Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Er gwaethaf rhybuddion flwyddyn ar ôl blwyddyn gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain, mae nifer y meddygon teulu cofrestredig sy'n gweithio yng Nghymru ar ei lefel isaf ers pum mlynedd. Yn 2014, rhybuddiodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod cyfran cyllid GIG Cymru ar gyfer gofal cleifion ymarfer cyffredinol wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd, ac yn yr un flwyddyn, daeth pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru i'r Cynulliad hwn a rhybuddio bod sawl practis wedi methu llenwi swyddi gwag a bod llawer o feddygon teulu o ddifrif yn ystyried ymddeol oherwydd eu llwyth gwaith cynyddol ar hyn o bryd. Pam felly mai ymarfer cyffredinol yng Nghymru a gafodd y gyfran isaf o wariant GIG yn y Deyrnas Unedig y llynedd er gwaethaf y cynnydd yn y galw gan gleifion?