Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Ie, rwy'n hapus i ailadrodd y sicrwydd rydych yn ei geisio. Eleni, mae gennym frechlyn gwell, mwy effeithiol ar gyfer pobl dros 65 oed. Mae'n gyflenwad graddol—her oedd honno yn y broses o gynhyrchu a chyflenwi'r brechlyn hwnnw, yn hytrach na bod meddygon teulu neu fferyllfeydd cymunedol heb archebu digon. Erbyn diwedd y mis hwn—erbyn diwedd mis Tachwedd—dylai'r cyflenwadau fod ar gael yng Nghymru a ledled gweddill y DU. Felly, dylai pobl gysylltu â'u darparwyr gofal iechyd mewn perthynas â'r brechlyn ffliw, boed yn fferyllfa gymunedol neu, yn wir, yn feddygfa meddyg teulu, i drefnu i gael eu brechu. Y neges yw y bydd y brechlyn ar gael, cysylltwch â'ch darparwr gofal iechyd a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich amddiffyn rhag y ffliw y gaeaf hwn.