i threfniadau rheoleiddio ac arolygu rheolaidd y llynedd, ond wrth gwrs, mae bob amser yn gallu ymweld â chartref heb roi rhybudd yn sgil adroddiadau am unrhyw achosion posibl o gam-drin, esgeulustod neu beth bynnag, a dyna a wnaed yn yr achos hwn.

Fe ofynnoch chi hefyd beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Credaf fod yna bethau y gallwn eu gwneud a phethau rydym eisoes yn eu gwneud. Ychydig flynyddoedd yn ôl, pasiodd y Cynulliad hwn Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae honno'n wahanol iawn, oherwydd, er enghraifft, mae'n gosod gofynion cyfreithiol ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol dynodedig cartrefi gofal felly rydym yn gwybod pwy sy'n gyfrifol yn y pen draw yn ogystal. Ond mae hefyd yn symud oddi wrth safonau gofynnol ar gyfer y ddarpariaeth, sy'n golygu, os oes gennych safon ofynnol, fod pobl yn dewis cyrraedd y safon ofynnol a dim mwy na hynny, ac mae'n canolbwyntio yn hytrach ar welliant parhaus, sef yr hyn rydym ei eisiau gan bob un o'n cartrefi gofal. Ond mae hefyd yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd yr unigolyn—ar eu gofal a'u cymorth ac ar eu cefnogi gyda'u hanghenion. Ni fyddwn yn cyflawni hyn dros nos, ond dyma beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud: gosod y fframwaith er mwyn i'r corff rheoleiddio a chartrefi gofal sbarduno gwelliant parhaus.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:36, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'n hanfodol, fodd bynnag, fod unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella, beth bynnag yw eu natur, yn cael eu cymryd o ddifrif a bod llesiant pobl hŷn wrth wraidd y modd y darperir gofal. Ond nid yw fy mhryderon yn ymwneud yn unig â hawliau pobl mewn cartrefi preswyl. Wrth i Lywodraeth Cymru fynd ar drywydd eu hagenda 'Cymru Iachach', sy'n gweld mwy o gleifion yn derbyn gofal yn y cartref, sut rydych yn gwneud trefniadau i sicrhau y gall pobl hŷn sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain fod yn ddiogel ac y byddant yn cael gofal o'r safon uchaf a bod eu llesiant yn cael ei gefnogi gan holl aelodau'r tîm amlddisgyblaethol sy'n gyfrifol am ddarparu'r gofal hwnnw? Y rheswm rwy'n gofyn hynny heddiw yw fy mod wedi cael fy syfrdanu, ddydd Llun, gan y ffaith bod un o fy etholwyr wedi cael ei siomi'n ddrwg yn ddiweddar gan y tîm amlddisgyblaethol sy'n ymweld â'u cartref ar hyn o bryd, ac arweiniodd hynny at eu merch yn gofyn am ymchwiliad trylwyr gan ei bod yn credu bod ei thad oedrannus yn cael ei esgeuluso.

Felly, pa reoliadau a systemau arolygiaeth a roddir ar waith i sicrhau nad yw oedolion agored i niwed yn cael eu hesgeuluso yn eu cartrefi eu hunain? Dyma rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, ac mae'n hanfodol fod gennym gorff arolygiaeth annibynnol ar waith i ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain a sicrhau bod eu holl anghenion yn cael eu diwallu a bod eu hawliau'n cael eu parchu. Pa waith sy'n mynd rhagddo, Weinidog, i sicrhau bod system o'r fath yn cael ei datblygu, wrth i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ddatblygu agenda gofal cymunedol?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:38, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Janet, rwy'n credu bod nifer o bethau y gallwn eu gwneud. Yn wir, pan adawodd Sarah Rochira ei swydd, ym mis Mehefin rwy'n credu, roeddem yma yn y Senedd, ac fe wnaethom ymrwymiad i wneud hawliau'n real i bobl hŷn a nodwyd nifer o ffyrdd y byddem yn gwneud hynny. Rydych yn gywir yn dweud nad yw hyn yn ymwneud yn unig â'r lleoliad gofal: mae'n ymwneud â phob lleoliad y bydd y person ynddo—yn eu cartref eu hunain, yn agos at eu cartref, mewn lleoliad gofal—i sicrhau ansawdd bywyd da iddynt ac i ddangos bod eu hawliau'n cael eu parchu.

Felly, rhai o'r pethau ymarferol a ddywedasom: ategir ein fframwaith deddfwriaethol gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016. Dywedasom y byddem, gyda'r comisiynydd newydd, Heléna Herklots, yn cydgynhyrchu canllawiau ymarferol sy'n dangos sut i wneud egwyddorion y Cenhedloedd Unedig yn real i bobl hŷn. Byddem yn canolbwyntio peth o'n gwaith cychwynnol ar gomisiynu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn, ar ddiogelu ym mhob amgylchedd ac ar eiriolaeth, oherwydd mae'r rhain yn feysydd y mae angen i ni eu cael yn iawn os ydym am gynorthwyo'r holl bobl hŷn a sicrhau bod ganddynt lais a rheolaeth dros eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol ym mhob lleoliad.

Ond byddwn hefyd yn gwneud pethau yn y cartrefi gofal yn ogystal. Felly, byddwn yn diweddaru canllawiau 2009—mae gormod o amser wedi bod ers i ni edrych arnynt—o ran sut i uwchgyfeirio pryderon ynglŷn â gofal mewn cartrefi gofal. Byddwn yn cymryd cyngor gan ganolfan gydraddoldeb a hawliau dynol y GIG ar sut i ymgorffori hawliau dynol yng ngwaith y GIG. Gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, byddwn yn ymgorffori naratif hawliau dynol yn adroddiadau arolygiadau cartrefi gofal, o ran y cwestiwn cynharach, a llawer o elfennau eraill. Un peth y dywedasom y byddem yn ei wneud gyda'r comisiynydd newydd yw gofyn iddi gadeirio gweithgor er mwyn inni allu gwireddu'r hawliau hynny, oherwydd nid yw'n ymwneud yn unig â phasio deddfwriaeth, mae'n ymwneud â gwneud iddi frathu.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:40, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, unwaith eto. Rwyf wedi cyfarfod â Heléna Herklots, ac fe wnaeth argraff fawr arnaf. Wrth symud ymlaen, rwy'n gwybod na fydd yn gallu gwneud popeth, ond un o'r pethau y bydd yn canolbwyntio arnynt yw camdriniaeth yr henoed. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud ymrwymiadau hirdymor i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu cryfhau, ac rwy'n gefnogol iawn i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, sydd bellach yn cyflwyno deddfwriaeth y mae ei hangen yn fawr yn y maes hwn. Rydym yn gwybod, Weinidog, nad yw pobl hŷn bob amser yn gwybod beth yw eu hawliau, nid ydynt bob amser yn gwybod pan fyddant yn profi anghyfiawnder, ac nid oes ganddynt hyder bob amser i roi gwybod eu bod yn cael eu cam-drin. Gwelwyd tystiolaeth o hyn yn fwyaf diweddar gan Wasanaeth Erlyn y Goron, a ddangosodd mai 250 o'r 35,000 o droseddau a gafodd eu herlyn yng Nghymru y llynedd oedd yn droseddau yn erbyn yr henoed. Mae'n amlwg fod angen i ni wneud ymdrech fawr i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu cryfhau, fod pobl hŷn yn gwybod beth yw eu hawliau, a bod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo a diogelu'r rhain. A allwch chi gydnabod heddiw fod yna le i gryfhau hyn gyda deddfwriaeth ac y byddwch yn gweithio mewn ffordd adeiladol gyda'r Bil arfaethedig, ac wrth gwrs, y sawl sy'n ei gyflwyno, er mwyn cryfhau hawliau ein pobl hŷn yng Nghymru?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:41, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod yr holl hawliau—hawliau pobl hŷn, hawliau plant, hawliau pobl anabl—yn hawliau cyffredinol ac y dylid eu cymhwyso yn y ffordd honno. Rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i lywio'r agenda hawliau yn ogystal. Credaf mai'r cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau i ni wneud hynny. Rwy'n fwy na pharod i weithio'n adeiladol gyda Darren ac unrhyw Aelod sy'n cyflwyno awgrymiadau ar agenda'n seiliedig ar hawliau i weld ai deddfwriaeth yw'r ffordd gywir ymlaen neu a oes ffyrdd eraill o'i wneud. Nid wyf yn dweud rhan olaf y frawddeg honno er mwyn camu'n ôl oddi wrth hyn, ond rwy'n credu bod gwneud hawliau'n real yn llawer mwy na deddfwriaeth yn unig. Dyna lle y gallwn lunio ffyrdd ymarferol iawn, gan weithio gyda chomisiynwyr, ar gyfer pan fyddwn yn sôn am bobl hŷn mewn cartrefi gofal, pobl hŷn sydd â phecynnau gofal cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain ac yn y blaen.

Pan fyddaf yn ymweld ag ysgol yn Abertawe a gofyn i blant ynglŷn â hawliau, yr hyn sy'n fy nharo yw eu bod yn gallu dweud wrthyf yn union beth yw'r hawliau hynny yn ôl eu rhif. Maent yn gallu dweud wrthyf am hawl 31, yr hawl i chwarae. Maent yn gallu dweud wrthyf am erthygl 12, yr hawl i gael eich clywed ac i gael oedolion i roi eu syniadau ar waith mewn gwirionedd. Ond pe baech yn ymweld â grŵp pobl hŷn ac yn dweud, 'A ydych yn sylweddoli bod gennych hawliau?', byddant yn dweud, 'Wir?' Felly, mae gennym beth ffordd i fynd.

Rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu'n adeiladol ar hynny, oherwydd credaf ein bod yn rhannu'r un nod. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw, gadewch i ni ymgysylltu'n ymarferol ar yr hyn y byddai ei angen er mwyn gwneud yr hawliau hynny'n real mewn gwirionedd a sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o'r hawliau sydd ganddynt, sy'n hawliau cyffredinol.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ychydig wythnosau yn ôl yn y Cynulliad, cyfarfûm â chynrychiolwyr o Gymdeithas Alzheimer. Yn ystod y cyfarfod hwn, fe gefais i a rhai aelodau o fy staff sesiwn hyfforddiant a sgiliau i fod yn gyfeillion dementia. Diben bod yn gyfaill dementia yw dysgu peth o logisteg dementia—beth yw dementia, beth sy'n ei achosi, beth yw'r symptomau. Yn bwysicaf oll, mae wedi'i gynllunio i ddangos sut y gallwn helpu pobl â dementia drwy ddeall eu cyflwr yn well. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i annog mwy o bobl i fod yn ystyriol o bobl â dementia?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:44, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hapus i gadarnhau ein bod yn gweithio'n dda iawn gydag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector, gan gynnwys y bobl sy'n hyrwyddo cyfeillion dementia. Rwyf wedi cyfarfod â Boots, er enghraifft, ac oherwydd yr arweinyddiaeth yng Nghymru, mae pob siop Boots yng Nghymru yn cynnwys aelodau o staff sy'n gyfeillion dementia ac maent yn bwriadu cyflwyno hynny yng ngweddill y siopau Boots mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mewn gwirionedd, mae llawer o bobl yn yr ystafell hon wedi gwneud yr hyfforddiant cyfeillion dementia. Mae fy staff a minnau wedi ei wneud, a chredaf fod Jayne Bryant wedi nodi ei bod eisiau annog pob un ohonom i fod yn gyfeillion dementia, fel y gallwn ddweud mai hon yw'r ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i fod yn gwbl ystyriol o bobl â dementia. Felly, rydym yn gwneud llawer i hyrwyddo'r ymgyrch honno sy'n cael ei rhedeg gan un corff trydydd sector. Mae'n rhan o fod yn genedl sy'n ystyriol o bobl â dementia, sydd, wrth gwrs, wedi'i nodi yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer dementia.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw. Mae hynny'n galonogol. Mae problemau'n gallu codi pan fydd yn rhaid i bobl â dementia fynd i'r ysbyty, yn arbennig os nad yw staff wedi cael eu hyfforddi i ddiwallu anghenion y cleifion hynny. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod staff ysbyty ar bob lefel yn deall sut i gynorthwyo a gofalu am bobl â dementia?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:45, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr yr Aelod dros Gaerffili, lansiais y pecyn hyfforddiant Gwaith Da yn Ysbyty Ystrad Fawr dros flwyddyn yn ôl, ac mae hwnnw wedi cael ei ddatblygu gan staff o fewn y gwasanaeth yn gweithio gyda'r trydydd sector fel y gallwn ddeall anghenion hyfforddi staff er mwyn gallu darparu gofal sy'n canolbwyntio go iawn ar unigolion â dementia—er mwyn deall yr hyn sy'n bwysig iddynt, er mwyn deall sut y mae bod mewn lle anghyfarwydd, i'r rhan fwyaf o bobl, yn gallu bod yn gythryblus, ond yn enwedig i bobl â dementia. Felly, mae'n sicr yn rhan o ble rydym o fewn y gwasanaeth iechyd fel rhan o'r cyfraniad iechyd tuag at y cynllun gweithredu sydd gennym ar gyfer dementia. Ond yn bwysicaf oll, rwy'n credu, mae hwnnw'n cael ei oruchwylio—y cynllun gweithredu yn ei gyfanrwydd, nid hyfforddiant staff yn unig—. Mae ymgysylltiad gwirioneddol â phobl sy'n byw gyda dementia mewn grŵp goruchwylio ar gyfer y cynllun. Felly, ni fydd yn fater o gael adroddiad yn ôl gan Weinidog, gennyf fi neu rywun arall yn y dyfodol; byddwch yn cael sicrwydd gan bobl sy'n byw gyda dementia a fydd yn rhoi asesiad gonest o'r sefyllfa fel y mae o ran bwrw ymlaen â'r ymrwymiadau rydym yn eu gwneud yn y cynllun hwnnw. Ac wrth gwrs, byddwn yn cynnal adolygiad canol cyfnod, lle bydd y cyhoedd, ac Aelodau'r lle hwn yn wir, yn gallu edrych ar ba gynnydd rydym wedi'i wneud a beth arall, wrth gwrs, y bydd angen i ni ei wneud.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:46, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n bosibl y bydd problem ychwanegol yn codi, ar wahân i'r hyn rydym wedi'i drafod hyd yn hyn, sef y broblem o stigma sy'n gysylltiedig â dementia. A yw Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud unrhyw beth i helpu i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â'r cyflwr?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Credaf fod y sgwrs hon, y sgwrs rydym wedi'i chael a'r sgwrs rydym yn ei chael yn rheolaidd yn y lle hwn ac o'i amgylch, yn rhan o ymdrin â'r stigma, er mwyn i bobl sylweddoli bod mwy a mwy o bobl yn dioddef o ddementia ac y bydd hynny'n parhau i fod yn wir yn y dyfodol. Mae'n her i'r gymdeithas gyfan ac nid yw'n rhywbeth y mae angen i bobl deimlo cywilydd ohono o gwbl. Fodd bynnag, mae'r stigma yn aml yn deillio o amharodrwydd pobl i gydnabod bod y cyflwr arnynt, a'r ffaith nad yw eu teuluoedd a'u gofalwyr eisiau cydnabod hynny bob amser. Ac mae hynny'n anodd oherwydd, os ydych yn gweld personoliaeth rhywun yn newid mewn ffordd benodol, boed yn ymwneud â cholli cof neu newidiadau eraill sy'n digwydd weithiau—oherwydd mae dementia'n effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd—mae'n fasged o gyflyrau a chanlyniadau posibl, os mynnwch. Gall fod yn anodd derbyn bod yr unigolyn rydych yn ei adnabod ac yn ei garu yn rhywun gwahanol o ran pwy ydynt a sut y maent yn ymddwyn, hyd yn oed os mai'r person sydd wedi eich magu, y person sydd wedi eich caru ac wedi gofalu amdanoch ydyw o hyd. Ac mae'n anodd iawn. Gwn fod yna bobl yn y Siambr hon sydd wedi cael y profiad hwnnw, a thu hwnt i'r Siambr yn ogystal. Felly, mae hon yn ymgyrch drawsbleidiol go iawn ac yn ymgyrch ar draws y gymdeithas dros sicrhau parch ac urddas a chael canlyniadau gwell i bobl sy'n byw gyda dementia ac wrth gwrs, y gwaith ymchwil rydym yn awyddus i ymgymryd ag ef er mwyn ceisio gwella canlyniadau ac os yn bosibl, er mwyn atal dementia rhag digwydd yn y lle cyntaf. Ac yn hynny o beth, fel gyda chynifer o bethau eraill, gallwn wneud mwy o ymdrech ein hunan i wneud dewisiadau sy'n golygu ein bod yn llai tebygol o gael dementia ein hunain yn y dyfodol.