3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 21 Tachwedd 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau trên yn dilyn ymddiheuriad cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru am ddiffygion yn y gwasanaethau? 236
Gwnaf. Mae storm Callum, tywydd yr hydref ac ansawdd ofnadwy'r cerbydau rydym wedi'u hetifeddu gan Trenau Arriva Cymru wedi cael effaith ar weithrediad y gwasanaethau rheilffyrdd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu cynllun adfer a bydd teithwyr yn gweld gwelliannau canlyniadol i'r gwasanaeth bob dydd dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Yn eich ateb dilynol, efallai y byddwch eisiau ymuno â Trafnidiaeth Cymru ac ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd i deithwyr dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Yn bersonol, roeddwn yn credu bod y Prif Weinidog yn amddiffynnol iawn ddoe yn wyneb beirniadaeth ynglŷn â'r sefyllfa ar reilffyrdd Cymru, ac mae llawer o filoedd o deithwyr wedi dioddef, wedi methu cyrraedd y gwaith neu wedi methu cyrraedd adref o'r gwaith. Roedd fy merch fy hun yn sefyll ar blatfform yn Aberystwyth brynhawn dydd Sul yn aros am y trên, a oedd ar amser yn ôl yr arwydd—ond ni chyrhaeddodd. Nawr, bydd unrhyw un sy'n adnabod gorsaf drenau Aberystwyth yn gwybod eich bod yn cael digon o rybudd na fydd y trên yn cyrraedd. Ond ni chyrhaeddodd y trên. Nid yw hyn yn dderbyniol. Fel rwy'n dweud, roeddwn yn credu bod y Prif Weinidog yn amddiffynnol iawn yn dweud, 'Ni wnaethom addo trawsnewid y rheilffyrdd mewn mis.' Wel, nid oeddem yn beirniadu'r Llywodraeth am beidio â thrawsnewid y rheilffyrdd o fewn mis. Y pwynt a wnaed oedd bod y sefyllfa wedi gwaethygu'n gyflym iawn mewn ychydig wythnosau. Ac nid wyf yn credu ei bod yn ormod disgwyl i Lywodraeth Cymru fod ychydig yn edifeiriol a dweud, 'Iawn, mae'n ddrwg gennym. Nid yw pethau'n mynd fel y dylent mewn gwirionedd.'
Nawr, rwyf wedi dysgu tipyn dros y dyddiau diwethaf am y rhesymau a roddwyd ynglŷn â pam fod cymaint o'r trenau wedi cael eu tynnu oddi ar y cledrau. Bu'n rhaid i mi ei ddarllen ddwywaith—roeddwn yn meddwl mai problem gydag olwynion fflat ydoedd. Rwy'n gwybod digon am drenau i wybod nad dyna'r rheswm, ond mae olwynion fflat yn broblem sy'n codi pan fydd trenau'n llithro ar ddail ac ati. Felly, rydym yn cydnabod bod problemau, ac rydym yn cydnabod hefyd, mae'n debyg, y byddai yna broblemau cychwynnol. Rwy'n cefnogi Trafnidiaeth Cymru mewn egwyddor, felly nid yw hyn yn ymwneud â dymuniad i weld y Llywodraeth yn methu, oherwydd rydym eisiau gwasanaeth rheilffyrdd gwell. Ond a allwch chi ddweud wrthym y prynhawn yma, gyda'r ymddiheuriad hwnnw gan Lywodraeth Cymru i deithwyr Cymru efallai, pa fath o amserlen y dylem fod yn ei dilyn yn awr o ran pa bryd y gall pobl ddisgwyl i'r gwasanaeth trên ddychwelyd i'r drefn arferol, a rhoi'r sicrwydd rydym ei angen i ni heddiw, o ystyried bod pobl eisiau gwasanaeth gwell a'u bod wedi edrych ymlaen at weld diwedd y fasnachfraint ddiwethaf fel ein bod yn gallu dechrau pennod newydd?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Yn gyntaf oll, mae'n gwneud yr honiad fod gwasanaethau wedi gwaethygu. Mewn gwirionedd, er gwaethaf yr anawsterau diweddar, mae'r perfformiad yn ystod pedair wythnos gyntaf gweithrediad y fasnachfraint newydd a'r contract newydd wedi bod yn well na'r cyfnod cyfatebol y llynedd, ac mae hynny'n cynnwys prydlondeb. Nawr, rwy'n clywed rhai o'r Ceidwadwyr yn chwerthin. Y ffaith amdani yw nad oedd y contract blaenorol yn addas i'r diben.
Mae'r Aelod yn iawn i nodi olwynion fflat. Nawr, yr hyn rydym wedi'i ddarganfod, oherwydd rydych yn gofyn am y rhesymau, ac rwy'n credu ei bod yn hollol iawn fod teithwyr yn deall y rhesymau dros y problemau gyda gwasanaethau rheilffyrdd—. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi darganfod, yn anffodus, eu bod wedi etifeddu fflyd o drenau sy'n heneiddio—fflyd ofnadwy o drenau—ac na fuddsoddwyd ynddynt, ac mae hynny wedi arwain at ddiffyg technoleg fodern ar y trenau, ac mae hyn yn cynnwys, yn bwysig, amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro. Yr amddiffyniad hwn sy'n atal gwasanaethau rhag cael eu canslo neu eu gohirio yn ystod yr hydref, ac ni chafodd yr amddiffyniad hwn eu cynnwys ar y trenau. Pam? Oherwydd bod grymoedd y farchnad—y ffurf ar gyfalafiaeth a weithredir gennym—wedi gwneud i'r gweithredwr benderfynu y byddai'n well ganddo wneud elw yn hytrach na chynnwys amddiffyniad i atal olwynion rhag llithro ar y trenau. Bydd hynny'n dod i ben. Bydd hynny'n dod i ben. Erbyn yr hydref nesaf, bydd pob trên y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei weithredu yn cynnwys yr amddiffyniad hwn.
Nawr, yn ogystal, rwyf wedi gofyn am arfarniad llawn o'r rhesymau eraill pam ein bod wedi gweld tarfu ar rwydwaith Cymru a'r gororau yn y dyddiau diwethaf. Byddaf yn asesu a oedd yn ymwneud â'r olwynion yn unig, neu a oes ffactor arall wedi cyfrannu, megis mwy o ddail ar y rheilffyrdd nag a welsom, neu a ddigwyddodd oherwydd diffyg cynnal a chadw ar y trenau cyn i'r fasnachfraint gael ei throsglwyddo i Trafnidiaeth Cymru. Gwyddom nad yw'r fflyd o drenau a etifeddwyd wedi plesio teithwyr fel y dylent fod wedi'i wneud—mae'r trenau eu hunain yn warthus—a bydd y rhain yn cael eu newid ymhen ychydig fisoedd yn unig. Bydd y cyntaf o'r trenau newydd yn dod ar y cledrau—bydd y trenau Vivarail, y Geralds a'r 769s i gyd yn cael eu darparu y flwyddyn nesaf. Bydd pob trên Pacer yn cael ei dynnu oddi ar y cledrau y flwyddyn nesaf, ac fel y dywedais, erbyn yr hydref y flwyddyn nesaf bydd pob trên yn ddiwahân yn cynnwys amddiffyniad i atal yr olwynion rhag llithro.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod wedi cael adroddiadau am lygod mawr wedi marw yn y tyllau archwilio pan drosglwyddwyd y fasnachfraint. Dyma beth y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymdrin ag ef, ac mae Trafnidiaeth Cymru, er clod iddynt, wedi rheoli trosglwyddiad y gwasanaethau rheilffyrdd, rwy'n credu, mewn cyfnod anodd iawn, wrth gwrs, gyda llifogydd na welwyd eu tebyg o'r blaen—y llifogydd gwaethaf ers 30 mlynedd mewn rhai mannau.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi bod yn eithaf canmoliaethus tuag at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'i masnachfraint rheilffyrdd. Credaf fod cofnod ohonof yn dweud eich bod wedi bod yn arwrol o uchelgeisiol mewn perthynas â'r fasnachfraint rheilffyrdd, ond wrth wneud hynny, wrth gwrs, rydych wedi gosod y bar yn uchel, ac wrth wneud hynny rydych wedi gosod y disgwyliadau ar gyfer teithwyr. Nawr, yn yr haf, fe ddywedoch y byddwch yn cyflawni trawsnewidiad arloesol yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rydym bellach, wrth gwrs, yng nghanol yr ail fis o'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd, a Trafnidiaeth Cymru. A beth yw'r sefyllfa yn awr? Cawsom ddatganiad gan Trafnidiaeth Cymru i'r ACau neithiwr, ac roedd hynny i'w werthfawrogi, rwy'n credu, ac rwy'n croesawu hynny. Mae'n sôn am effeithiau storm Callum, ond mae'n rhaid i mi ddweud, cafodd storm Callum effaith ar draws y DU, ac mae'n ymddangos bod rhannau eraill o'r wlad wedi dod drosti, yn wahanol i ni yma yng Nghymru. Nid oedd y diweddariad yn cynnwys unrhyw esboniad pam fod blaenoriaethau'n cael eu dewis yn y ffordd y maent, felly nid pam y digwyddodd hyn rwy'n ei ofyn i chi fel y cyfryw, ond yn hytrach, pam eu bod wedi pennu'r blaenoriaethau a wnaethant.
Neithiwr, cefais sylw ar Facebook gan Dawn Jones a oedd yn dweud, 'Helpwch os gwelwch yn dda'. Mae ei merch yn teithio o'r Drenewydd i goleg Wrecsam ac mae hi'n methu teithio, nid yw'n gallu mynychu'r coleg i gael ei haddysg. Mae'n nodi bod y gwasanaeth yn casglu myfyrwyr o'r Drenewydd a'r Trallwng i fynd i goleg Amwythig hefyd. Wel, cafodd y gwasanaeth 08:40 o Aberystwyth i'r Amwythig ei ganslo bedair gwaith allan o bump yr wythnos ddiwethaf—dyna gyfradd ganslo o 80 y cant. Os edrychwch ar y gyfradd ganslo ar reilffyrdd y Cymoedd, mae'n llai nag 1 y cant. Mae'r anawsterau i deithwyr yn fwy pan fo gwasanaethau anfynych yn cael eu canslo na phan fydd y gwasanaethau'n fynych, a dyna'r broblem yma. Felly, a gaf fi ofyn cyfres o gwestiynau i chi ynglŷn â blaenoriaethau?
Na, gallwch ofyn cwestiwn—cwestiwn, nid cyfres.
Beth yw'r sail resymegol dros atal canslo gwasanaethau ar reilffyrdd y Cymoedd drwy ganslo gwasanaethau mewn ardaloedd eraill, sef yr hyn sy'n digwydd i bob pwrpas? A yw contract gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys gofyniad perfformiad gwahanol ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd, a pham fod gwasanaeth Bae Caerdydd yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth uwch o ran defnydd fesul uned, pan fydd Bws Caerdydd yn gweithredu bws capasiti uchel rheolaidd o orsaf Caerdydd Canolog i Fae Caerdydd? Pan fydd Trafnidiaeth Cymru, bob dydd, yn canslo gwasanaethau, a ydynt yn ystyried effaith gymdeithasol ac economaidd y problemau hynny hefyd, ar leoedd fel Betws-y-Coed a Dinbych-y-pysgod, sy'n lleoedd twristaidd o un flwyddyn i'r llall, neu yn y Drenewydd a'r Trallwng, lle mae myfyrwyr yn mynd i'r coleg ar wasanaeth anfynych?
Felly, a gaf fi ofyn, yn olaf: a wnaiff Trafnidiaeth Cymru addasu eu meini prawf ar gyfer blaenoriaethu achosion o ganslo i sicrhau bod y baich yn cael ei ysgwyddo yn fwy cyfartal nag y mae ar hyn o bryd?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a rhoi sicrwydd iddo nad oes unrhyw uchelgais wedi'i golli mewn perthynas â masnachfraint rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd £800 miliwn yn dal i gael ei wario ar gerbydau newydd, £194 miliwn ar fuddsoddi mewn gorsafoedd—cymharwch hynny â'r £600,000 yn unig a wariwyd dros y 15 mlynedd diwethaf—285 o wasanaethau ychwanegol, 600 o swyddi newydd, gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau carbon, gwasanaethau newydd o'r gwanwyn nesaf ymlaen, cerbydau newydd o'r gwanwyn nesaf ymlaen. Mae newid ar y ffordd, ond rwy'n derbyn bod teithwyr a grwpiau teithwyr yn teimlo'n rhwystredig. Fel y dywedais, rydym wedi profi amodau tywydd heb eu tebyg o'r blaen, ac mae'r Aelod yn llygad ei le nad yw gwasanaethau rheilffyrdd eraill, efallai, wedi dioddef cymaint, ond y rheswm am hynny, yn ôl pob tebyg, yw bod gwasanaethau rheilffyrdd eraill wedi cael y buddsoddiad y dylai cerbydau Trenau Arriva Cymru fod wedi'i gael. Ac fel y dywedais eisoes, nid oedd yr amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro yno i rwystro trenau rhag cael eu tynnu oddi ar y cledrau.
Nid oes unrhyw wasanaethau yn cael eu blaenoriaethu'n fympwyol ar gyfer eu canslo. Mae'r gwaith o flaenoriaethu yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys argaeledd gwasanaethau bysiau yn lle trenau. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o'r angen i roi sicrwydd i bobl fod chwarae teg ar waith ledled Cymru ac i bob gwasanaeth. Byddaf yn ceisio sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn ysgrifennu at yr holl Aelodau gyda'r sail resymegol dros flaenoriaethu achosion o ganslo gwasanaethau, a gwasanaethau bysiau yn lle trenau hefyd.
Yr unig beth yr hoffwn ei ychwanegu, gan nad wyf am ailadrodd popeth, yw bod brys i fynd at wraidd yr hyn a aeth o'i le, ac rydych wedi nodi ychydig o broblemau. Y brys yw nad ydym yn cyrraedd sefyllfa lle mae'r bobl sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth hwnnw, a'r bobl roeddem yn gobeithio y byddent yn defnyddio'r gwasanaeth hwnnw, yn digalonni ac yn cael eu siomi, gan olygu bod y niferoedd yn cael eu heffeithio'n negyddol ac yn sylweddol mewn modd na ellir ei wrthdroi, gan ein bod yn wirioneddol awyddus i bobl ddefnyddio'r gwasanaethau trên sydd gennym, y rhai rydych wedi buddsoddi ynddynt ac wedi sicrhau cytundeb i'w darparu.
Rwy'n falch fod y cwmni wedi ymddiheuro, ac yn bersonol, mae'n wir ddrwg gennyf fod pobl wedi wynebu anawsterau ledled fy rhanbarth, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n teimlo felly hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac mae'n debyg mai fy nghwestiwn allweddol yma yw—. Mewn rhai mannau, fel Blaenau Ffestiniog i Landudno, rwy'n deall bod gwasanaethau bysiau'n gweithredu yn lle trenau. A fydd y gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn ddigonol yn lle'r gwasanaethau trên a gollwyd, fel y gall pobl symud o amgylch y rhanbarth fel roeddent yn gobeithio?
Wel, credaf fod Joyce Watson yn crybwyll pwynt pwysig iawn ynghylch integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Joyce yn sôn am yr angen i sicrhau bod gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn ddigonol. Wel, pan fyddaf yn gallu amlinellu diwygiadau i wasanaethau bws cyhoeddus lleol, a chynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, credaf y bydd yr Aelodau'n gallu gwerthfawrogi sut y byddwn yn mynd ati i integreiddio gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau yn well er mwyn sicrhau bod pwyntiau teithio mor ddi-dor ag y gallant fod o'r dechrau i'r diwedd—fod teithio mor ddi-dor ag y gall fod o ddechrau'r daith i'r diwedd.
Dylwn ddweud unwaith eto fod y contract blaenorol wedi'i osod ar sail dim twf yn nifer y teithwyr dros gyfnod o 15 mlynedd, ac felly, o ganlyniad, pan wnaethom etifeddu fflyd echrydus o drenau, roedd y trenau eisoes o dan bwysau a dros eu capasiti. Yn ystod misoedd yr hydref, pan ddifrodwyd y trenau—pan ddifrodwyd yr olwynion—mae hynny wedi cyfrannu at waethygu problemau capasiti. Mae'n rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru yn ymdrin ag ef. Maent wedi rhoi rhaglen o waith adfer ar waith. Rydym yn ystyried a ellir defnyddio opsiynau lliniarol ychwanegol, megis defnyddio turnau olwynion y tu allan i Gymru, i fynd i'r afael â'r ôl-groniad presennol o waith cynnal a chadw.
Ond unwaith eto, buaswn yn dweud bod storm Callum yn ddigynsail mewn sawl rhan o Gymru a chredaf y byddwn ar fai pe na bawn yn diolch ar goedd i staff y rhwydwaith a sicrhaodd fod cynifer o wasanaethau â phosibl yn weithredol, ac mewn llawer o achosion, fe wynebodd rhai ohonynt ddigwyddiadau brawychus, lle roedd coed yn taro trenau, a lle bu'n rhaid i drenau fynd drwy lifddwr go sylweddol.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe'ch gwahoddaf unwaith eto i ymddiheuro, gan fy mod wedi sylwi nad ydych wedi ymddiheuro ar goedd eto. Ond a gaf fi rywfaint o eglurhad ynglŷn â'r datganiad a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru ddoe—datganiad a groesewir i roi trosolwg inni o'r sefyllfa? O'r 127 injan sydd ar gael iddynt, dywedant fod 36 oddi ar y cledrau, fel petai, yn y gweithdai, yn yr ail baragraff. Yna, dywedant, 'Hefyd, ar hyn o bryd mae gennym 21 uned yn anweithredol'. Felly, os ydych yn adio 36 a 21 at ei gilydd, mae gennych hanner y fflyd, bron â bod, yn anweithredol. A allwch gadarnhau bod hynny'n wir a bod y locomotifau 769 a gyhoeddwyd gennych yn ôl ym mis Gorffennaf 2017, a oedd i fod i ddod yn rhan o'r gwasanaeth ym mis Mai 2018, ar gael i'r fasnachfraint fel y gallant gryfhau'r fflyd, neu a ydym yn dal i aros i'r trenau hynny ddod yn weithredol?
Yn gyntaf oll, o ran ymddiheuriadau, dylai fod ymddiheuriad wedi'i roi ers amser maith am y tanfuddsoddi—tanfuddsoddi ofnadwy a hanesyddol—yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru; 1 y cant o gyllid ar gyfer yr hyn sy'n ganran dau ddigid o reilffordd. Mae'n rhaid dweud nad ydym wedi dod o hyd i dystiolaeth bendant eto mai'r traciau oedd gwraidd y broblem, ond mae'n bosibl iawn fod y seilwaith gwael y mae'r trenau'n gweithredu arno yn ffactor cyfrannol. Yn sicr, yn gynharach yn y flwyddyn, gyda thrac wedi cracio, roedd hynny'n rhan o'r broblem a arweiniodd at ganslo gwasanaethau trenau mewn sawl rhan o Gymru.
Nawr, mae cerbydau ychwanegol, o ganlyniad i ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, wedi cael eu darparu ar y rhwydwaith. Ond rydym yn archwilio nifer o ffyrdd y gallwn ddod â cherbydau ychwanegol ar sail fyrdymor i Gymru, tra bo'r trenau Vivarail, 769 a Gerald yn cael eu cyflenwi. Mae'n bwysig fod pobl yn cydnabod, Ddirprwy Lywydd, fod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau cerbydau ychwanegol ar gyfer y rhwydwaith, ac ar yr un pryd, maent yn gweithio bob awr o'r dydd i sicrhau bod y trenau a ddifrodwyd yn sgil storm Callum yn ôl ar y cledrau cyn gynted â phosibl.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.