Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Ddirprwy Lywydd, ddydd Sadwrn, 24 Tachwedd, mae'r Ukrain a'r gymuned ryngwladol yn nodi diwrnod i gofio dioddefwyr newyn artiffisial Stalin ym 1932-33 a elwir yn Holodomor, sydd, yn yr Ukraineg, yn golygu 'marwolaeth drwy newyn'. Fel Aelod o senedd Cymru, byddaf yn mynychu'r gwasanaeth coffa yn Kiev.
Newyn a grëwyd gan Stalin oedd hwn i orfodi cyfunoli amaethyddiaeth ac i chwalu'r gwrthsafiad Ukrainaidd yn erbyn rheolaeth Rwsia Sofietaidd. Cafwyd mwy na 4,000 gwrthryfel yn erbyn y polisi hwn, ac fe'u trechwyd yn ddidrugaredd. Ym mis Rhagfyr 1932 gorchmynnodd pwyllgor canolog y Blaid Gomiwnyddol fod yn rhaid atafaelu'r holl rawn, gan gynnwys hadau ar gyfer eu hau. Cafodd pentrefi nad oeddent yn cydweithredu eu cosbrestru a'u llwgu i farwolaeth yn fwriadol, ac alltudiwyd oddeutu 1 miliwn o bobl i Siberia. Bu farw rhwng 4 miliwn a 6 miliwn o bobl. Amcangyfrifir bod oddeutu dwy ran o dair ohonynt yn blant. Mae'n amhosibl gwybod beth yw'r union ffigurau, gan fod Stalin wedi gorchymyn bod yn rhaid dinistrio'r holl gofnodion.
Roedd y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, a gaiff ei anrhydeddu yn yr Ukrain, yn dyst i'r Holodomor ac roedd yn un o'r ychydig newyddiadurwyr a fu'n ddigon dewr i adrodd ar raddfa'r newyn a'i achosion. Mae llawer o wledydd ledled y byd wedi cydnabod yr Holodomor fel gweithred o hil-laddiad. Mae 9 Rhagfyr eleni yn nodi 70 mlynedd ers i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Atal a Chosbi Trosedd Hil-laddiad gael ei fabwysiadu ym 1948. Ddydd Sadwrn, bydd aelodau o'r diaspora Ukrainaidd sy'n byw yng Nghymru a ledled y byd yn gosod canhwyllau wedi'u cynnau yn eu ffenestri er cof am y dioddefwyr.