Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Rwyf wedi cynnal trafodaethau gyda gweithredwyr y maes awyr fy hun, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â Maes Awyr Caerdydd, ac maent yn parhau i gydweithio'n agos â Flybe. Mae'r holl awyrennau i ac o'r maes awyr yn gweithredu yn ôl yr arfer ac wrth gwrs, nid yw gwerthu'r cwmni ond yn un opsiwn y mae'r cwmni yn ei ystyried.