Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn, a do, fe welais raglen Y Byd ar Bedwar, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r pryderon a godwyd ynghylch Pines yng Nghricieth, fel y mae Arolygiaeth Gofal Cymru. Rhoddodd yr arolygiaeth gamau ar waith ar unwaith ar ôl iddynt gael gwybod am y materion a nodwyd gan S4C yn y Pines, ac mae ei harolwg yn parhau ar hyn o bryd. Nawr, oherwydd hynny, mae'n anodd i mi wneud unrhyw sylw pellach am y Pines ei hun ar hyn o bryd, ond rydych yn gywir yn nodi, mewn gwirionedd, fod arolygiadau a chynlluniau gwella wedi bod yn y gorffennol gan arwain at fesurau gwella yn y cartref hwn. Mae'n iawn fod yr arolygiaeth yno ar hyn o bryd yn ymchwilio i'r honiadau diweddaraf, a dyna ydynt ar hyn o bryd—honiadau—ac yn gweld beth sydd angen ei wneud. Ond mae'n anodd i mi wneud sylwadau pellach ar Pines.
Fodd bynnag, yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal dros 600 o arolygiadau yn rhan o'i threfniadau rheoleiddio ac arolygu rheolaidd y llynedd, ond wrth gwrs, mae bob amser yn gallu ymweld â chartref heb roi rhybudd yn sgil adroddiadau am unrhyw achosion posibl o gam-drin, esgeulustod neu beth bynnag, a dyna a wnaed yn yr achos hwn.
Fe ofynnoch chi hefyd beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Credaf fod yna bethau y gallwn eu gwneud a phethau rydym eisoes yn eu gwneud. Ychydig flynyddoedd yn ôl, pasiodd y Cynulliad hwn Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae honno'n wahanol iawn, oherwydd, er enghraifft, mae'n gosod gofynion cyfreithiol ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol dynodedig cartrefi gofal felly rydym yn gwybod pwy sy'n gyfrifol yn y pen draw yn ogystal. Ond mae hefyd yn symud oddi wrth safonau gofynnol ar gyfer y ddarpariaeth, sy'n golygu, os oes gennych safon ofynnol, fod pobl yn dewis cyrraedd y safon ofynnol a dim mwy na hynny, ac mae'n canolbwyntio yn hytrach ar welliant parhaus, sef yr hyn rydym ei eisiau gan bob un o'n cartrefi gofal. Ond mae hefyd yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd yr unigolyn—ar eu gofal a'u cymorth ac ar eu cefnogi gyda'u hanghenion. Ni fyddwn yn cyflawni hyn dros nos, ond dyma beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud: gosod y fframwaith er mwyn i'r corff rheoleiddio a chartrefi gofal sbarduno gwelliant parhaus.