Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Wel, mae aer budr yn lladd ein dinasyddion, ac mae'n difetha bywydau ein plant. Nawr, mae Plaid Cymru wedi amlinellu rhai o'n cynigion o ran mynd i'r afael ag allyriadau o gerbydau, monitro llygredd, ffioedd llygredd a thagfeydd, creu ardaloedd aer glân, ond gan hefyd roi'r sail gyfreithiol honno sydd ei hangen arnyn nhw. Nawr, soniasoch efallai y byddwch chi'n ei ystyried. Wel, rwyf yn eich annog, os gwelwch yn dda, fel Llywodraeth, i gefnogi cynigion Plaid Cymru ar gyfer Bil aer glân i Gymru.