Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y cyfle i gynnal y ddadl hon heddiw? Mae'r ddeiseb hon, 'Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig', yn ymwneud â chod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru a'r amddiffyniad a roddir i ysgolion mewn ardaloedd gwledig. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae diwygiadau diweddar a wnaed i'r cod yn ymgais i ddarparu mesurau diogelwch ac amddiffyniad cryfach i ysgolion gwledig, ac rwy'n llongyfarch y Llywodraeth ar y diwygiadau hynny, sy'n cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn benodol.
Daeth y cod diwygiedig i rym ar 1 Tachwedd. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl gynigion newydd ar gyfer cau ysgolion neu drefniadaeth ysgolion yn cael eu llywodraethu gan broses newydd. Fodd bynnag, nid yw'n berthnasol i gynigion presennol, ac mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn dilyn ysbryd y cod diwygiedig, hyd yn oed pan fydd cynigion yn cael eu penderfynu o dan yr hen fersiwn. Wrth wraidd y ddeiseb ceir pryder fod rhai awdurdodau lleol wedi symud i gau rhai ysgolion gwledig cyn i'r cod newydd ddod i rym. Yn benodol, mae'r deisebwyr yn pryderu am y bwriad i gau Ysgol Gymuned Bodffordd, ysgol gynradd ger Llangefni, Ynys Môn.
Denodd y ddeiseb 5,125 o lofnodion, a hoffwn ddechrau'r ddadl hon drwy gydnabod y gefnogaeth a roddwyd i'r ddeiseb ac ymrwymiad y rheini sydd wedi ymgyrchu i gasglu'r llofnodion. Fel yr amlinellais, mae dyfodol ysgol benodol, Ysgol Gymuned Bodffordd, yn ganolog i'r ddeiseb hon ac i fater dyfodol ysgolion gwledig. Clywodd y Pwyllgor Deisebau fod gan Ysgol Gymuned Bodffordd oddeutu 85 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Fel llawer o ysgolion gwledig, mae'n chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol, fel man addysg ac fel adnodd cymunedol y gwneir defnydd da ohono. Fodd bynnag, yn wahanol i rai, rydym yn deall mai lefel isel iawn o lefydd gwag sydd ganddi, oddeutu 1.6 y cant yn unig. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn argymell cau Ysgol Gymuned Bodffordd ac ysgol gynradd arall yn Llangefni, Ysgol Corn Hir. Yn eu lle, mae'r cyngor yn bwriadu adeiladu ysgol newydd fwy o faint gyda lle i 360 o blant.
Cynhaliwyd ymgynghoriad yn gynharach eleni, ac ar ddiwedd mis Medi, cyhoeddodd cyngor Ynys Môn hysbysiad statudol yn cadarnhau ei fwriad i fwrw ymlaen â chau'r ysgol o fis Medi 2020. Oherwydd bod y broses wedi cychwyn cyn i'r cod newydd ddod i rym, gwnaed y penderfyniad yn unol ag argraffiad cyntaf y cod trefniadaeth ysgolion. O dan y cod newydd rhestrir Ysgol Gymuned Bodffordd fel ysgol wledig, felly, er nad yw'n bosibl gwybod a fyddai'r cod newydd wedi arwain at ganlyniad gwahanol, mae'n rhesymol awgrymu y byddai cyngor Ynys Môn wedi gorfod ystyried y cynnig mewn ffordd wahanol pe bai'r broses wedi'i chychwyn yn ddiweddarach. Mae'r deisebwyr yn ceisio gwneud yr achos y dylai fod yn ofynnol i gynghorau, neu fod disgwyl iddynt weithredu'n unol ag ysbryd y cod newydd am fod awydd Llywodraeth Cymru i gryfhau'r amddiffyniad a gynigir i ysgolion gwledig yn hysbys ers peth amser. Fe ganolbwyntiaf ar y mater ehangach hwn am weddill fy nghyfraniad.
Roedd adolygiad o'r polisi mewn perthynas â lleoedd gwag mewn ysgolion, gyda phwyslais ar ysgolion gwledig, yn rhan o'r cytundeb a arweiniodd at benodi Kirsty Williams yn Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ym mis Mehefin 2016. Cyhoeddwyd ymgynghoriad ar ddiwygiadau i'r cod trefniadaeth ysgolion ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd ym mis Mehefin 2017. Roedd hwn yn cynnwys rhagdybiaeth newydd yn erbyn cau ysgolion gwledig. Yn dilyn hyn, daeth y cod newydd i rym o'r diwedd ar 1 Tachwedd eleni. Mae'r rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu, mewn gwirionedd, fod yna gyfres fwy manwl o weithdrefnau a gofynion ar waith bellach lle yr argymhellir cau ysgolion gwledig. Fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn flaenorol, nid yw hynny'n golygu nad yw ysgolion gwledig byth yn mynd i gau, ond mae'n golygu bod yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf ac na ddylid gwneud hynny hyd nes y bydd pob opsiwn dichonadwy yn lle cau wedi'u hystyried yn gydwybodol.
Mae'r deisebwyr yn dadlau nad yw hyn wedi digwydd yn achos Ysgol Gymuned Bodffordd. Maent yn dadlau fod nifer o gwestiynau'n dal heb eu hateb ddwy flynedd ar ôl codi'r cynnig i gau'r ysgol gyntaf. Mae'r rhain yn cynnwys dyfodol yr ysgol feithrin a grwpiau eraill sy'n defnyddio'r ysgol a pha ystyriaeth y mae'r cyngor wedi'i rhoi i opsiynau eraill fel ffedereiddio gydag ysgolion eraill neu ymestyn yr ysgol bresennol.
Wrth wraidd y ddadl mae'r cwestiwn a ddylai awdurdod lleol fwrw ati i gau ysgol wledig heb roi ystyriaeth lawn i'r cod diwygiedig sy'n galw am achos cryfach i oresgyn y rhagdybiaeth yn erbyn cau. Rwy'n ymwybodol nad Ysgol Gymuned Bodffordd yw'r unig ysgol yn y sefyllfa hon. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ar sawl achlysur ei bod hi'n disgwyl i awdurdodau lleol ystyried polisi newydd Llywodraeth Cymru tuag at ysgolion gwledig wrth wneud penderfyniadau ynglŷn ag ad-drefnu ysgolion. Fodd bynnag, mae hi hefyd wedi dweud yn glir nad yw'r cod yn ôl-weithredol ac nad oes unrhyw ofyniad statudol i gydymffurfio â'i ddarpariaethau cyn iddo ddod i rym.
I grynhoi, felly, ceir nifer o gwestiynau wrth wraidd y ddeiseb hon a'r ddadl y prynhawn yma. Yn gyntaf, i ba raddau y dylai awdurdodau lleol neu gyrff eraill sy'n argymell cau ysgol ystyried gofynion y cod newydd, hyd yn oed lle nad yw'n ofynnol iddynt wneud hynny'n statudol. Yn ail, sut y gall Llywodraeth Cymru roi grym ymarferol i'w disgwyliad y dylai awdurdodau lleol ystyried ysbryd y cod newydd. Ac yn drydydd, pa gamau eraill y gallai neu y dylai'r Llywodraeth eu cymryd i ddiogelu ysgolion gwledig megis Ysgol Gymuned Bodffordd.
Hyd yn hyn, nid yw'r Pwyllgor Deisebau wedi dod i unrhyw gasgliadau ar y mater hwn, ac o ganlyniad rwyf am adael i eraill ymhelaethu ar yr egwyddorion a'r dadleuon sydd wrth wraidd y mater hwn. Rwyf am orffen trwy ddweud y bydd y Pwyllgor Deisebau'n dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol yng ngoleuni'r cyfraniadau yn ystod y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.