Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr. Mae'r wythnos yma yn rhan o ymgyrch flynyddol y Cenhedloedd Unedig 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd. Pwrpas yr ymgyrch ydy tynnu sylw'r byd at broblem enfawr trais yn erbyn menywod gan wthio am weithredu ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang yn ei erbyn. Mae dewrder a phenderfyniad y menywod sy'n rhan o fudiadau fel #MeToo a Time's Up wedi taflu goleuni ar brofiadau cwbl annerbyniol. Nid problem i Hollywood yn unig yw hwn, wrth gwrs. Mae un ymhob pedair dynes yng Nghymru a Lloegr wedi profi cam-drin domestig ers eu bod yn 16 oed. Roedd dros 0.5 miliwn o fenywod wedi profi ymosodiad rhywiol yn 2016-17. Mae un ymhob saith myfyrwraig wedi profi ymosodiad rhywiol neu gorfforol difrifol tra yn y brifysgol.
Gadewch i ni ddweud heddiw yn hollol ddiamod: ni ddylai unrhyw ddynes na merch yng Nghymru orfod byw mewn ofn o drais neu aflonyddu rhywiol. Ers blynyddoedd, mae distawrwydd a stigma wedi peri i drais yn erbyn menywod barhau. Er mwyn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru unwaith ac am byth, mae angen adnoddau a gweithredu ar unwaith ac ar raddfa ddigonol i ateb y galw. Yn sicr, mae angen rhoi cefnogaeth i bob un dynes a merch yng Nghymru sydd wedi profi'r fath profiadau erchyll.