Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, a diolch hefyd i Mike Hedges am ei gyfraniad i fater pwysig i lawer o bobl yn ardal bae Abertawe? Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod y weledigaeth yn glir ac mae'r partneriaid am weithio gyda'i gilydd i gyflawni dinas-ranbarth bae Abertawe, gyda'r fargen ddinesig sydd wedi'i chysylltu mor agos ag ef.