Cyfoeth Naturiol Cymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:51, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, rwyf wedi cael sgyrsiau am hyn gyda'r prif weithredwr, ac nid wyf yn credu y dylid gwneud hynny ar hyn o bryd. Fe fyddwch yn gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o recriwtio pennaeth y sector masnachol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i weld pa gyllid ychwanegol y gallant ei gyflwyno, a chredaf mai dyna'r ffordd iawn i fynd ar hyn o bryd. Ond rwy'n falch iawn o glywed nad ydych yn credu mai newid y sefydliad yw'r peth iawn. Credaf fod hynny'n annhebygol iawn o'n helpu i symud ymlaen a chyflawni'r hyn sydd angen i ni ei weld.