Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Rwy'n credu mai'r pwynt a wnes i ynghylch hynny, ac fe'i gwnaf ef eto, oedd bod y rhain yn benderfyniadau, ydynt, y gallwn edrych arnyn nhw yng nghyd-destun heddiw, ond y dylem ni fod yn edrych arnyn nhw yng nghyd-destun blynyddoedd. Rydym ni wedi bod yn siarad am amser maith am yr angen i feddwl yn drawsffurfiol ynghylch sut yr ydym ni'n gwario arian ar iechyd a gofal cymdeithasol—nid yw wedi digwydd. Bellach, o ganlyniad i'r adolygiad seneddol, efallai y byddwn ni'n gweld rhywfaint o newid, ond mae hyn yn fethiant ar ran bron i 20 mlynedd o Lywodraeth a arweinir gan Lafur.