Cyfoeth Naturiol Cymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:50, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Cefais y fantais o holi Clare Pillman, y prif weithredwr cyfredol, yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei bod wedi creu argraff arnaf, ac mae'n sicr yn llawer gwell na'i rhagflaenydd. Ond rwy'n meddwl tybed a oes tensiwn cynhenid rhwng y rôl reoleiddiol ar y naill law a'r rôl rheoli'r amgylchedd yn Cyfoeth Naturiol Cymru, a'i gangen fasnachol, o ystyried canlyniadau trychinebus eu hymdrechion i weithredu mewn modd masnachol yn y blynyddoedd diwethaf. Ac er na fuaswn o reidrwydd yn mynd mor bell ag Andrew R.T. Davies a galw am ddatgymalu'r sefydliad cyfan a'i roi yn ôl at ei gilydd eto fel yr oedd o'r blaen, efallai, onid oes dadl dros wahanu swyddogaethau masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru a chael bwrdd ar wahân ar gyfer hynny sy'n lled-annibynnol, o leiaf, oddi ar y prif fwrdd?