5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwerthu Cymru i'r Byd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:00, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf—ac rwy'n siarad, nid fel aelod o'r pwyllgor, ond fel rhywun sydd â diddordeb brwd yn lle y cawn ein gosod fel cenedl—yn sicr, rydym yn croesawu'r adroddiad. Mae'n cynnwys cyngor gwerthfawr iawn ar gyfer y dyfodol, ac wrth gwrs, nid ydym yn gwybod yn iawn eto beth fydd cyd-destun Cymru. Ymddengys y bydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond beth bynnag fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf o ran ein cyfeiriad fel gwlad yn y dyfodol, bydd Cymru angen llais uwch nag erioed o'r blaen.

Mae Russell George, yn y cyflwyniad i'r adroddiad, yn dweud:

'Mae’n amlwg i’r Pwyllgor fod rhagor y gellir ei wneud i werthu Cymru i’r byd mewn ffordd strategol a chydgysylltiedig. Mae pocedi o arfer da y mae’n rhaid eu halinio’n well ar draws portffolios—a’u gwneud yn agored i ragor o fusnesau—os ydym am gyflawni ein potensial yn y maes hwn'.

Mewn llawer o ffyrdd, gallwn ei gweld fel stori'r Llywodraeth hon ar draws nifer o feysydd portffolio: diffyg meddwl strategol, dim digon o feddwl yn strategol, dim cymaint o weithio cydgysylltiedig ag yr hoffem ei weld, dim ond pocedi o arferion da yma ac acw. A chredaf fod argyfwng Brexit—ac nid yw'n air rhy gryf i'w ddefnyddio—yn golygu bod yna berygl y bydd llais Cymru'n cael ei golli, rwy'n credu, a'i foddi, ac mae'n rhaid i ni wneud yn well, rhaid i ni feddwl yn fwy strategol, ac mae arnaf ofn, dros y ddwy flynedd ers refferendwm Brexit, nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynifer o gamau ar waith ag yr hoffwn—ag y byddem yn ei hoffi—gyda'r difrifoldeb y dylai fod wedi'i ddangos tuag at y mater hwn.

Ac yn yr Alban, rwy'n credu, unwaith eto, rydym yn gweld Llywodraeth sy'n dangos beth y gellir ei wneud gyda gweledigaeth strategol. Ers blynyddoedd lawer, rwy'n credu bod y Llywodraeth ddatganoledig yno wedi gweithio'n galed i werthu brand unigryw yr Alban mewn busnes ac mewn twristiaeth ac ati ac wedi ceisio cymaint o ddylanwad ag y bo modd i'w gwlad, yn Ewrop, ac yn wir, mewn mannau eraill o gwmpas y byd, a hynny ar adeg pan ymddengys bod rhai'n ymdrechu, nid yn lleiaf Llywodraeth y DU, wrth gwrs, i ymyleiddio brand Cymru, a gwelwyd hynny ar ei fwyaf amlwg, wrth gwrs, yn Sioe Frenhinol Cymru, fel rwyf wedi'i grybwyll sawl gwaith, gyda chynnyrch Cymru yr haf hwn.

Nawr, prif argymhelliad yr adroddiad hwn, yr argymhelliad ar y brig, yw y dylid creu Gweinidog penodol i gyfuno cyfrifoldebau Brexit â materion allanol, gan gynnwys gwerthu Cymru i'r byd. Mewn gwirionedd, mae gan yr Alban Weinidog Ewrop a Materion Allanol o'r fath ar lefel Cabinet ers dechrau datganoli, rwy'n credu, o'r flwyddyn 2000 ymlaen. Cafodd ei ddiddymu, yna'i gyfuno â phortffolios eraill, cyn cael ei atgyfodi pan ddaeth yr SNP i rym yn 2007. Mae Ewrop a materion allanol yn rhan o swydd lefel Cabinet yn yr Alban, gydag is-Weinidog yn cynorthwyo. Wrth gwrs, mae ganddynt fwy o gapasiti o ran nifer yr Aelodau yno yn yr Alban. Ac nid wyf yn credu bod esgus dros beidio â chael un yn awr yng Nghymru mewn gwirionedd, o ystyried yr heriau a wynebwn, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am Weinidog i ymdrin â materion allanol ers peth amser—Gweinidog penodol, wrth gwrs. Mae'n rhan o gyfrifoldebau'r Prif Weinidog; credwn fod angen camu'n uwch, ac mae'r cyd-destun newidiol, rwy'n credu, yn cryfhau'r ddadl dros wneud hynny.

Nid ydym yn siŵr o ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad a ydynt yn derbyn yr angen i greu swydd ar lefel weinidogol ar gyfer Brexit a masnach rhyngwladol neu a ydynt yn awgrymu ein bod yn aros gyda'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd gyda'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill yn ymdrin â'r materion hynny. Efallai y byddai rhywfaint o eglurder ar y pwynt hwnnw'n ddefnyddiol yn awr mewn gwirionedd. Nid yw'r trefniant presennol, fodd bynnag, fel y noda'r adroddiad, yn gydgysylltiedig, nid yw'n ddigon penodol, nid yw'n ddigon strategol, a byddai Gweinidog ar wahân yn gallu sicrhau eglurder ac atebolrwydd go iawn, sy'n hollbwysig, wrth gwrs, o ran sut rydym yn ymdrin â'n materion allanol fel gwlad. Felly, dyna yw'r prif argymhelliad.

Hoffwn sôn am rôl swyddfeydd tramor hefyd. Roedd yr adroddiad yn glir yn ei gasgliadau fod yna ddiffyg cyfeiriad ac adnoddau ar gyfer y swyddogion hyn. Mae angen mwy o ffocws; bydd ymgysylltiad gwell â busnesau yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn hollbwysig. Sylwaf, o ymateb y Llywodraeth, fod gofyn i'r swyddfeydd deilwra cynlluniau busnes penodol erbyn hyn yn seiliedig ar y cryfderau a'r cyfleoedd yn eu gwahanol farchnadoedd. Rydym yn croesawu hynny, ond mae cwestiwn yn codi o hyd ynglŷn ag adnoddau ac a ydym bellach yn credu eu bod yn gallu cyflawni'r angen am swyddogaeth ehangach yn y cyd-destun newydd hwnnw.

Prif neges yr adroddiad hwn, felly, yw bod yna ddiffyg meddwl strategol, a diffyg arweinyddiaeth, fel sy'n wir am gynifer o feysydd Llywodraeth. Tynnwyd sylw at y gwaith sydd angen ei wneud ar draws amrywiaeth o adrannau. Mae hwn, mewn sawl ffordd, yn ddechrau cyfnod newydd i Gymru; nid yw'n gyfnod y byddem wedi'i ddyfeisio ein hunain, ond rwy'n credu bod gennym gyfres o argymhellion yn yr adroddiad hwn a fydd, gobeithio, yn gallu gosod rhai sylfeini ar gychwyn y cyfnod newydd hwnnw yn hanes Cymru.