Cyflenwad Cyffuriau Fferyllol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:57, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi clywed am hyn, ac fe soniwyd am inswlin, yn ogystal â radioniwclidau, sy'n hanfodol ar gyfer offer sganio. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhaid i'r Llywodraeth ei wneud, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, yw gwneud trefniadau mewn perthynas â sut y dylid ymdrin â'r cynhyrchion a'r meddyginiaethau allweddol hyn. Nid wyf yn credu am eiliad y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwrthod mesurau arbennig ar gyfer y cynhyrchion penodol hyn sydd â phroblemau gyda'u hoes silff a'u tymheredd yn arbennig. Mae'n rhaid i chi fwrw ymlaen â hyn, yn hytrach na dweud, 'Rydym eisiau osgoi Brexit ymyl y dibyn'. Rwyf finnau eisiau ei osgoi hefyd. Mae'n rhaid i chi wneud cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â hynny yn y meysydd penodol hyn.