Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Gwnaf. Mae storm Callum, tywydd yr hydref ac ansawdd ofnadwy'r cerbydau rydym wedi'u hetifeddu gan Trenau Arriva Cymru wedi cael effaith ar weithrediad y gwasanaethau rheilffyrdd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu cynllun adfer a bydd teithwyr yn gweld gwelliannau canlyniadol i'r gwasanaeth bob dydd dros yr ychydig wythnosau nesaf.