6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Creu'r Diwylliant Cywir

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 4:31, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru arwain y ffordd ar sicrhau ei bod hi'n glir nad oes lle i ymddygiad amhriodol yn ein cymdeithas. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi cam pwysig tuag at greu'r math o amgylchedd y mae pawb ohonom am weithio ynddo. Fel pwyllgor, roeddem yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith mai'r pethau syml weithiau sy'n chwalu rhwystrau a sicrhau newid.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor—gan gynnwys Llyr Gruffydd a Paul Davies, sydd bellach wedi gadael—am eu gwaith caled a'u penderfyniad i sicrhau bod pob ymdrech wedi'i gwneud i lunio argymhellion a fydd yn sicrhau newid go iawn. Gwyddom nad yw'r adroddiad hwn yn cynhyrchu'r atebion i gyd, ond mae'n gam pwysig ymlaen i'r sefydliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad. Casglwyd peth o'r dystiolaeth hon mewn amgylchedd cyfrinachol, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i bobl am rannu eu profiadau a'u harbenigedd. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb am eu hamynedd ynglŷn â'r amser a gymerodd. Rydym wedi gweithredu i wneud newidiadau, megis ymgorffori'r polisi urddas a pharch, cyn gynted ag y gallem, ond teimlem ei bod yn ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn cael y dystiolaeth ehangaf bosibl i lywio ein hadroddiad.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf cafwyd sylw helaeth i ymddygiad amhriodol ac aflonyddu rhywiol ar draws y gymdeithas. Mae pobl o ystod eang o sectorau wedi sôn am eu profiadau o ymddygiad amhriodol yn y gweithle. Yn 2016, cynhaliodd Cyngres yr Undebau Llafur a'r Prosiect Rhywiaeth Pob Dydd arolwg a ganfu fod 52 y cant o fenywod wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith—ac mae'n peri pryder mawr fod 79 y cant o'r menywod hyn heb ddweud wrth eu cyflogwr. Mae #MeToo—cam sydd wedi caniatáu i bobl ledled y byd i siarad ac i leisio eu pryderon—wedi dangos na ellir gwadu'r angen am newid. Yn sicr, nid yw gwleidyddiaeth yn eithriad. Fel gwleidyddion etholedig, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod yr esiampl orau a'r safonau uchaf i'r gymdeithas ehangach. Mae'n hanfodol fod pob un ohonom yn cymryd cyfrifoldeb. Rhaid inni beidio â goddef ymddygiad amhriodol yn ein sefydliad, a rhaid tynnu sylw ato lle bynnag y byddwn yn ei weld. Dyma'r peth lleiaf y gallwn ei wneud.

Gwnaeth y pwyllgor 21 o argymhellion yn yr adroddiad a'r bwriad yw iddynt godi'r bar. Ar ôl gwrando ar y rhai a roddodd dystiolaeth i ni, nid oedd gennym unrhyw amheuaeth fod yn rhaid i bethau newid. Rydym yn bwriadu rhoi nifer o welliannau ar waith a fydd yn gwneud y broses gwyno'n fwy hygyrch ac wedi'i theilwra i fynd i'r afael ag anghenion pobl sydd am leisio pryderon. Mae'r rhain yn cynnwys hawl i apelio a ffrâm amser hwy ar gyfer gwneud cwynion. Rhaid inni gael system sy'n galluogi ac yn grymuso pobl i roi gwybod a mynegi pryderon, yn hytrach na gosod rhwystrau yn eu ffordd yn anfwriadol. Rhaid i'r system fod yn hyblyg fel bod pobl yn cael sicrwydd y bydd eu pryderon unigol yn cael eu trin mewn modd sensitif.

Rydym hefyd yn gweithio ar gynigion i newid y cod ymddygiad. Mae'r pwyllgor yn credu y gellir gwneud mwy i wneud yn siŵr fod pobl yn gwybod beth y dylent ei ddisgwyl gennym. Lluniwyd y cod yn dilyn y sgandal treuliau yn San Steffan ac roedd yn rhoi sylw penodol i'r rheolau ynglŷn â chywirdeb ariannol. Er bod y cod yn cynnwys cwynion yn ymwneud ag urddas a pharch drwy ei gwneud yn ofynnol i Aelodau weithredu gydag anrhydedd personol ac uniondeb, teimlwn y dylid cael eglurder ynglŷn â pha fath o ymddygiad sy'n tramgwyddo yn erbyn y cod.