– Senedd Cymru am 4:31 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Eitem 6 ar ein hagenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru arwain y ffordd ar sicrhau ei bod hi'n glir nad oes lle i ymddygiad amhriodol yn ein cymdeithas. Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi cam pwysig tuag at greu'r math o amgylchedd y mae pawb ohonom am weithio ynddo. Fel pwyllgor, roeddem yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith mai'r pethau syml weithiau sy'n chwalu rhwystrau a sicrhau newid.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor—gan gynnwys Llyr Gruffydd a Paul Davies, sydd bellach wedi gadael—am eu gwaith caled a'u penderfyniad i sicrhau bod pob ymdrech wedi'i gwneud i lunio argymhellion a fydd yn sicrhau newid go iawn. Gwyddom nad yw'r adroddiad hwn yn cynhyrchu'r atebion i gyd, ond mae'n gam pwysig ymlaen i'r sefydliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad. Casglwyd peth o'r dystiolaeth hon mewn amgylchedd cyfrinachol, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i bobl am rannu eu profiadau a'u harbenigedd. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb am eu hamynedd ynglŷn â'r amser a gymerodd. Rydym wedi gweithredu i wneud newidiadau, megis ymgorffori'r polisi urddas a pharch, cyn gynted ag y gallem, ond teimlem ei bod yn ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn cael y dystiolaeth ehangaf bosibl i lywio ein hadroddiad.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf cafwyd sylw helaeth i ymddygiad amhriodol ac aflonyddu rhywiol ar draws y gymdeithas. Mae pobl o ystod eang o sectorau wedi sôn am eu profiadau o ymddygiad amhriodol yn y gweithle. Yn 2016, cynhaliodd Cyngres yr Undebau Llafur a'r Prosiect Rhywiaeth Pob Dydd arolwg a ganfu fod 52 y cant o fenywod wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith—ac mae'n peri pryder mawr fod 79 y cant o'r menywod hyn heb ddweud wrth eu cyflogwr. Mae #MeToo—cam sydd wedi caniatáu i bobl ledled y byd i siarad ac i leisio eu pryderon—wedi dangos na ellir gwadu'r angen am newid. Yn sicr, nid yw gwleidyddiaeth yn eithriad. Fel gwleidyddion etholedig, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod yr esiampl orau a'r safonau uchaf i'r gymdeithas ehangach. Mae'n hanfodol fod pob un ohonom yn cymryd cyfrifoldeb. Rhaid inni beidio â goddef ymddygiad amhriodol yn ein sefydliad, a rhaid tynnu sylw ato lle bynnag y byddwn yn ei weld. Dyma'r peth lleiaf y gallwn ei wneud.
Gwnaeth y pwyllgor 21 o argymhellion yn yr adroddiad a'r bwriad yw iddynt godi'r bar. Ar ôl gwrando ar y rhai a roddodd dystiolaeth i ni, nid oedd gennym unrhyw amheuaeth fod yn rhaid i bethau newid. Rydym yn bwriadu rhoi nifer o welliannau ar waith a fydd yn gwneud y broses gwyno'n fwy hygyrch ac wedi'i theilwra i fynd i'r afael ag anghenion pobl sydd am leisio pryderon. Mae'r rhain yn cynnwys hawl i apelio a ffrâm amser hwy ar gyfer gwneud cwynion. Rhaid inni gael system sy'n galluogi ac yn grymuso pobl i roi gwybod a mynegi pryderon, yn hytrach na gosod rhwystrau yn eu ffordd yn anfwriadol. Rhaid i'r system fod yn hyblyg fel bod pobl yn cael sicrwydd y bydd eu pryderon unigol yn cael eu trin mewn modd sensitif.
Rydym hefyd yn gweithio ar gynigion i newid y cod ymddygiad. Mae'r pwyllgor yn credu y gellir gwneud mwy i wneud yn siŵr fod pobl yn gwybod beth y dylent ei ddisgwyl gennym. Lluniwyd y cod yn dilyn y sgandal treuliau yn San Steffan ac roedd yn rhoi sylw penodol i'r rheolau ynglŷn â chywirdeb ariannol. Er bod y cod yn cynnwys cwynion yn ymwneud ag urddas a pharch drwy ei gwneud yn ofynnol i Aelodau weithredu gydag anrhydedd personol ac uniondeb, teimlwn y dylid cael eglurder ynglŷn â pha fath o ymddygiad sy'n tramgwyddo yn erbyn y cod.
Mae'r pwyllgor yn falch fod Comisiwn y Cynulliad wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hargymhellion a'i fod yn rhannu ein gweledigaeth o Gynulliad cynhwysol, sy'n rhydd rhag aflonyddu. Mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at gael y newyddion diweddaraf gan y Comisiwn ynglŷn â sut y mae'r argymhellion hyn yn mynd rhagddynt. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar i Gomisiwn y Cynulliad am y wybodaeth ddiweddaraf sydd wedi tynnu sylw at waith y swyddogion cyswllt, a fu ar waith bellach ers mis Mai. Mae'n amlwg fod unigolion yn troi atynt am gefnogaeth ac arweiniad drwy'r prosesau cwyno sydd ar gael. Bydd yr Aelodau'n deall na rannwyd unrhyw fanylion oherwydd cyfrinachedd, ond roedd hi'n galonogol clywed bod defnydd yn cael ei wneud o'r gwasanaeth ychwanegol hwn bellach.
Hefyd roedd y pwyllgor yn falch o glywed, yn dilyn tystiolaeth i'n hymchwiliad, fod cymorth ychwanegol wedi'i ddarparu i swyddfa'r comisiynydd safonau annibynnol. Mae staff Comisiwn y Cynulliad wedi bod yn gweithio gyda'r comisiynydd safonau a bellach wedi sicrhau secondiad ychwanegol i gynorthwyo'r swyddfa. Mae hyn yn golygu mwy o gydbwysedd rhwng y rhywiau i'r swyddfa, rhywbeth y gobeithir y bydd yn annog pobl i deimlo'n fwy cyfforddus wrth siarad am unrhyw faterion sy'n peri pryder. Mae hefyd yn golygu y gellir canfod ffeithiau a gwneud gwaith ymchwilio yn fwy effeithlon ac effeithiol, i gynorthwyo'r comisiynydd i symud achosion sy'n aml yn gymhleth yn eu blaenau.
Mae'r pwyllgor yn argymell i'r Comisiwn y dylid rhoi ystyriaeth i sut y gall pobl roi gwybodaeth yn ddienw. Credwn fod tystiolaeth o'r sector addysg uwch yn dangos, yn hytrach na mynd ar drywydd cwyn ffurfiol, weithiau ei bod yn well gan bobl gael adnodd sy'n caniatáu iddynt gofnodi digwyddiad ar-lein. Gallai hyn helpu i nodi patrwm ymddygiad unigolyn hefyd. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn cydnabod pryderon ynglŷn â rhoi gwybodaeth yn ddienw ac rydym yn glir fod yn rhaid cynnal proses gyfiawn yn ystod yr ymchwiliad ffurfiol i gŵyn. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod angen rhoi gwybod i'r sawl a gyhuddir a'i bod hi'n anodd cynnal cyfrinachedd mewn achosion o'r fath.
Mae'r pwyllgor yn argymell bod cod y Gweinidogion yn cael ei roi yng nghylch gwaith ymchwilio y comisiynydd safonau. Roeddem yn teimlo y byddai'r rhai sydd am wneud cwyn yn ymwneud ag Aelod Cynulliad yn elwa o un pwynt cyswllt. Ni fyddai angen ystyried pa rôl a oedd yn cael ei chyflawni ar yr adeg y byddai'r weithred amhriodol yn digwydd. Gwnaeth y Prif Weinidog ystyried a gwrthod yr argymhelliad hwn, gan ei fod yn teimlo y bydd y system oruchwylio annibynnol y mae'n ei chyflwyno yn ychwanegu digon o wahaniad. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod hyn yn gyson â dulliau llawer o Lywodraethau eraill, ond teimlem fod hwn yn gyfle i ychwanegu eglurder ac annibyniaeth lawn i'r system. Nodaf y bydd datganiad ysgrifenedig ar hyn cyn bo hir, a bydd y pwyllgor yn ei ystyried gyda diddordeb.
Ni all newid diwylliannol ddigwydd dros nos—mae'n cymryd amser ac ymroddiad, ac nid yw'r adroddiad hwn yn safbwynt terfynol. Bydd y pwyllgor am ei gwneud yn glir fod angen help pawb arnom i ffurfio amgylchedd yn seiliedig ar urddas a pharch. Yn yr adroddiad hwn rydym wedi ceisio gweithredu lle y gwelsom fod angen gweithredu. Rydym yn agored i awgrymiadau ar sut i wella, ac rydym yn benderfynol o gael hyn yn iawn. Gofynnwn i bawb weithio gyda ni, oherwydd gyda'n gilydd rhaid inni sicrhau bod y Cynulliad fel sefydliad yn gosod yr esiampl orau.
A gaf fi gofnodi fy niolch diffuant i glercod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad am eu gwaith caled drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Mae creu'r diwylliant iawn mewn unrhyw weithle yn hanfodol i amgylchedd gwaith addas ac effeithiol, a chredaf fod pob plaid yn y Siambr hon yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd o'r fath. Felly, rwy'n falch o fod wedi eistedd ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac rwy'n gobeithio y daw cyhoeddi'r adroddiad hwn â ni gam yn nes at hyrwyddo diwylliant o urddas a pharch o fewn y Cynulliad.
Credaf fod hwn yn adroddiad da, ac felly rwy'n siomedig, wrth ymateb i'r adroddiad hwn, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad i'r Prif Weinidog gyfeirio cwynion yn ymwneud â Gweinidogion y Llywodraeth at swyddfa'r comisiynydd safonau fel y gall y comisiynydd adrodd wrth y corff perthnasol yn sgil hynny. Yn anffodus, rwy'n credu bod gwrthod yr argymhelliad hwn yn cyfleu'r neges fod un rheol i Aelodau'r Cynulliad ac un rheol i Weinidogion y Llywodraeth, ac i fod yn gwbl onest, nid wyf yn meddwl y bydd hynny'n plesio pobl Cymru. Rhaid i'r Cynulliad wneud popeth yn ei allu i ennyn hyder y cyhoedd yn ei weithdrefnau, a chredaf fod Llywodraeth Cymru, drwy wrthod yr argymhelliad hwn, yn cyfleu neges y bydd y Prif Weinidog yn ymdrin â'i gylch mewnol ei hun y tu ôl i ddrysau caeëdig ac i ffwrdd oddi wrth unrhyw graffu annibynnol.
Mae rhesymeg Llywodraeth Cymru dros wrthod yr argymhelliad yn egluro, lle mae'n amlwg fod Gweinidog yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o'r Cynulliad pan ddigwyddodd y camymddygiad honedig, y byddai'r Prif Weinidog yn yr amgylchiadau hynny, yn ei hystyried yn briodol i'r comisiynydd safonau ymdrin â'r mater. Wel, does bosib nad yw Gweinidogion Llywodraeth yn Weinidogion Llywodraeth drwy'r amser. Credaf y bydd pobl Cymru'n cael trafferth deall pa bryd y bydd Gweinidog wedi clocio allan, fel petai, ac ond yn gwneud ei waith yn ei rôl fel Aelod Cynulliad. Yn sicr, byddai'n haws i'r cyhoedd ddeall pe bai cwynion ac ymchwiliadau cychwynnol yn cael eu trin gan y comisiynydd safonau annibynnol. Yn ddi-os bydd Llywodraeth Cymru'n dadlau nad yw hynny'n wir mewn seneddau eraill, ond nid oes raid i'r Cynulliad ddilyn deddfwrfeydd eraill bob amser. Nid oes unrhyw beth i'n hatal rhag gosod ein hagenda ein hunain ar y mater hwn.
Nawr, un o elfennau'r adroddiad yw sicrhau bod unigolion yn teimlo wedi'u grymuso i gyflwyno pryderon neu gwynion. Fel pwyllgor, gwn ein bod wedi clywed tystiolaeth ar y mater hwn. Y neges amlwg a gafwyd oedd nad oedd y diwylliant presennol yn ddigon cefnogol i achwynwyr na'n annog pobl i gyflwyno cwynion a phryderon. Mewn ymateb i hynny, gwn fod Comisiwn y Cynulliad wedi rhoi camau ar waith ar unwaith i ddiweddaru ei wefan i geisio ei gwneud yn haws i bobl ddeall a dod o hyd i'w ffordd drwy'r broses gwyno. Ond wrth gwrs, mae angen gwneud llawer mwy.
Mae'r llinell gymorth gyfrinachol a chyfres o bosteri yn cael eu harddangos bellach ledled ystâd y Cynulliad. Unwaith eto, mae'r camau gweithredu hynny hefyd i'w croesawu'n fawr iawn. Mae hefyd yn dda gweld y bydd y prosesau presennol yn cael eu monitro'n rheolaidd drwy gyfrwng ymarfer cwsmer cudd i bennu a yw'r deunydd presennol ar sut i wneud cwyn yn effeithiol, yn hawdd eu deall ac yn ymarferol wrth symud ymlaen. Mae'r camau hyn yn bwysig er mwyn dangos ymrwymiad y Cynulliad i sicrhau bod achwynwyr yn ymwybodol o sut y gallant wneud cwyn a sut i ddod o hyd i'w ffordd drwy'r broses.
Nawr, fel y dywedodd y Cadeirydd, mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn galw am ddatblygu pecyn adrodd ar-lein i alluogi pobl i roi gwybod am achosion o ymddygiad amhriodol—yn ddienw neu drwy ddatgeliad gan roi enw. Rwy'n deall y sensitifrwydd ynglŷn ag adrodd yn anhysbys, ond clywodd aelodau'r pwyllgor fod Prifysgol Caerdydd wedi gwneud gwaith arloesol yn y maes hwn ac felly mae'n dda gweld Comisiwn y Cynulliad yn myfyrio ar lwyddiannau gwaith gan sefydliadau eraill ar hyn.
Rwy'n sylweddoli fod swyddogion cyswllt eisoes wedi'u sefydlu, fel yr amlinellir yn y polisi urddas a pharch a chanllawiau cysylltiedig, ac mae ganddynt rôl i adrodd achosion yn ddienw i'r pennaeth adnoddau dynol, a fydd wedyn yn monitro, yn cofnodi ac yn adrodd ar batrymau ymddygiad. Fodd bynnag, deallaf y bydd y Comisiwn yn dymuno cael cyngor pellach ar hyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd cyn dod i gasgliad cadarnach ar adrodd dienw, pan fydd y prosesau hynny wedi cael cyfle i ddatblygu. Wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gall Cadeirydd y pwyllgor gadarnhau a fydd y pwyllgor yn dychwelyd at y mater penodol hwn maes o law.
Yn olaf, Lywydd, nododd y pwyllgor y cyfryngau cymdeithasol fel maes lle y ceir lefelau cynyddol o ymddygiad amhriodol, ac yn yr oes dechnolegol brysur hon, mae'n hollbwysig fod seneddau'n ymateb i fygythiadau ar-lein. Mae pawb ohonom yn gwybod bod manteision enfawr i'r cyfryngau cymdeithasol—sef rhannu gwybodaeth gyda'r cyhoedd ac ymgysylltu ag etholwyr—ac rwy'n falch fod y pwyllgor yn gweithio i ddatblygu canllawiau ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a'i fod yn bwriadu sefydlu cysylltiad llawer mwy amlwg rhwng yr hyn sy'n dderbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r cod ymddygiad. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am y datblygiadau hynny wrth iddynt digwydd.
I gloi, mae'n hanfodol fod pob Aelod yn deall o ddifrif pa mor bwysig yw'r ymchwiliad hwn a bod camau cadarn yn cael eu cymryd a'u hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y Cynulliad yn creu diwylliant sy'n grymuso pobl i roi gwybod pan fyddant yn tystio i, a/neu'n dioddef ymddygiad amhriodol. Rhaid i'r Cynulliad fel sefydliad edrych tua'r dyfodol, a bod yn flaengar ac yn barod i fynd i'r afael â'i wendidau. Felly, rwy'n annog pob aelod yn y Siambr hon i gefnogi pob un o argymhellion y pwyllgor ac ymrwymo i sefydlu proses gwyno sy'n deg, yn dryloyw ac yn addas at y diben. Diolch.
Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod newydd o'r Pwyllgor, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd am ei chroeso ac aelodau eraill y pwyllgor, staff y pwyllgor, sydd wedi bod yn gefnogol iawn yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yn fy nghynorthwyo i ymgyfarwyddo â'r gwaith, a diolch i Llyr Gruffydd am fod wedi cynrychioli Plaid Cymru mor fedrus ar y pwyllgor yn y gorffennol.
Lywydd, nid yw'r materion y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy yn newydd. Byddwn weithiau'n clywed pobl yn dweud bod safonau a disgwyliadau wedi newid mewn perthynas ag ymddygiad. Y gwir amdani yw nad yw hynny'n wir. Mae pobl, yn enwedig menywod, bob amser wedi gwybod beth sydd, a beth nad yw'n briodol. Rydym bob amser wedi gwybod y gwahaniaeth rhwng sgyrsiau doniol a pherthynas ramantaidd hyd yn oed rhwng oedolion cyfartal sy'n cydsynio yn y gweithle, ac aflonyddu rhywiol a cham-drin rhywiol sy'n gamddefnydd o rym. Yr hyn sydd wedi dechrau newid, fodd bynnag—a buaswn yn dweud, 'Hen bryd, hefyd', yw'r diwylliant sydd wedi goddef a lleihau'r achosion hyn o gamddefnyddio grym.
Mae'n wir yn ddi-os, fel y mae'r adroddiad hwn yn amlygu, fod natur wleidyddol ein sefydliad yn anochel yn arwain at anghydbwysedd grym cynyddol, ac mae'n hollbwysig felly ein bod yn cael hyn yn iawn, gan greu diwylliant yma lle na oddefir aflonyddu o unrhyw fath, lle bydd tystion fel mater o drefn yn tynnu sylw at ymddygiad annerbyniol, a lle y grymusir y rhai sydd wedi dioddef ymddygiad o'r fath i roi gwybod amdano a chael eu credu. Drwy hynny, gallwn gyfrannu at newid diwylliannol ehangach.
Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn yn fawr, yn ogystal ag ymateb prydlon a chadarnhaol y Comisiwn i'r argymhellion.
Nawr, mae'r Cadeirydd a Paul Davies wedi cyfeirio eisoes at ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 12, a theimlaf fod yn rhaid i brif ran fy sylwadau fynd i'r afael â hyn. Ni allaf fynegi pa mor siomedig rwyf fi ynghylch ymateb y Prif Weinidog. Buaswn wedi disgwyl ymateb unfrydol ar draws y Siambr nid yn unig fod yn rhaid disgwyl y safonau uchaf o ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus gan bob un ohonom fel Aelodau Cynulliad, ond fod rhaid i'r safonau hynny fod yn berthnasol hefyd i'r holl Weinidogion, ac nid yn unig fod rhaid i'r safonau hynny gael eu cymhwyso a'u gorfodi, ond bod rhaid i'r cyhoedd allu gweld eu bod yn cael eu cynnal a'u gorfodi.
Rwy'n synnu'n fawr am beth y mae Prif Weinidog yn ei ddweud ym mharagraff 5 o'i ymateb i argymhelliad 12. Mae'n nodi bod y pwyllgor o'r farn, a dyfynnaf,
'y byddai hyder y cyhoedd yn gwella pe bai'r Comisiynydd Safonau'n ymgymryd â'r rôl'
—sef y rôl o ymchwilio i gwynion o dan god y Gweinidogion, ond—
'nid yw'r Prif Weinidog yn rhannu'r farn'.
Nawr, gallaf dderbyn, hyd at bwynt, yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud am yr angen posibl i wahaniaethu rhwng rôl Aelod Cynulliad a phan fo rhywun yn gweithredu fel Gweinidog, ond cytunaf â'r hyn y mae Paul Davies yn ei ddweud: gallwn wneud y gwahaniaethau hynny yma yn y Siambr a gallwn eu deall, ond i'r cyhoedd, ni allaf ddeall sut y dylid disgwyl iddynt ddirnad y gwahaniaeth. Ac rwy'n ei chael hi'n anos byth i dderbyn a deall barn y Prif Weinidog y byddai rywsut yn ddryslyd i'r comisiynydd safonau ymchwilio i achosion honedig o dramgwyddo cod y Gweinidogion. Does bosib na ddylai'r sawl a benodir gennym i'r rôl bwysig hon allu cyflawni ymchwiliadau o dan ddwy set o wahanol ddisgwyliadau. Ni allaf weld pam y byddai defnyddio'r comisiynydd safonau i ymchwilio yn cymylu'r nod mewn unrhyw ffordd mewn perthynas â gwahanu pwerau rhwng y Weithrediaeth a'r Cynulliad, ac fel y dywedodd Paul Davies, i'r cyhoedd mae hwnnw'n bwynt dadleuol beth bynnag. Safonau ymddygiad yw safonau ymddygiad.
Nawr, pe bai'n wir fod rhywfaint o gymylu ar y pwerau rhwng y Weithrediaeth a'r Senedd yn yr awgrym a wnaeth y pwyllgor, rhaid i'r Prif Weinidog fynd ati, fan lleiaf, i sefydlu system ymchwilio barhaol, annibynnol ac ar wahân y dylid cyfeirio pob cwyn am bob achos posibl o dorri cod y Gweinidogion ati. Ni all fod o fudd i dryloywder neu'n ffafriol i hyder y cyhoedd os oes gan y Prif Weinidog ddisgresiwn i benderfynu a yw cwyn neu bryder yn torri'r cod mewn gwirionedd ac yn galw am ymchwiliad. A buaswn yn cyd-fynd â'r hyn a ddywedodd Paul Davies. Nid wyf yn awgrymu bod y penderfyniadau hyn mewn unrhyw ffordd yn amheus neu wedi eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig, ond y perygl yw mai dyna sut y bydd pobl yn eu gweld. Beth bynnag, nid yw'n iawn i'r Prif Weinidog gael hawl i benderfynu a oes achos posibl o dorri'r cod ai peidio, a dylai atgyfeiriadau at broses annibynnol fod o leiaf yn awtomatig. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd, rwy'n gobeithio y caiff hynny ei gynnig i ni yn y datganiad rydym i'w gael yn awtomatig.
A buaswn hefyd yn dweud nad yw beth y mae Seneddau eraill yn ei wneud yn berthnasol yma. Yn gyson rydym wedi penderfynu yn y Cynulliad hwn ein bod am fod yn well na Seneddau eraill, boed drwy sefydlu'r comisiynydd plant, er enghraifft, ymhell cyn i Seneddau eraill y DU lwyddo i wneud yr un peth. Fel y mae Paul Davies wedi dweud, credaf y dylem fod yn gosod safonau uwch ar ein cyfer ni ein hunain, a dylai'r rheini fod yn safonau uwch ar gyfer sicrhau tryloywder.
O ran goruchwylio cod y Gweinidogion, rwy'n dal i gredu bod argymhelliad gwreiddiol y pwyllgor yn ateb ymarferol a synhwyrol. Ac wrth gwrs, un ffordd neu'r llall, bydd gennym Brif Weinidog newydd cyn bo hir, a hoffwn ofyn i Gadeirydd y pwyllgor a yw'n credu y byddai'n briodol i ni fel pwyllgor fynd at y Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bydd ef neu hi, a gofyn iddynt ailystyried yr ymateb hwn.
I gloi, Lywydd, mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl i ni yn y lle hwn osod y cywair ar gyfer bywyd cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yng Nghymru. Os ydym yn mynd i wneud hynny, rhaid inni fod mor sicr ag y gallwn fod fod pawb sy'n gweithio yma neu'n ymweld â'r lle hwn, neu sy'n cydweithio â ni, yn teimlo eu bod yn cael parch a'u trin ag urddas. Mae'r adroddiad hwn a gweithredoedd y Comisiwn a'r ymateb cadarnhaol i'r adroddiad hwn, yn gam enfawr i'r cyfeiriad cywir hwnnw, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Siambr.
A gaf fi groesawu'r ddadl hon ar adroddiad y pwyllgor safonau, 'Creu'r Diwylliant Cywir', ac a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd a'r aelodau am gynnal yr ymchwiliad a chynhyrchu'r adroddiad hwn gydag argymhellion rwy'n eu cefnogi?
Mae'n briodol cynnal y ddadl hon yn ystod wythnos y rhuban gwyn, a wisgir gennym i gydnabod yr ymdrech barhaus i ddileu trais yn erbyn menywod. Fel y clywsom ddoe, mewn ymateb i fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog, dyma sgandal y byd modern yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae gennym gyfrifoldeb mewn llywodraeth—yn lleol a chenedlaethol—ac fel cynrychiolwyr etholedig, ac fel unigolion yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, i ymateb i'r sgandal hon.
Yn ddiweddar cawsom ddadl 'A yw Cymru'n Decach?', adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2018 lle y gwnaed pwyntiau sy'n berthnasol i'n dadl heddiw, gyda datganiad a oedd yn dweud, ac roedd y Cadeirydd hefyd yn ailadrodd hyn:
Mae #MeToo wedi taflu goleuni ar brofiad menywod a merched o lefelau uchel o drais a gwahaniaethu sy'n cael eu derbyn yn rhy barod fel rhan o fywyd.
Rwy'n credu bod Angela Burns wedi gwneud pwynt grymus iawn ddoe ar hyn.
Nododd maniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod fod 55 y cant o ferched saith i 21 oed yn dweud bod stereoteipio ar sail rhyw yn effeithio ar eu gallu i leisio eu barn, a bod 52 y cant o fenywod yn dweud eu bod wedi dioddef aflonyddu yn y gweithle. Credaf fod y pwynt hwnnw am effeithio ar y gallu i ddweud eu barn mor bwysig.
Mae Cadeirydd y pwyllgor safonau yn tynnu ein sylw at y dystiolaeth a gafwyd gan y pwyllgor ac adroddiadau yn y cyfryngau sy'n awgrymu bod nifer o achosion o aflonyddu rhywiol wedi digwydd yn y Cynulliad, a bod y rhain heb gael eu hadrodd yn ffurfiol. Mae'n gywilydd nad yw unigolion yn teimlo y gallent wneud y cwynion hyn ac mae'n dangos nad yw ein diwylliant yma yn y Senedd hon yn iawn. Rhaid inni ysgwyddo'r cyfrifoldeb o fynd i'r afael â hyn yn awr.
Mae maniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn dweud
'Rydym yn deall bod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn achos ac yn ganlyniad trais yn erbyn menywod a merched. Er mwyn atal trais gwyddom fod angen inni addysgu, herio a newid ein diwylliant a'n cymdeithas anghyfartal.'
Mae hynny'n golygu bod rhaid inni herio ein hunain. Rydym wedi cael yr hyfforddiant parch ac urddas, do—rwy'n gobeithio ei fod wedi treiddio trwy'r sefydliad hwn ac ar gael i dimau'r Comisiwn a Llywodraeth Cymru, o ran ble y mae gan bobl bŵer dros bobl eraill. Lle y caiff pŵer ei arfer a'i gamddefnyddio yw lle y gall y diwylliant fynd cymaint o chwith.
Ceir nifer o argymhellion gyda llinell amser, ac rwy'n croesawu hynny, ond rhaid inni fod yn wyliadwrus wrth ddilyn yr amserlenni hynny a monitro eu cyflawniad, o'r pump sydd i'w cyflawni ar unwaith—ac mae hynny'n golygu ar unwaith—drwodd i fis Rhagfyr a'r gwanwyn.
Rwyf am orffen drwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y grŵp trawsbleidiol newydd ar gydraddoldeb menywod, sydd wedi cyfarfod ddwywaith ers ei sefydlu ym mis Mai. Yn ei gyfarfod cyntaf, clywsom gan yr Athro Laura McAllister ar 'Senedd sy'n gweithio i Gymru', gydag ymateb cadarnhaol gan y menywod a fynychodd, gan gynnwys sefydliadau allanol megis y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, Chwarae Teg, Women Connect First, Sefydliad y Merched a Soroptimist International, a oedd yn cymeradwyo ei argymhellion yn llawn mewn perthynas â rhannu swyddi a chynrychiolaeth 50:50 i fenywod i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru.
Dilynwyd hyn gan sgwrs gan Jess Blair o'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol ar eu hadroddiad, 'Lleisiau newydd: Sut y gall gwleidyddiaeth Cymru ddechrau adlewyrchu Cymru', a oedd hefyd yn cefnogi'r angen i gynyddu cynrychiolaeth menywod yn y Cynulliad. Mae hyn yn arbennig o berthnasol heddiw, wrth i ni nodi 100 mlynedd ers pasio Deddf Senedd y DU (Cymhwyster Menywod) 1918, lle y gallai menywod sefyll etholiad i'r Senedd yn gyfreithiol. Mae hyn yn cael ei ddathlu yn San Steffan, fel y gwelwn.
Rydym yn awr yn cynnal grŵp trawsbleidiol ar y cyd gyda'r Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant ochr yn ochr â'n grŵp newydd ar gydraddoldeb menywod, gan gryfhau cefnogaeth drawsbleidiol i, a dealltwriaeth o'r materion rydym yn eu trafod yr wythnos hon. Yn yr hyn sydd i raddau helaeth, yn anffodus, yn Siambr bron yn wag heddiw, ni allwn adael pethau gyda'r ddadl hon yn unig—rhaid iddo dreiddio drwy bopeth a wnawn yn y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru.
Ychydig wythnosau yn ôl, croesewais arolwg barn a dynnodd sylw at gefnogaeth y cyhoedd i ddefnyddio deddfwriaeth er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y Cynulliad hwn. Fel ysmygu mewn mannau cyhoeddus, credaf fod y cyhoedd ar y blaen inni mewn llawer o ffyrdd, ac eto rydym yn tueddu i feddwl ein bod mewn lle da yn y Cynulliad hwn. Nid ydym yno eto ar y materion hyn. Yn ystod ein gwaith craffu fel cyd-bwyllgor ar yr asesiadau effaith cydraddoldeb yr wythnos diwethaf, clywsom dystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac roeddent yn dweud bod cyffredinolrwydd normau rhywedd cymdeithasol mewn addysg a chyflogaeth, a'r profiadau o aflonyddu a thrais, yn rhwystro'r cynnydd hwn yng nghydraddoldeb menywod.
Gallwn dderbyn yr argymhellion heddiw, ac yn amlwg, mae llawer i'w drafod o ran goblygiadau'r rheini a chan Lywodraeth Cymru. Gallwn eu datblygu, ond credaf hefyd fod angen inni ystyried polisi a deddfwriaeth ym mhob agwedd ar ein gwaith yma, gan gynnwys deddfwriaeth i newid y Cynulliad hwn i adlewyrchu'r Gymru rydym yn ei chynrychioli. A dylem ystyried hyn os ydym o ddifrif yn awyddus i adlewyrchu cryfder a dewrder y swffragetiaid ganrif yn ôl, a dilyn eu harweiniad gyda gweithredoedd ac nid geiriau'n unig. Rhaid i hyn gynnwys, os oes angen, deddfwriaeth i helpu i greu'r diwylliant cywir wrth wraidd democratiaeth yng Nghymru.
Rwyf i am bigo i fyny ar yr hyn yr oedd Helen Mary Jones yn ei ddweud, ac eraill, yn cyfeirio at y cydbwysedd grym—y power balance yma—a sut mae yna anghydbwysedd nid yn unig o fewn y diwylliant sydd yn bodoli yn y maes yna, ond o fewn rhai o'r rheolau sydd gennym ni yma yn y maes yma hefyd, a sut mae angen newid rhai o'r rheolau hynny er mwyn rhoi neges glir ein bod ni'n mynd i'r afael â'r anghydbwysedd yna, a'n bod ni yn cyflwyno gwell cydbwysedd rhwng rhywun sydd yn dod â chŵyn a rhywun sydd yn cael cwyn yn ei erbyn e neu hi. Nawr, nid yw hynny i ddweud ein bod ni'n lleihau'r amddiffyniad a'r tegwch i rywun sydd â chŵyn yn ei erbyn e neu hi, ond yn grymuso'r unigolion hynny sydd eisiau dod â chŵyn.
Mi roddaf gwpwl o enghreifftiau yn yr ychydig funudau rydw i eisiau eu cyfrannu i'r ddadl yma. Petai yna rywun yn dod â chŵyn yn fy erbyn i, a bod y comisiynydd safonau a'r pwyllgor safonau yn dod i benderfyniad bod y gŵyn yn un ddilys, yna byddai gen i hawl i apelio. Os ydy'r comisiynydd a'r pwyllgor yn dod i gasgliad nad yw hi'n gŵyn ddilys, nid oes gan yr achwynydd ddim hawl i apelio. I fi, mae hynny'n anghytbwys ac yn annheg. Mae'n rhaid i gŵyn gael ei gwneud o fewn blwyddyn, ac rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod pobl sydd efallai wedi dioddef ddim yn barod i ddod â chŵyn mewn 12 mis. Mae'n cymryd llawer, llawer yn hirach iddyn nhw wneud hynny, ond ar ôl 12 mis, dyna fe—beth allwch chi wneud? Felly, mae angen newid hynny er mwyn grymuso unigolion. Fe fyddwn i'n mynd mor bell â dweud bod dim angen amserlen o gwbl, oherwydd rŷm ni'n gweld nawr sut mae rhai achosion hanesyddol—ddegawdau wedyn, efallai—yn dod i'r amlwg. Felly, rydw i'n meddwl bod angen edrych ar hynny hefyd.
Mae yna sefyllfa hefyd, wrth gwrs, lle petawn i ddim bellach yn Aelod Cynulliad, yna ni fyddai modd dod â chŵyn yn fy erbyn i, ond beth sy'n digwydd wedyn os ydw i'n cael fy ailethol mewn rhai blynyddoedd yn ôl i'r Cynulliad? Wel, mae'r amserlen wedi gor-redeg, ac felly allwch chi ddim dod â chŵyn. Felly, mae yna lawer o bethau sylfaenol y dylem ni fod yn edrych arnyn nhw er mwyn cael gwell cydbwysedd o fewn y cydbwysedd grym yna rŷm ni'n sôn amdano fe.
A'r unig bwynt arall y byddwn i'n awyddus i'w wneud yw rydw innau hefyd yn gresynu, yn synnu ac yn rhwystredig eithriadol bod y Prif Weinidog wedi ymateb fel y mae e i'r awgrym y dylai'r comisiynydd safonau fod â rôl o fewn edrych ar y cod gweinidogol. Rydw i'n gwybod y byddai hynny'n golygu newid deddfwriaethol ac yn y blaen. Rydw i'n gwybod y byddai fe'n ei gwneud hi'n haws i bobl ddeall y gyfundrefn ond, yn bwysicach na dim, mi fyddai'n ei gwneud hi'n haws i bobl sydd â chŵyn i wybod lle i fynd. Oherwydd dychmygwch chi'r sefyllfa lle mae rhywun, ar ôl gwewyr eithriadol, wedi penderfynu, 'Rydw i yn mynd i ddod â chŵyn', yn mynd at y comisiynydd safonau ac, wrth gwrs, yn cael ar ddeall, 'O, na, allwch chi ddim dod atom ni, mae'n rhaid i chi fynd i rywle arall.' Wel, pa fath o neges—? Rydw i'n gwybod y byddai'r comisiynydd safonau yn gwneud hynny mewn modd sensitif a chyfrifol, ond mae e'n rhwystr arall i unigolyn deimlo eu bod nhw'n gallu dod â chŵyn, ac rydw i yn gresynu bod y Prif Weinidog yn teimlo—.
Wrth gwrs, fe fyddai'n dal i wneud y penderfyniad terfynol. Nid oes neb yn awgrymu bod unrhyw rym yn cael ei gymryd oddi ar y Prif Weinidog, ac mae'n berffaith iawn mai'r Prif Weinidog fyddai'n cael gwneud y penderfyniad yna—wrth gwrs ei fod e. Ond beth a fyddai fe'n ei olygu fyddai bod y broses honno o ymchwilio i mewn i gŵyn yn cael ei chymryd allan o ddwylo'r Llywodraeth i fod yn gwbl annibynnol—oherwydd mae yna gwynion ac mae yna amheuon, ac efallai mai canfyddiadau anghywir ŷn nhw, nad yw'r broses yna yn gwbl annibynnol—ond mi fyddai'n rhoi mwy o hyder i'r cyhoedd fod y broses yn annibynnol. Ac yn yr un modd ag y mae'r comisiynydd safonau yn dod wedyn ag adroddiad i'r pwyllgor safonau yng nghyd-destun y cod ymddygiad Aelodau, mi fyddai'r adroddiad hwnnw'n mynd i'r Prif Weinidog yng nghyd-destun y cod gweinidogol er mwyn i'r Prif Weinidog ystyried y dystiolaeth a dod i'w gasgliad ei hunan a dod i'w benderfyniad ei hunan. Felly, mae unrhyw awgrym bod grym yn cael ei gymryd oddi ar y Prif Weinidog yng nghyd-destun y cod gweinidogol yn gamarwain llwyr ac yn anfon yr union negeseuon anghywir rŷm ni'n trio eu taclo a'u herio yn y ddadl yma y prynhawn yma. Felly, mi fyddwn i'n ategu yr alwad ar unrhyw ddarpar Brif Weinidog i fod yn barod i ymrwymo i edrych eto ar hyn. Oherwydd os ydym ni o ddifrif ynglŷn â chreu y diwylliant rŷm ni am ei weld, yna y camau yma yw'r peth lleiaf y gallem ni fod yn eu cyflawni.
Galwaf ar Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ychwanegu fy niolch i'r Cadeirydd ac i aelodau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am eu hadroddiad ac am eu gwaith caled iawn, ac yn wir am y cyfle hwn i ymateb i'w hadroddiad? Fel y mae'r holl Aelodau wedi dweud, nid oes ond un argymhelliad i Lywodraeth Cymru, ond rwy'n croesawu bwriad ehangach y pwyllgor i feithrin diwylliant o urddas a pharch o fewn y Cynulliad drwy weddill ei argymhellion, a hefyd rwy'n awyddus iawn i ychwanegu fy llais at leisiau'r Aelodau amrywiol yn y ddadl heddiw sydd wedi sôn am yr angen am ddiwylliant lle y gall pobl ddisgwyl y bydd eu cwynion yn cael ystyriaeth ddifrifol. Mae'r awgrymiadau ynglŷn â newid yr amserlenni a hawliau apelio yn rhai diddorol y gallai'r Cynulliad elwa arnynt yn fy marn i.
Fodd bynnag, gan droi at yr un argymhelliad ar gyfer y Llywodraeth, mae cod y Gweinidogion yn nodi disgwyliadau'r Prif Weinidog mewn perthynas ag ymddygiad gweinidogol ac ategir hyn gan saith egwyddor bywyd cyhoeddus. Wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ei fod yn darparu canllawiau ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys cysylltiadau â'r gwasanaeth sifil a sut i ymdrin â buddiannau etholaeth, buddiannau plaid a buddiannau preifat Gweinidogion. Mae hefyd yn cynnwys cyngor gweithdrefnol ar brosesau a rhwymedigaethau Cabinet a Llywodraeth. Yn fwyaf arbennig, mae'r cod yn dweud yn glir fod disgwyl i'r Aelodau fod yn bersonol gyfrifol am eu hymddygiad, ond mai'r Prif Weinidog yn y pen draw sy'n barnu safonau ymddygiad gweinidogion. Y Prif Weinidog hefyd sy'n pennu unrhyw gamau priodol mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd yn erbyn y safonau hynny. Yn ogystal, bydd yn galw ar gynghorydd neu gynghorwyr annibynnol lle y bo'n briodol i ymchwilio i gwynion ac i roi cyngor i allu seilio barn arno ynglŷn ag unrhyw gamau gweithredu sy'n angenrheidiol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, arweinydd y tŷ?
Wrth gwrs.
Credaf mai'r union bwynt hwnnw sy'n peri pryder, sef mai'r Prif Weinidog sy'n penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad annibynnol ai peidio. Rwy'n bryderus—nid wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd fod hynny erioed wedi'i ddefnyddio'n amhriodol—ond rwy'n bryderus, o safbwynt canfyddiad y cyhoedd, fod hynny'n rhoi llawer o gyfrifoldeb ar y Prif Weinidog. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, mae'n gwbl briodol mai hi neu ef a ddylai fod y person sy'n derbyn y dystiolaeth o ymchwiliad annibynnol ac sy'n gwneud y penderfyniad gan mai ef neu hi yw'r person sy'n gwneud y penodiad. Ond o ran penderfynu a ddylai'r ymchwiliad annibynnol hwnnw ddigwydd ai peidio, rwy'n credu o leiaf y gellid gweld hynny o'r tu allan fel rhywbeth sy'n broblemus.
Rwy'n gweld y pwynt rydych yn ei wneud, ond rhaid imi ddweud nad wyf yn cytuno ag ef. Credaf fod yna amgylchiadau lle mae'n amlwg nad yw'n briodol atgyfeirio at gynghorydd annibynnol a cheir amgylchiadau eraill lle mae'n amlwg iawn yn briodol ac rwy'n credu bod hynny'n fater o farn fy hun. Ond rwy'n derbyn eich pwynt, ac mae'n rhywbeth y gallwn ei ystyried wrth i'r system weithredu.
Mae'n ddrwg gennyf—. Felly, fel y dywedais, byddai'n edrych i weld, lle y bo'n briodol, lle i droi at gynghorydd neu gynghorwyr annibynnol. Mae'r Llywodraeth gyfan yn cefnogi'r safbwynt na fydd ymddygiad amhriodol, ym mha fodd bynnag a ble bynnag y mae'n digwydd, yn cael ei oddef. Fel y dywedais, rydym wedi siarad yn faith ac yn gadarn yn y Siambr hon ar sawl achlysur—ynglŷn â'r adolygiad rhywedd a'r adroddiad cydraddoldeb a hawliau dynol a gawsom yn ddiweddar—ynglŷn â chwifio'r faner dros y mathau hynny o ymddygiad, ac yn sicr rwy'n awyddus i ychwanegu fy llais at yr holl alwadau y dylai'r lle hwn fod yn chwifio'r faner dros y mathau cywir o ymddygiad.
Yng ngoleuni hynny, mae'r Prif Weinidog wedi ystyried yn ofalus ei ymateb i argymhelliad 12, a fyddai'n galw am sefydlu protocol ar gyfer atgyfeirio cwynion am Weinidogion i swyddfa'r comisiynydd safonau gyda'r comisiynydd yn adrodd i'r corff perthnasol. Ceir sylw yn yr adroddiad fod y gofyniad yng nghod y Gweinidogion—
'Rhaid i’r Gweinidogion gadw eu rolau fel Gweinidogion a’u rolau
fel Aelodau Cynulliad ar wahân'— yn gallu bod yn ddryslyd o bosibl. Nid yw'n farn a rennir gan y Prif Weinidog. Prif ddiben y cymal yw sicrhau bod Gweinidog yn osgoi'r posibilrwydd o wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig os gofynnir iddynt wneud penderfyniad o fewn eu portffolio sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu hetholaeth eu hunain. Lluniwyd y cod i sicrhau nad yw Gweinidogion yn defnyddio cyfleusterau ac adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau etholaeth neu blaid wleidyddol y tu allan i'r paramedrau a nodir mewn mannau eraill yn y cod.
Nid yw'r sail resymegol ar gyfer casgliad y pwyllgor fod potensial am ddryswch mewn perthynas â rolau Aelodau Cynulliad a rolau Gweinidogion yn amlwg. Gallai cynnwys y comisiynydd safonau a benodwyd gan, ac sy'n atebol i'r Cynulliad i ymchwilio i gwynion ynglŷn ag ymddygiad Gweinidogion pan fyddant yn amlwg yn gweithredu fel Gweinidogion yn hytrach nag fel Aelodau Cynulliad ynddo'i hun greu'r math o amwysedd atebolrwydd y mae'r pwyllgor yn ceisio ei osgoi mewn gwirionedd.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio'n briodol at y cyfleuster sydd gan y Prif Weinidog i atgyfeirio unrhyw fater yn ymwneud ag ymddygiad Gweinidog at gynghorydd annibynnol i'w ymchwilio. Unwaith yn unig y gofynnwyd i gynghorydd ymchwilio a chynghori ar achos, a gwnaed hynny'n ddiwyd ac yn gynhwysfawr gan James Hamilton gydag adroddiad a arweiniodd at ddadl mewn cyfarfod llawn, ac mae'n anodd deall awgrym yr adroddiad y byddai hyder y cyhoedd yn gwella pe bai'r comisiynydd safonau'n ymgymryd â'r rôl. Dyna'n union yw cyngor annibynnol, pa un a yw'r rôl yn cael ei chyflawni gan gynghorydd annibynnol neu'r comisiynydd safonau.
Yr eithriad i hyn fyddai pe bai Gweinidog yn amlwg yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Cynulliad pan ddigwyddodd y camymddygiad honedig, byddai'r Prif Weinidog yn yr amgylchiadau hynny yn ei hystyried hi'n briodol i'r comisiynydd safonau ymdrin â'r mater yn hytrach na'i fod yn cael ei drin o dan god y Gweinidogion.
Felly, am y rhesymau hyn, nid yw'r Llywodraeth yn gallu derbyn yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor, ond hoffwn orffen drwy ofyn i chi gyd ar draws y Siambr am eich cefnogaeth i hyrwyddo diwylliant o urddas a pharch drwy'r lle hwn, fel y nodwyd yn fedrus ac yn briodol ac y siaradwyd mor angerddol yn ei gylch gan gynifer o'r Aelodau heddiw. Rydym yn cytuno'n llwyr y gall pawb ohonom helpu i newid ymddygiad a diwylliant ac y dylem wneud hynny gan arwain drwy esiampl. Diolch, Lywydd.
Galwaf ar Jayne Bryant i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am gyfraniadau aelodau presennol a chyn-aelodau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Nid wyf yn hollol siŵr beth y mae'r ffaith mai fi yw'r unig aelod gwreiddiol sydd ar ôl o'r pwyllgor hwn yn ei ddweud, ond rwy'n dal yma ar hyn o bryd beth bynnag. Diolch i chi gyd.
Crybwyllodd Paul yn arbennig y gwaith sydd wedi'i wneud, ond gan gydnabod na allwn gymryd cam yn ôl, a hoffwn eich sicrhau na fyddwn yn camu'n ôl o gwbl. Gofynnodd Paul hefyd i mi gadarnhau pa un a fydd y pwyllgor yn dychwelyd at adrodd dienw a'r swyddog cyswllt a'r gwaith mewn perthynas â'r cyfryngau cymdeithasol a'r canllawiau, a byddwn yn dychwelyd at hynny ac rydym yn bwriadu gwneud gwaith pwysig ar ganllawiau cyfryngau cymdeithasol hefyd, ac rwy'n credu y byddai pawb yma yn cytuno fod hynny'n hollbwysig. Felly, dyna'r pwynt hwnnw.
Rwy'n croesawu Helen Mary i'ch lle yn y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a diolch i chi am eich cyfraniad hefyd. Soniodd Paul a Helen Mary a Llyr am god y Gweinidogion. I ni, gydag argymhelliad 12, rydym yn teimlo bod y system o godau ar wahân sy'n bodoli yng Nghymru yn cymharu â darpariaethau eraill yn Seneddau eraill y DU, ond roeddem yn credu fel pwyllgor y gallai Cymru gymryd cam beiddgar ymlaen i wella darpariaeth a chynyddu hyder yn y system. Fel pwyllgor, daethom i'r casgliad fod gwneud hyn yn rhan o gyfrifoldeb y comisiynydd safonau—. Er bod hyn wedi'i wrthod, mae'r pwyllgor yn agored i weithio gyda'r Llywodraeth i wella tryloywder. Yn amlwg, mae gennym ddiddordeb yn y datganiad ysgrifenedig sydd i ddod ger ein bron, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor am fynd ar drywydd hyn ymhellach gyda'r Prif Weinidog nesaf.
Jane Hutt, cyfraniad grymus iawn gennych chi yn sôn am yr hyfforddiant parch ac urddas sydd wedi bod yn agored i'r holl Aelodau a staff yma. Rwy'n gobeithio bod pawb wedi cael cyfle i fynd ar drywydd hynny. Hefyd, fe gyfeirioch chi at y gwaith trawsbleidiol sydd ar y gweill, nid yn unig o fewn y pwyllgor ond mewn fforymau eraill hefyd, ond mae angen mynd yn llawer pellach.
Soniodd Llyr a llawer o gyd-Aelodau hefyd am yr anghydbwysedd grym a daeth hynny'n amlwg pan glywsom y dystiolaeth yn ogystal. Credaf fod gennym nod clir go iawn mewn perthynas â grymuso pobl, ac mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar bawb sy'n gwneud cwyn ac yn sicrhau ein bod mor deg a thryloyw â phosibl.
Soniodd Llyr hefyd am yr hawl i apelio, sef ein hargymhelliad olaf, argymhelliad 21. Ar hynny, bydd y pwyllgor yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio'r ddarpariaeth apelio mewn gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion erbyn diwedd y flwyddyn. Felly, byddwn yn gwneud gwaith ar hynny.
Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am ei sylwadau a'r ymrwymiad i weithio ar greu'r amgylchedd cywir, er fy mod yn siŵr eich bod wedi clywed pryderon yr Aelodau ynglŷn â gwrthod argymhelliad 12.
Rhaid i bawb gael dealltwriaeth o'r hyn sy'n ymddygiad amhriodol fel y byddant yn gwybod os ydynt yn ei brofi eu hunain neu'n ei weld yn digwydd i rywun arall. Rydym am annog ystod eang ac amrywiol o bobl i ddod i mewn i wleidyddiaeth, ac i wneud hynny mae angen diwylliant sy'n gynhwysol ac sy'n galluogi. Awgryma'r dystiolaeth a gafodd y pwyllgor fod nifer o achosion o aflonyddu rhywiol wedi bod yn y Cynulliad ac nad yw'r rhain wedi cael eu hadrodd yn ffurfiol, ac mae'r pwyllgor o'r farn ei bod yn gwbl annerbyniol fod pobl yn teimlo na allant roi gwybod am eu profiadau.
Ac yn olaf, hoffwn ddweud nad oes modd cyflawni'r newid diwylliannol sydd ei angen dros nos; mae'n mynd i gymryd ymrwymiad ac ymroddiad hirdymor. Yr adroddiad hwn yw dechrau'r sgwrs bwysig honno gyda'r pwyllgor, ac rydym yn croesawu adborth ar ein hargymhellion. Rydym yn annog pobl i wneud awgrymiadau ynglŷn â chamau pellach y gellid eu cymryd yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i ddysgu ac i wrando ar eraill ar hyn. Mae gennym oll gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn gosod y safonau uchaf, ac rydym yn benderfynol o greu'r amgylchedd cywir.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.