2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 21 Tachwedd 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd y brechlyn ffliw y gaeaf hwn? OAQ52954
Rwy'n hapus i wneud hynny, ac rwy'n gobeithio nad yw eich cwestiwn wedi'i ateb gan eich cyd-Aelod. Ysgrifennais at holl Aelodau'r Cynulliad ar 1 Tachwedd yn rhoi gwybod am drefniadau ar gyfer cyflenwi brechlynnau ffliw eleni yn sgil y cyflenwad graddol o'r brechlyn a argymhellir ar gyfer pobl 65 oed a hŷn.
Mae'n teimlo fel cylch diddiwedd yma i raddau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond fe wnaeth Darren Millar ofyn ynglŷn â hyn gan fod nifer o Aelodau Cynulliad eraill, fel fi, wedi cael e-byst gan etholwyr sy'n pryderu ynglŷn ag argaeledd y brechlyn dan sylw. Roedd yr e-bost mwyaf diweddar a gefais gan ddyn 75 oed o'r Fenni, sydd wedi methu cael y brechlyn oherwydd eu bod yn brin yn ei feddygfa leol ac oherwydd eu bod yn blaenoriaethu pobl hŷn na 75 oed ar hyn o bryd.
Deallaf o'ch ateb blaenorol mai rhan o'r broblem oedd nad oedd meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol wedi archebu digon o'r brechlyn yn y lle cyntaf. Dyna a ddywedodd Age Cymru. Rwyf hefyd yn eich clywed yn dweud y bydd stociau ar gael erbyn diwedd y mis hwn, mewn pryd ar gyfer y tymor ffliw. Ond beth y gellir ei wneud i gyfleu'r neges hon yn well? Ar hyn o bryd, credaf ei bod yn deg dweud bod pobl hŷn yn bryderus ynglŷn â'r oedi. Credaf y byddai'n ddefnyddiol pe baem yn gallu rhoi'r neges nad yw'r tymor ffliw wedi dechrau eto ac y byddant yn cael eu brechu mewn pryd. Ar hyn o bryd mae yna bryderon, a chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru leddfu'r pryderon hynny.
Ie, rwy'n hapus i ailadrodd y sicrwydd rydych yn ei geisio. Eleni, mae gennym frechlyn gwell, mwy effeithiol ar gyfer pobl dros 65 oed. Mae'n gyflenwad graddol—her oedd honno yn y broses o gynhyrchu a chyflenwi'r brechlyn hwnnw, yn hytrach na bod meddygon teulu neu fferyllfeydd cymunedol heb archebu digon. Erbyn diwedd y mis hwn—erbyn diwedd mis Tachwedd—dylai'r cyflenwadau fod ar gael yng Nghymru a ledled gweddill y DU. Felly, dylai pobl gysylltu â'u darparwyr gofal iechyd mewn perthynas â'r brechlyn ffliw, boed yn fferyllfa gymunedol neu, yn wir, yn feddygfa meddyg teulu, i drefnu i gael eu brechu. Y neges yw y bydd y brechlyn ar gael, cysylltwch â'ch darparwr gofal iechyd a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich amddiffyn rhag y ffliw y gaeaf hwn.