– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Daw hynny â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar y ddeiseb 'Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y cyfle i gynnal y ddadl hon heddiw? Mae'r ddeiseb hon, 'Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig', yn ymwneud â chod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru a'r amddiffyniad a roddir i ysgolion mewn ardaloedd gwledig. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae diwygiadau diweddar a wnaed i'r cod yn ymgais i ddarparu mesurau diogelwch ac amddiffyniad cryfach i ysgolion gwledig, ac rwy'n llongyfarch y Llywodraeth ar y diwygiadau hynny, sy'n cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn benodol.
Daeth y cod diwygiedig i rym ar 1 Tachwedd. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl gynigion newydd ar gyfer cau ysgolion neu drefniadaeth ysgolion yn cael eu llywodraethu gan broses newydd. Fodd bynnag, nid yw'n berthnasol i gynigion presennol, ac mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn dilyn ysbryd y cod diwygiedig, hyd yn oed pan fydd cynigion yn cael eu penderfynu o dan yr hen fersiwn. Wrth wraidd y ddeiseb ceir pryder fod rhai awdurdodau lleol wedi symud i gau rhai ysgolion gwledig cyn i'r cod newydd ddod i rym. Yn benodol, mae'r deisebwyr yn pryderu am y bwriad i gau Ysgol Gymuned Bodffordd, ysgol gynradd ger Llangefni, Ynys Môn.
Denodd y ddeiseb 5,125 o lofnodion, a hoffwn ddechrau'r ddadl hon drwy gydnabod y gefnogaeth a roddwyd i'r ddeiseb ac ymrwymiad y rheini sydd wedi ymgyrchu i gasglu'r llofnodion. Fel yr amlinellais, mae dyfodol ysgol benodol, Ysgol Gymuned Bodffordd, yn ganolog i'r ddeiseb hon ac i fater dyfodol ysgolion gwledig. Clywodd y Pwyllgor Deisebau fod gan Ysgol Gymuned Bodffordd oddeutu 85 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Fel llawer o ysgolion gwledig, mae'n chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol, fel man addysg ac fel adnodd cymunedol y gwneir defnydd da ohono. Fodd bynnag, yn wahanol i rai, rydym yn deall mai lefel isel iawn o lefydd gwag sydd ganddi, oddeutu 1.6 y cant yn unig. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn argymell cau Ysgol Gymuned Bodffordd ac ysgol gynradd arall yn Llangefni, Ysgol Corn Hir. Yn eu lle, mae'r cyngor yn bwriadu adeiladu ysgol newydd fwy o faint gyda lle i 360 o blant.
Cynhaliwyd ymgynghoriad yn gynharach eleni, ac ar ddiwedd mis Medi, cyhoeddodd cyngor Ynys Môn hysbysiad statudol yn cadarnhau ei fwriad i fwrw ymlaen â chau'r ysgol o fis Medi 2020. Oherwydd bod y broses wedi cychwyn cyn i'r cod newydd ddod i rym, gwnaed y penderfyniad yn unol ag argraffiad cyntaf y cod trefniadaeth ysgolion. O dan y cod newydd rhestrir Ysgol Gymuned Bodffordd fel ysgol wledig, felly, er nad yw'n bosibl gwybod a fyddai'r cod newydd wedi arwain at ganlyniad gwahanol, mae'n rhesymol awgrymu y byddai cyngor Ynys Môn wedi gorfod ystyried y cynnig mewn ffordd wahanol pe bai'r broses wedi'i chychwyn yn ddiweddarach. Mae'r deisebwyr yn ceisio gwneud yr achos y dylai fod yn ofynnol i gynghorau, neu fod disgwyl iddynt weithredu'n unol ag ysbryd y cod newydd am fod awydd Llywodraeth Cymru i gryfhau'r amddiffyniad a gynigir i ysgolion gwledig yn hysbys ers peth amser. Fe ganolbwyntiaf ar y mater ehangach hwn am weddill fy nghyfraniad.
Roedd adolygiad o'r polisi mewn perthynas â lleoedd gwag mewn ysgolion, gyda phwyslais ar ysgolion gwledig, yn rhan o'r cytundeb a arweiniodd at benodi Kirsty Williams yn Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ym mis Mehefin 2016. Cyhoeddwyd ymgynghoriad ar ddiwygiadau i'r cod trefniadaeth ysgolion ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd ym mis Mehefin 2017. Roedd hwn yn cynnwys rhagdybiaeth newydd yn erbyn cau ysgolion gwledig. Yn dilyn hyn, daeth y cod newydd i rym o'r diwedd ar 1 Tachwedd eleni. Mae'r rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu, mewn gwirionedd, fod yna gyfres fwy manwl o weithdrefnau a gofynion ar waith bellach lle yr argymhellir cau ysgolion gwledig. Fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn flaenorol, nid yw hynny'n golygu nad yw ysgolion gwledig byth yn mynd i gau, ond mae'n golygu bod yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf ac na ddylid gwneud hynny hyd nes y bydd pob opsiwn dichonadwy yn lle cau wedi'u hystyried yn gydwybodol.
Mae'r deisebwyr yn dadlau nad yw hyn wedi digwydd yn achos Ysgol Gymuned Bodffordd. Maent yn dadlau fod nifer o gwestiynau'n dal heb eu hateb ddwy flynedd ar ôl codi'r cynnig i gau'r ysgol gyntaf. Mae'r rhain yn cynnwys dyfodol yr ysgol feithrin a grwpiau eraill sy'n defnyddio'r ysgol a pha ystyriaeth y mae'r cyngor wedi'i rhoi i opsiynau eraill fel ffedereiddio gydag ysgolion eraill neu ymestyn yr ysgol bresennol.
Wrth wraidd y ddadl mae'r cwestiwn a ddylai awdurdod lleol fwrw ati i gau ysgol wledig heb roi ystyriaeth lawn i'r cod diwygiedig sy'n galw am achos cryfach i oresgyn y rhagdybiaeth yn erbyn cau. Rwy'n ymwybodol nad Ysgol Gymuned Bodffordd yw'r unig ysgol yn y sefyllfa hon. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ar sawl achlysur ei bod hi'n disgwyl i awdurdodau lleol ystyried polisi newydd Llywodraeth Cymru tuag at ysgolion gwledig wrth wneud penderfyniadau ynglŷn ag ad-drefnu ysgolion. Fodd bynnag, mae hi hefyd wedi dweud yn glir nad yw'r cod yn ôl-weithredol ac nad oes unrhyw ofyniad statudol i gydymffurfio â'i ddarpariaethau cyn iddo ddod i rym.
I grynhoi, felly, ceir nifer o gwestiynau wrth wraidd y ddeiseb hon a'r ddadl y prynhawn yma. Yn gyntaf, i ba raddau y dylai awdurdodau lleol neu gyrff eraill sy'n argymell cau ysgol ystyried gofynion y cod newydd, hyd yn oed lle nad yw'n ofynnol iddynt wneud hynny'n statudol. Yn ail, sut y gall Llywodraeth Cymru roi grym ymarferol i'w disgwyliad y dylai awdurdodau lleol ystyried ysbryd y cod newydd. Ac yn drydydd, pa gamau eraill y gallai neu y dylai'r Llywodraeth eu cymryd i ddiogelu ysgolion gwledig megis Ysgol Gymuned Bodffordd.
Hyd yn hyn, nid yw'r Pwyllgor Deisebau wedi dod i unrhyw gasgliadau ar y mater hwn, ac o ganlyniad rwyf am adael i eraill ymhelaethu ar yr egwyddorion a'r dadleuon sydd wrth wraidd y mater hwn. Rwyf am orffen trwy ddweud y bydd y Pwyllgor Deisebau'n dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol yng ngoleuni'r cyfraniadau yn ystod y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Rwy'n llongyfarch y Pwyllgor Deisebau ac yn arbennig y ffordd y cyflwynodd y Cadeirydd y ddadl ac amlinellu'r ystyriaethau a'r dadleuon a roddwyd gerbron y Pwyllgor Deisebau. Fel rhywun a oedd ar y Pwyllgor Deisebau gwreiddiol yn ôl yng Nghynulliad 2007 i 2011, mae gennyf gof da am ymarfer tebyg i hwn a wnaed yn y Cynulliad hwnnw, pan aethom i lawr i orllewin Cymru i edrych ar yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol ac ysgolion a chymunedau wrth gynnal eu rhwydwaith addysg yn lleol. Oherwydd mae'n bwysig iawn cofio bod ysgolion gwledig yn galon i'r gymuned honno. Mae'n creu egni o fewn y gymuned honno, mae'n creu gweithgaredd sy'n cynnal gwasanaethau eraill o fewn y gymuned ac yn anad dim, mae'n clymu'r gymuned honno gyda'i gilydd.
Rwy'n croesawu ymyrraeth Ysgrifennydd y Cabinet gyda'r cod newydd a ddaeth i rym y mis hwn, rwy'n credu fy mod yn gywir, er iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad yn ôl yn yr haf ar gyfer ei ystyried. Hoffwn ystyried un mater yn fy ardal i, ac rwy'n sylweddoli na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu siarad yn uniongyrchol ynglŷn â chau ysgol Llancarfan, rhywbeth y mae wedi fy nghlywed yn siarad yn ei gylch droeon yn y Siambr hon, ond fe ddynododd y dylai fod rhywfaint o rym gan y cod, er nad oedd mewn grym pan gyhoeddwyd hysbysiadau amrywiol ar gau'r ysgol benodol honno, o gofio ei fod yn y parth cyhoeddus a bod yr awdurdod lleol yn deall ei fod yn rhan o feddylfryd y Llywodraeth ar gyfer cynnal gwead cyfoethog o ddarpariaeth addysg mewn ardaloedd gwledig. Yn wir, o dan y cod, Llancarfan yw'r unig ysgol wledig a grybwyllir yn y rhestr o ysgolion y gwelodd y Llywodraeth yn dda i'w chynnwys yn y cod.
Roedd y cynnig i gau ysgol Llancarfan yn un a gyflwynwyd yn gyntaf yn 2012-13 gan y cyngor a oedd o dan reolaeth Lafur ar y pryd, ac mae llawer o drigolion yn yr ardal yn teimlo ei fod bron yn fusnes anorffenedig gan swyddogion, os yw hynny'n gwneud synnwyr, yr hyn rwyf newydd ei ddweud, yn yr ystyr fod y cynghorwyr presennol wedi mabwysiadu'r gwaith o geisio gorfodi cynnig a oedd yn gynnig diffygiol yn ôl yn 2012, ac wedi rhoi llawer o sylw i'r canllawiau roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i ddiogelu eu hysgol. Oherwydd mae ysgol Llancarfan yn ysgol hyfyw iawn. Er nad yw'n llawn, mae ganddi dros 100 o ddisgyblion ar ei chofrestr, mae ganddi ystâd ysgol y gellid ei gwella gyda gwariant cymharol fach, ac mae pob dadl a ddefnyddiwyd gan y cyngor presennol i gau—ac yn ddiddorol, ni fyddant yn defnyddio'r gair 'cau'; maent yn defnyddio'r gair 'adleoli'. Ni allaf weld sut y gallwch ddweud eich bod yn cadw'r ysgol mewn lleoliad pan fydd y safle newydd arfaethedig oddeutu 3 milltir i ffwrdd. Does bosib nad yw hynny'n golled i'r safle, ac i unrhyw un sy'n deall y gair 'cau', dyna yw'r diffiniad o gau.
Mae'r ddeiseb hon sydd wedi dod, rhaid cyfaddef, o'r ochr arall i Gymru, o ben uchaf Cymru yn Ynys Môn, yn berthnasol i sawl agwedd ar yr hyn y mae'r gymuned yn Llancarfan yn brwydro yn ei erbyn. Ac mae'r gymuned honno, bob gafael, wedi cyflwyno cynllun cydlynol i gadw'r ysgol ym mhentref Llancarfan, a chefnogi'r pentrefi cyfagos. Bob tro y caiff dadl ei chyflwyno dros gefnogi a chynnal yr ysgol, cyflwynir dadl amgen gan y cyngor. Y ddadl gyntaf oedd mai'r unig ffordd y gellid cyflwyno arian y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain oedd drwy adleoli a chreu ysgol newydd. Diolch i eglurhad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, nid yw hynny'n wir. Gellir defnyddio arian y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i uwchraddio cyfleusterau presennol. Dywedir wrthym wedyn fod y niferoedd yn gostwng yn Llancarfan ac na fyddai'n cynnal y gymhareb athro-disgybl bresennol. Wel, rydym yn gwybod bod galw am addysg yn yr ardal honno, ac mae'r galw hwnnw wedi bod yn gyson ers blynyddoedd lawer a byddai'n gyson am flynyddoedd lawer yn y dyfodol yn ogystal. Felly, nid yw'r ddadl honno'n dal dŵr. Ac yn awr, oherwydd bod gorchmynion angenrheidiol wedi'u gosod, rydym yn clywed y bydd yr ysgol yn cau'n anochel yn pen draw ymhen ychydig flynyddoedd, pan gyflwynir y safle newydd i'r gymuned yn y Rhws. Buaswn yn dweud bod honno, mewn gwirionedd, yn weithred sarhaus—yn amlwg, y teimlad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyfleu drwy eu cod newydd.
Rwy'n credu, a buaswn yn gobeithio, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio ei swydd i geisio dylanwadu ar y penderfyniad hwn, oherwydd fel y clywsom, ac fel yr amlinellais yn fy sylwadau heddiw, mae'n ffaith bod modd defnyddio arian y rhaglen unfed ganrif ar hugain i uwchraddio'r ysgol honno, mae'n ffaith bod digon o blant ar y gofrestr i gynnal y ddarpariaeth addysg yn yr ysgol, mae'n ffaith bod yr ysgol wedi cael adroddiad da gan Estyn, ac mae'n ffaith ein bod yn nodi ei bod yn bwysig fod ysgol wledig yn cael ei chynnal ac na chaiff ei hystyried ar gyfer ei chau fel mater o drefn yn unig. Ni ddylid ei hystyried ar gyfer ei chau hyd nes y bydd pob opsiwn posibl wedi'i ystyried a'i archwilio, ac nid wyf yn credu bod hynny'n wir yma. Felly, rwy'n croesawu'r adroddiad y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'i gyflwyno, ac sydd wedi amlygu dadleuon amrywiol, er bod hynny mewn rhan arall o Gymru, ond sy'n berthnasol i weddill Cymru, ac yn fy ardal etholiadol, yn enwedig mewn perthynas ag ysgol Llancarfan. A hoffwn ddiolch i Aelodau eraill yn y Siambr sydd wedi helpu yn yr ymgyrch ac yn sicr byddaf yn parhau i gefnogi cymuned Llancarfan, oherwydd nid yw hyn wedi gorffen eto, a byddwn yn parhau i frwydro i gadw'r ysgol ym mhentref Llancarfan.
Rydw i'n gwisgo sawl het heddiw. Rydw i'n byw mewn pentref gwledig lle mae'r ysgol wedi bod o dan fygythiad yn ddiweddar. Rydw i'n gyn-aelod o'r Pwyllgor Deisebau. A fi ydy Aelod Cynulliad y rhai a drefnodd y ddeiseb yma, rhieni a chefnogwyr Ysgol Gymuned Bodffordd, sy'n ddidwyll ac yn onest yn brwydro'n galed iawn i achub eu hysgol.
Tri deg un o blant oedd yn fy ysgol gynradd gyntaf i. Yn yr ail, mi oedd yna dros 200. Roedden nhw'n ysgolion da, ond mae'n rhaid i fi ddweud hynny, gan mai dad oedd y pennaeth. Mi aeth fy mhlant i ysgol gynradd ddinesig efo 350 o blant yn gyntaf, ac yna i ysgol o ychydig o dan 100 o blant yn Ynys Môn. Felly, pedair ysgol wahanol iawn, ond profiad positif o addysg yn y pedair. Felly, fel cefndir i'r drafodaeth yma, a gaf i ddweud nad ydw i'n derbyn dadleuon bod rhaid i ysgol fod yn fawr er mwyn cynnig profiad addysg gynradd effeithiol, ac nid ydw i chwaith yn prynu'r dadleuon bod plant yn hapusach, o reidrwydd, mewn ysgol fach wledig? Rydw i'n grediniol bod modd darparu addysg gynradd safonol a gofalgar beth bynnag ydy maint yr ysgol.
Ac eto, rydym ni'n gweld symudiad amlwg ar draws Cymru tuag at gau ysgolion bach gwledig. Y broblem sydd gennym ni, mae gen i ofn, ydy problem ariannol a phroblem staffio. Mae llawer o'n hysgolion cymharol fach ni yng nghefn gwlad yn hen neu'n heneiddio. Maen nhw'n gyffredinol ddrud i'w cynnal a'u cadw. Maen nhw'n ddrud i'w staffio wedyn, os ydy'r ratios staff i ddisgyblion yn fach. Hefyd ar yr ochr staffio, mae arweinyddiaeth yn broblem. Yn llawer rhy aml, mae'n anodd iawn penodi pennaeth mewn ysgol fach wledig. Ar ben hynny, mae'r naratif ehangach yma fod ysgol fwy yn gyffredinol yn well, a chyfuniad o'r pethau yma, rydw i'n meddwl, sy'n gwneud i gynghorau deimlo nad oes ganddyn nhw fawr o ddewis ond rhesymoli neu ad-drefnu neu foderneiddio eu rhwydweithiau ysgolion. A waeth i mi fod yn onest: mae'r gost yn ffactor mor flaenllaw ym mhopeth yn y dyddiau yma o lymder. Ond beth am werth yr ysgol fel adnodd cymdeithasol? Ac nid ydw i'n sôn yn angenrheidiol am y neuadd ysgol yn cael ei defnyddio bob nos ac ati, er bod hynny'n digwydd mewn llawer o lefydd, ond sôn ydw i am yr ysgol fel glud cymunedol, a dyna ddod â ni at y ddeiseb yma.
Mae'r deisebwyr ym Môn wedi cael gobaith bod yna fodd i warchod y glud cymunedol yna. Mae'r gobaith yn dod ar ffurf cod diwygiedig Llywodraeth Cymru, y cod diwygiedig a ddaeth i rym ar y cyntaf o'r mis yma, sy'n cyflwyno rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor. Rydw i'n cytuno efo'i gynnwys e, gyda llaw; nid oes gen i ddim problem. Beth mae o'n ei ddweud ydy bod angen i awdurdod lleol brofi eu bod nhw wedi ystyried opsiynau eraill cyn cau, eu bod nhw wedi mynd drwy amrywiol brosesau manwl cyn penderfynu cau. Beth sydd yma ydy canllawiau i awdurdodau i'w dilyn wrth lunio cynnig ac wrth wneud y penderfyniad i gau. I ddyfynnu eto:
'Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fyddant byth yn cau.'
Felly, gadewch i mi fod yn glir: nid oes mesurau penodol i gadw ysgolion gwledig ar agor mewn statud, a siawns mai mesurau penodol, gan gynnwys adnoddau, sydd eu heisiau.
Eto, rydw i'n pwysleisio fy mod i'n cytuno efo beth mae'r cod yn ei ddweud. Mae o'n mynnu ystyried ffederaleiddio, a rhag ofn bod gwerth i fy marn i ar hyn, rydw i'n credu y dylid gwneud popeth i gadw ysgol yn ei chymuned. Rydw i'n ffafrio, yn bersonol, ysgolion ardal aml-safle, lle mae nifer o ysgolion yn dod at ei gilydd o dan un pennaeth, o dan un corff llywodraethol. Ond rydw i'n gwybod yn iawn nad yw hyn yn cynnig y math o arbedion ariannol y mae'n rhaid i gynghorau eu gwneud y dyddiau yma oherwydd llymder. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod costau uwch darparu addysg mewn ardal wledig, os am wneud hynny'n rhagorol, a rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i awdurdodau sy'n gwasanaethu ardaloedd gwledig i ddarparu system addysg sy'n gweddu i'w cymunedau gwledig nhw.
Mae yna grantiau ysgolion gwledig ar gael, ond nid ydyn nhw'n ddigon: £2.5 miliwn y flwyddyn. Yn ôl y Llywodraeth, mae yna dros 300 o ysgolion wedi elwa yn y flwyddyn gyntaf—rhyw £8,000 yr ysgol ydy hynny. A thra fy mod i'n croesawu unrhyw arian ychwanegol, nid ydy hwnnw y math o arian sy'n gallu cadw ysgol ar agor. Mae'r Llywodraeth yn dweud—ac wedi dweud mewn ateb i gwestiynau gen i—bod modd i awdurdodau wneud ceisiadau am arian o'r cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond y gwir amdani ydy ei bod hi'n haws cyfeirio'r arian hwnnw o'r gronfa benodol honno at adeiladu ysgolion newydd mwy. Ond os nad ydy'r arian gennych chi, Lywodraeth Cymru, byddwch yn onest, a pheidiwch â phasio'r bai i gyd i lywodraeth leol. Mae eisiau cydweithio yn fan hyn.
Felly, i grynhoi, mae cau rhai ysgolion yn anochel, rydw i'n meddwl. Pan fo ysgol i lawr i ddwsin neu ddau o blant, rydw i'n meddwl ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i beth sy'n gynaliadwy. Ond os ydy'r Llywodraeth o ddifri bod yna werth cynhenid i ysgol fach wledig, wel, helpwch ein hawdurdodau lleol ni. Fel arall, nid oes gan Ynys Môn, na'r un awdurdod arall, ddewis ond parhau i chwilio am ffyrdd i ddarparu addysg ragorol mewn ysgolion mwy, rhatach, yn hytrach na cheisio darparu addysg ragorol mewn ysgolion gwledig llai, fel rydw i'n gwybod sy'n berffaith, berffaith bosib.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, ac rwy'n falch iawn o ddilyn Andrew R.T. Davies a chodi unwaith eto ein gwrthwynebiad ar y cyd ar draws y Siambr hon i gynnig diweddaraf Cyngor Bro Morgannwg—wrth gwrs, mae bellach yn gyngor dan reolaeth Geidwadol—i gau ysgol lwyddiannus yn fy etholaeth i a rhanbarth Andrew, sef Ysgol Gynradd Llancarfan. Credaf ei bod yn berthnasol imi godi rhai o'r pwyntiau y buom yn eu codi dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Croesawyd y ffaith bod Llancarfan wedi'i dynodi'n unig ysgol wledig Bro Morgannwg, ac roeddem wedi gobeithio y byddai hynny'n cynnig rhyw lefel o amddiffyniad wrth ystyried canlyniad yr ail ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol yr ysgol. Ond roedd hi'n ymddangos bod Cyngor Bro Morgannwg yn anwybyddu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac fel y dywedais eisoes y prynhawn yma mewn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw wedi ystyried opsiynau eraill megis ffedereiddio, ac mae'n bwrw ymlaen â'i gynlluniau.
Mae gennym bryderon difrifol am y cynnig i gau ysgol Llancarfan, ysgol wledig lwyddiannus ym Mro Morgannwg. Ceir gwrthwynebiad a dadleuon eang yn erbyn y cynlluniau i gau gyda thystiolaeth annibynnol drylwyr gan arbenigwyr, ac rwyf wedi dweud bod y cysyniad mai trosglwyddo ysgol yn hytrach na chau yw hwn, fel y dywedodd Andrew, yn anghywir ac yn peri pryder, ac mae'n dwyn anfri ar Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae hefyd yn ddehongliad unigryw o'r cod trefniadaeth ysgolion, a gallai osod cynsail yn wir i awdurdodau lleol ddefnyddio trosglwyddo ysgolion fel ffordd o osgoi mesurau diogelu ychwanegol ar gyfer ysgolion gwledig yn y cod diwygiedig. Felly, a gawn ni ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y materion a amlinellais?
Rwy'n siomedig nad yw'n ymddangos bod unrhyw ymgais gan gyngor y Fro i ystyried dewisiadau amgen ar gyfer cynnal ysgol wledig lwyddiannus yn Llancarfan a gwella'r ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Rhws, a allai wneud defnydd o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'r ddeiseb, wrth gwrs, yn ymwneud â mater penodol ac ynglŷn â pha fersiwn o'r cod y dylid ei ddefnyddio mewn achos arbennig ar Ynys Môn—hynny yw, yr hen fersiwn ynteu'r fersiwn newydd; 2013 yn hytrach na 2018. Nid oes gen i ddim sylwadau penodol i'w gwneud am yr achos yna nac ar ba un ydy'r fersiwn y dylid cael ei ddefnyddio. Mae hwn yn fater manwl iawn sydd angen ystyriaeth. Ond hoffwn i gymryd y cyfle jest i wneud ychydig o sylwadau cyffredinol ynglŷn â'r holl faes addysg wledig ac ysgolion bach.
Mae'r cod newydd yn nodi bod yn rhaid dilyn cyfres o weithdrefnau a gofynion manylach wrth benderfynu cau ysgol wledig. Ond fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi'i ddweud, ac fel y mae eraill wedi tynnu sylw ato fo yn barod, nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fyddant byth yn cau. Rydw i'n siŵr—rydw i'n hollol sicr—fod awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn ar effaith unrhyw gau, cod neu beidio, a bod ffedereiddio, ysgolion aml-safle yn opsiynau real iawn, a bod eisiau cymryd hynny i ystyriaeth.
Nid oes neb, wrth gwrs, eisiau gweld ysgol fach yn cau. Mae yna ymlyniad teuluol, mae yna ymlyniad emosiynol, mae ysgolion yn gallu bod yn ganolbwynt cymunedol—ddim bob tro, ond mewn rhai cymunedau maen nhw'n hollbwysig i ffyniant y cymunedau hynny. Mae yna enghreifftiau lu o ysgolion sydd yn bell iawn o'r ysgol nesaf—ysgolion sydd 20 milltir i ffwrdd o'i gilydd. Mae'n amlwg bod ysgolion felly angen cael eu meddwl amdanyn nhw'n benodol, achos mae'r teithio yn mynd i fod yn cael effaith andwyol ar blentyn ac ar addysg y plentyn yna.
Ond, fel y mae Rhun wedi sôn, mae addysg gwledig angen adnoddau, a'r adnoddau hynny'n sy'n brin ar hyn o bryd. Mae gen i felly bob cydymdeimlad efo awdurdodau lleol sy'n ceisio cael y balans rhwng cynnal adeiladau sydd bellach yn rhy fawr ar gyfer yr anghenion presennol a thalu costau staffio trwm—balansio hynny ar yr un llaw—a'r angen i roi'r cyfle gorau posibl i bob plentyn o fewn dalgylch yr awdurdod yna i gyrraedd eu llawn potensial.
Un pot o bres sydd yna ar gael, ac yn aml mae angen i gynghorwyr gymryd penderfyniadau anodd, amhoblogaidd os ydyn nhw am greu tegwch ar gyfer pob plentyn. Felly, i'r cod fod yn ystyrlon, mae'n rhaid iddo fo gael ei gefnogi gan adnoddau, a'r rheini yn adnoddau digonol. Yn anffodus, rydym ni'n gwybod pa mor anodd ydy hynny yn y dyddiau yma o gynnu a llymder.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y ddadl a gafwyd y prynhawn yma ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am yr amser y maent wedi'i roi i gymryd rhan ac am yr angerdd clir y mae llawer ohonynt wedi'i fynegi ynglŷn ag ysgolion gwledig yn yr ardaloedd y maent yn eu cynrychioli.
Rwy'n glir y gall fod manteision gwirioneddol—academaidd, diwylliannol a chymdeithasol—i ddisgyblion a chymunedau o ddarparu addysg o ansawdd uchel mewn ysgolion bach a gwledig. Rwy'n gwybod, ac mae rhieni ar draws y cymunedau gwledig yn gwybod, fod ysgolion bach a gwledig yn chwarae rhan bwysig yn codi safonau ac yn cynnig cyfleoedd i bawb. Rwyf hefyd yn gwybod y gall cynnal darpariaeth ysgol hygyrch mewn rhai cymunedau gwledig bach gyfrannu'n sylweddol at sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gymuned leol, a dyna pam mai un o'r ymrwymiadau cyntaf a wneuthum fel Ysgrifennydd Addysg oedd cryfhau'r cod trefniadaeth ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.
Byddai'n rhaid imi ddweud, yn ofalus, wrth Rhun ap Iorwerth fod hwnnw'n ymrwymiad ym maniffesto fy mhlaid a roddwyd ar waith gennyf, a nodaf nad oedd unrhyw sôn am ysgolion gwledig yn y ddwy faniffesto ddiwethaf a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru. Tristwch yw nodi hefyd fod cyngor Ynys Môn, yn eu hymateb i'r ymgynghoriad ar y cod newydd, wedi gwrthwynebu'r egwyddor o ragdybiaeth yn erbyn cau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Ond fe wnewch chi ychwanegu at hynny fod cyngor Ynys Môn, mewn cyflwyniad dilynol i Lywodraeth Cymru, wedi dweud yn glir eu bod yn cefnogi'r cod.
Yn amlwg, mae'n rhaid bod eich lobïo wedi talu ar ei ganfed ac nid oeddent eisiau—. Roeddent am arbed embaras i chi, Rhun.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus 14 wythnos o hyd, daeth y cod diwygiedig i rym, fel y dywedodd y Cadeirydd, ar 1 Tachwedd, cod sydd bellach yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a dynodi ysgolion gwledig am y tro cyntaf erioed at y diben hwn. Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu—ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hyn—na fydd ysgolion gwledig byth yn cau. Fodd bynnag, mae'n golygu bod yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf ac ni ddylid ei wneud hyd nes y bydd pob dewis amgen dichonadwy yn lle cau wedi'u hystyried yn gydwybodol, ac mae hynny'n cynnwys yr egwyddor o ffedereiddio. Rwy'n credu y dylai ystyried dewisiadau eraill fod yn broses ag iddi ddau gam, gyda'r cynigydd yn gwneud hyn cyn iddynt benderfynu symud ymlaen i ymgynghori hyd yn oed, gyda chyfle i unrhyw un arall sydd â diddordeb gyflwyno awgrymiadau ar gyfer dewisiadau amgen fel rhan o'r ymgynghoriad, a rhaid i'r cynigydd eu hystyried, ac mae'r cod newydd yn darparu ar gyfer hyn.
Wrth gwrs, mae'n bwysig i'r Aelodau gofio nad Llywodraeth Cymru ond awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am sicrhau bod digon o ysgolion yn darparu addysg gynradd ac uwchradd yn eu hardal. Ystyrir bod ysgolion yn ddigonol os ydynt yn ddigonol o ran nifer, ansawdd a chyfarpar i roi cyfle i'r holl ddisgyblion gael addysg briodol. Er mwyn cyflawni'r dyletswyddau hyn, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cynllunio'n drylwyr ar gyfer yr ysgolion sy'n gwasanaethu eu hardal. Mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â dyletswydd awdurdod lleol i ymdrechu i godi safonau addysg.
Bydd cynigwyr wedi trafod yn hir a ddylid bwrw ymlaen i ymgynghori ar gau ysgol. Fodd bynnag, mae'n bwysig fod y cynigydd yn agored i syniadau ac awgrymiadau a chynigion newydd sy'n dod i'r amlwg o'r ymgynghoriadau, ac nad yw'r penderfyniad terfynol y gall cynigydd ei wneud yn un anochel. Wrth ymgymryd â'u cyfrifoldebau mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion, rhaid i awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill gydymffurfio â darpariaethau statudol y cod a rhaid iddynt ystyried y canllawiau statudol. Mae'r cod yn cydnabod bod yn rhaid i addysg fod yn brif ystyriaeth. Bwriad y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yw ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cyfrifoldebau awdurdodau lleol a dymuniadau a phryderon cymunedau lleol. Ei nod yw sicrhau bod ysgolion gwledig yn cael gwrandawiad teg ac na welir cau fel unig opsiwn neu ganlyniad anochel.
Fel y nodais eisoes, daeth y cod diwygiedig i rym ar 1 Tachwedd a daeth yn weithredol ar unwaith. O'r dyddiad hwnnw, bydd angen i awdurdodau lleol sy'n ystyried cyflwyno cynigion i gau ysgol edrych i weld a yw'r ysgol ar y rhestr a bydd y gweithdrefnau a'r gofynion pellach a nodir yn y cod yn berthnasol wedyn. Fodd bynnag, nid yw'r darpariaethau newydd yn berthnasol i gynigion sydd eisoes ar y gweill, lle y cyhoeddwyd yr ymgynghoriad cyn i'r cod ddod i rym. Ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod modd i'r cynigwyr gydymffurfio â'r cod sydd mewn grym, gan gynnwys mewn perthynas â'u hymgynghoriad. Ac er nad yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn berthnasol i'r cynigion hyn, rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill sicrhau er hynny eu bod yn cydymffurfio ag argraffiad cyntaf y cod. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y cynnig i gau unrhyw ysgol yn gadarn ac er budd gorau'r ddarpariaeth addysg yn yr ardal honno, a bod effaith cau ysgol ar y gymuned wedi'i hasesu drwy gynhyrchu asesiad o'r effaith ar y gymuned.
Mae'r cod yn gosod safon uchel ar gyfer ymgynghori, gan ddarparu ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn lleisio eu barn a chael y safbwyntiau hynny wedi'u hystyried. Gall unrhyw un sydd â diddordeb fynegi eu barn hefyd drwy gyfrwng unrhyw gyfnod gwrthwynebu a allai ddilyn.
O ran y ddeiseb, bydd yr Aelodau'n sylweddoli, o ystyried y posibilrwydd y gallai cynigion gael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru am benderfyniad—ac rwyf wedi gorfod gwneud penderfyniadau o'r fath—nid wyf yn gallu gwneud sylwadau ar rinweddau neu fel arall unrhyw gynnig a allai gael ei atgyfeirio ataf wedyn am benderfyniad.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd yr ymyriad a diolch i chi am y penderfyniad a wnaethoch mewn perthynas ag Ysgol Llanbedr yn fy etholaeth i, ysgol yr oedd yr awdurdod lleol wedi bwriadu ei chau, ond roeddwn yn ddiolchgar iawn am eich penderfyniad i gadw'r ysgol benodol honno yn agored? Credaf mai'r un pryder ynghylch y broses o wneud penderfyniadau, os caf ddweud, yw faint o amser y mae'n ei gymryd weithiau i Weinidogion Cymru ystyried y dystiolaeth sydd ger eu bron. Tybed a allech roi sylwadau ar sut y gellid lleihau'r amser er mwyn cael gwared ar yr ansicrwydd y gall hynny ei achosi i ysgolion bach pan fydd penderfyniadau o'r fath o dan ystyriaeth.
Diolch i chi, Darren, am eich diolch o ran y penderfyniad. Fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef yma a chytuno â chi fod y penderfyniad hwnnw wedi cymryd gormod o amser a bydd angen i ni wneud yn well i sicrhau bod penderfyniadau o'r fath a allai ddod i Weinidogion yn cael eu gwneud mewn modd mwy amserol, ac rwy'n gobeithio y bydd fy swyddogion a minnau'n gallu defnyddio'r profiad hwnnw i sicrhau bod y gweithdrefnau'n gynt y tro nesaf y daw cynnig o'r fath gerbron. Rwy'n gobeithio bod y gymuned yn falch, ac rwy'n dymuno'n dda i'r ysgol honno.
Wrth gwrs, nid yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig ond yn un o'r camau rydym yn eu rhoi ar waith, Lywydd, i gefnogi addysg wledig. Rydym hefyd wedi cyflwyno grant ysgolion bach a gwledig newydd o £2.5 miliwn y flwyddyn i annog arloesedd ac i gefnogi mwy o weithio o ysgol i ysgol a chynyddu'r defnydd cymunedol o adeiladau. Mae tua 400 o ysgolion ledled Cymru eisoes yn elwa o'r grant hwnnw. Mae hyn, ochr yn ochr â'n mentrau E-sgol newydd, sy'n cynorthwyo ysgolion yn yr oes ddigidol i gyflwyno technegau addysgu arloesol, yn rhan allweddol o'n cynllun gweithredu addysg wledig, a lansiais fis diwethaf. Rwy'n hyderus y bydd y cynllun hwn, sy'n dwyn ynghyd holl gamau gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer ysgolion gwledig mewn un cynllun cydlynol, yn darparu ar gyfer ein pobl ifanc er mwyn sicrhau bod pawb, ni waeth beth yw eu cefndir neu lle maent yn byw, yn cael cyfle i fwynhau addysg ragorol.
Galwaf ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl, a diolch i'r deisebydd unwaith eto am gyflwyno'r ddeiseb?
Rwyf am grynhoi'n fyr rai o'r sylwadau a wnaed. Gwnaeth Andrew R.T. Davies y pwynt fod ysgol wledig yn aml yn galon i'r gymuned, gan gyfeirio at ysgol Llancarfan yn ei etholaeth fel enghraifft o gau ysgol y ceir dadl gref dros ei chadw ar agor.
Dadleuodd Rhun ap Iorwerth nad oes angen i ysgol fod yn fawr er mwyn rhoi profiad addysgol da, a siaradodd hefyd am yr anhawster i gael athrawon i ysgolion gwledig bach fel cydnabyddiaeth o ba mor anodd yw hi, yn aml, i awdurdodau lleol gadw ysgolion ar agor. Ailadroddodd y pwynt a wnaeth Andrew am ysgolion gwledig yn rhan o'r gymuned. Hefyd, wrth gwrs, gofynnodd am fwy o gymorth ariannol i awdurdodau lleol heb orfod mynd drwy broses o ymgeisio amdano.
Roedd Jane Hutt yn cwestiynu pam y gallai'r gweithdrefnau presennol ddal i arwain at gau ysgolion gwledig llwyddiannus, a hefyd yn cwestiynu pam, yn aml, nad yw dewisiadau amgen bob amser yn cael eu harchwilio'n llawn.
Siaradodd Siân Gwenllian yn gyntaf oll, wrth gwrs, am Ysgol Gymuned Bodffordd a chydnabu wedyn fod yna achosion lle mae ysgolion yn gorfod cau, ond hefyd soniodd am y pellteroedd y gallai disgyblion orfod eu teithio—weithiau hyd at 20 milltir—ac y dylid ystyried hynny wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chau ysgolion gwledig.
I droi at ymatebion Ysgrifennydd y Cabinet, cydnabu gymaint o adnodd cymunedol yw ysgolion gwledig yn aml. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai dyma oedd un o'r rhesymau dros gryfhau'r cod. Hefyd gwnaeth y pwynt fod yn rhaid i'r awdurdodau gynnal ymgynghoriad llawn yn awr cyn cau ysgol mewn gwirionedd, ac mae dyletswydd arnynt i gydymffurfio â gofynion statudol y cod. Nid wyf yn siŵr ei bod hi wedi ateb y ddeiseb mewn gwirionedd wrth ddweud hynny, oherwydd mae'r ddeiseb yn galw am roi rhywfaint o bwysau ar awdurdodau i edrych ar ysbryd y cod yng ngoleuni'r ffaith bod y cod wedi'i gryfhau.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, byddwn yn ceisio ystyried ymateb y deisebydd i'r pwyntiau a godwyd heddiw, ac wrth gwrs, yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau ac am y cyfle i drafod y mater hwn heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.