Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Byddem. Fel y dywedais, mae gennym ni'r astudiaethau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr, ar ôl i ni gytuno ar rai o'r agweddau ymarferol, y byddwn ni'n ymgynghori ar ffordd ymlaen ar hynny. Ni allaf siarad ar gyfer y maes penodol hwn, ond fel rheol byddem yn ceisio ymgynghori ac ymgysylltu ag amrywiaeth mor eang o randdeiliaid â phosibl—yn enwedig y rhai â gwybodaeth arbenigol am sut i weithredu safonau ymarferol mewn aer glân, sef, wedi'r cyfan, fel mae'r Aelod yn ei nodi, yr hyn yr ydym ni i gyd ei eisiau.