Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch i chi, Weinidog, ac fel y sonioch chi, fe wnaethoch chi ac Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad diweddar am y buddsoddiad o £13.4 miliwn mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent yn ystod eich ymweliad â chanolfan blant Serennu yn Nhŷ-du. Mae'r ganolfan a'i staff ymroddedig wedi bod yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i blant gydag anghenion cymhleth ar draws Casnewydd a'r rhanbarth ehangach ers iddi agor yn 2011. Rwy'n gwybod, o siarad gyda phlant, rhieni a staff, yn y gorffennol a'r presennol, fod y ganolfan wedi trawsnewid bywydau'r rhai sy'n ei defnyddio a'u teuluoedd. Mae darpariaeth canolfan Serennu yn unigryw, gyda thriniaethau, gofal, gwybodaeth, ymgynghoriadau a gwasanaethau hamdden i gyd o dan yr un to. Gall plant elwa o'r gofal di-dor hwn ac mae'n lleihau'r baich ar deuluoedd yn sylweddol. Felly, a all y Gweinidog amlinellu sut y defnyddir y ganolfan fel enghraifft ardderchog o'r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu'n lleol?