Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, ar ben y pwysau tymhorol cynyddol a'r pwysau arferol rŷm ni'n eu gweld ar ddoctoriaid a'r gwasanaeth iechyd, mae yna broblemau eraill yn deillio yn uniongyrchol o rai o bolisïau y Llywodraeth yma hefyd. Mae cynllun datblygu lleol Wrecsam, er enghraifft, yn rhagweld y bydd angen 10 meddyg teulu ychwanegol oherwydd y cynnydd sydd yn cael ei yrru yn y ddarpariaeth dai yn sgil y cynlluniau datblygu lleol yna. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i sicrhau bod doctoriaid digonol ar gael i gwrdd â'r galw cynyddol fydd yna'n uniongyrchol yn sgil y cynllun datblygu lleol yn Wrecsam, ac wrth gwrs y cynlluniau datblygu lleol eraill ar draws y gogledd ac, yn wir, Gymru gyfan?