6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:25, 28 Tachwedd 2018

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i’n falch iawn o agor y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Meithrin Cydnerthedd’, sy’n trafod cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau.

Mae’r celfyddydau yn rhan hanfodol o fywyd Cymru. Fel cenedl, rydym ni'n dathlu traddodiad sydd yn hen a chyfoethog o weithgarwch ac allbwn artistig. Rydym ni wedi bod yn gartref hirhoedlog i lu o unigolion talentog ac angerddol sydd wedi helpu i greu sector sy’n dod â manteision eang i bob un ohonom ni. O fuddion economaidd ac ymarferol i helpu i fynd i’r afael â materion polisi cyhoeddus, boed hynny o fewn y system addysg neu wrth fynd i’r afael â materion iechyd, mae’r celfyddydau yn rhan annatod o unrhyw gymdeithas iach a ffyniannus. Hefyd, mae yna gydnabyddiaeth eang fod cymryd rhan yn y celfyddydau yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac yn lleihau unigrwydd ac allgáu cymdeithasol.

Serch hyn, mae cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau wedi gostwng yn sylweddol mewn termau real yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae’r mwyafrif helaeth o ddyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn mynd i Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn y gyllideb ar gyfer 2017-18, allan o’r £31.7 miliwn a ddyrannwyd i’r maes hwn, dyrannwyd £31.2 miliwn i gyngor y celfyddydau. Fodd bynnag, rhwng 2011-12 a 2017-18, mae cyllid Llywodraeth Cymru i gyngor y celfyddydau wedi gostwng 18 y cant mewn termau real. Mae cyfran cyngor y celfyddydau o gyllid y loteri hefyd wedi gostwng yn ystod y cyfnod hwn. Hefyd, wrth i gyllidebau awdurdodau lleol dynhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyllid y mae’r sector celfyddydau yn ei gael o’r cyfeiriad hwn hefyd wedi gostwng. I ddangos hyn, mae cyllid awdurdodau lleol i Bortffolio Celfyddydau Cymru, sef y sefydliadau celfyddydol sy’n cael cyllid refeniw blynyddol gan gyngor y celfyddydau, wedi gostwng o £11 miliwn yn 2011-12 i £5.1 miliwn yn 2016-17.

O gofio’r gydnabyddiaeth eang o’i fanteision, mae’r lefel hon o doriadau yn amlwg yn codi pryderon. Er mwyn lliniaru’r gostyngiad hwn mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar gyngor y celfyddydau i leihau dibyniaeth y sector ar gymhorthdal ​​cyhoeddus ac i’r sector ei hun godi ei gêm o ran codi arian.

Felly, ar gyfer yr ymchwiliad hwn, yn hytrach na dim ond trafod effaith y dirywiad hwn mewn cyllid a galw am ei gynyddu, gwnaethom benderfynu edrych yn benodol ar ddull y Llywodraeth o weithredu yn y maes hwn i asesu pa mor ddichonadwy ydyw, a gofyn a oes unrhyw gamau ymarferol ychwanegol y gallai’r sector eu cymryd i arallgyfeirio a chynyddu’r cyllid y mae’n ei gael o ffynonellau nad ydynt yn ffynonellau cyhoeddus.

Er mwyn llywio’r ymchwiliad, cytunodd y pwyllgor i archwilio yn gyntaf pa mor llwyddiannus y mae sector y celfyddydau yng Nghymru wedi bod o ran cynyddu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus; hefyd, sut y caiff cyllid celfyddydol heblaw cyllid cyhoeddus ei rannu ledled Cymru; ac a oes yna fodelau rhyngwladol o arferion gorau y gallai Cymru eu hefelychu.

Yn ystod ein hymchwiliad, daeth yn amlwg yn gyflym fod sector celfyddydau Cymru yn wynebu heriau amrywiol ac anodd iawn o ran codi arian. Mae sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu heriau penodol o ran cynyddu eu hincwm, sy’n seiliedig yn bennaf ar raddfa’r sefydliadau hyn a’u lleoliad. Er mwyn i sefydliadau celfyddydol Cymru fod yn llwyddiannus wrth leihau eu dibyniaeth ar gyllid cyhoeddus, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny. Mae cwmnïau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu llawer o anawsterau nad ydynt mor gyffredin mewn mannau eraill.

O ganlyniad, mae nifer o gamau y credwn y bydd angen i’r Llywodraeth eu cymryd cyn y gall ddisgwyl yn realistig i’r sector ymateb yn effeithiol i’w chais am ddibynnu llai ar gymhorthdal ​​cyhoeddus. Heb gymryd y camau hyn, mae’n anodd dychmygu senario lle na fydd allbwn ac amrywiaeth y sector yn lleihau, yn sgil y lleihad yn y cymhorthdal ​​cyhoeddus.