6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:30, 28 Tachwedd 2018

Oherwydd y nifer fach o fusnesau mawr sydd â phencadlys yng Nghymru, mae denu cymorth busnes yn anodd. Eglurodd Nick Capaldi, prif weithredwr cyngor y celfyddydau, fod nawdd busnes yn fwy cyffredin yn y canolfannau metropolitan ac i gefnogi sefydliadau celfyddydol mwy sydd â phroffil uwch. Ychwanegodd fod sefydliadau cymunedol bach mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, yn ei chael hi’n anodd denu nawdd corfforaethol sylweddol.

Mae codi arian drwy roddion gan unigolion hefyd yn broblem i’r celfyddydau yng Nghymru. Dywedwyd wrthym fod y nifer cymharol isel o unigolion gwerth net uchel yng Nghymru yn gwneud codi arian drwy roddion gan unigolion yn anodd iawn. Yn ychwanegol at hyn, mae’r anhawster a nodwyd gan Ganolfan Celfyddydau Chapter, sef yr her gyson o brofi bod y celfyddydau yn achos elusennol. Tynnodd Blue Canary, sef yr ymgynghoriaeth codi arian ym maes y celfyddydau, sylw at y mater yma hefyd. Dywedodd wrth y pwyllgor fod sefydliadau celfyddydol ar ei hôl hi o ran mentergarwch i gynhyrchu incwm ar draws y sector elusennol ehangach.

Roedd y farchnad hynod gystadleuol ar gyfer arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau yn rhywbeth a ddaeth i’n sylw drwy gydol yr ymchwiliad. Mae sefydliadau preifat yn Ewrop wedi cyfyngu ar y grantiau y maent yn eu rhoi yn ystod cyfnod hir o gyfraddau llog isel. Gan gyfuno hyn â nifer o flynyddoedd o doriadau yn y sector cyhoeddus, mae’n hawdd deall pam mae’r farchnad hon wedi dod mor gystadleuol, wrth i sefydliadau celfyddydol wneud pob ymdrech i adennill yr arian cyhoeddus a gollwyd. Clywsom hefyd y byddai’n well gan ymddiriedolaethau a sefydliadau ariannu prosiectau penodol, yn hytrach na rhoi arian yn lle cyllid refeniw o’r sector cyhoeddus a gollwyd.

Fodd bynnag, er bod y gystadleuaeth am grantiau yn frwd, clywsom fod llawer o ymddiriedolaethau yn Llundain yn dal i fynegi’r awydd i fuddsoddi mwy yng Nghymru, gan nodi bod nifer ac ansawdd y ceisiadau yn isel o hyd. Mae’r sefydliadau hynny sy’n llwyddo yn dueddol o fod yn fwy, gyda mwy o gapasiti i wneud ceisiadau am gyllid.

Yn hyn o beth, pwysleisiodd Canolfan Celfyddydau Chapter bwysigrwydd yr arian cyhoeddus y mae yn ei gael, gan esbonio bod ymddiriedolaethau yn awyddus i gael sicrwydd o weld cefnogaeth gyhoeddus yno. I gyrff cyllido nad ydynt yn gyrff lleol, y gefnogaeth gyhoeddus hon yw’r arwydd cyntaf bod galw lleol am y prosiect perthnasol ac y dylid ei ariannu. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn amlwg o’r dystiolaeth a gawsom y bydd y capasiti i ymgeisio am gyllid o ffynonellau preifat yn gostwng wrth i gyllid cyhoeddus leihau.

Mae codi refeniw drwy werthu nwyddau a gwasanaethau yn amlwg yn ffordd arall o gynyddu cyllid sefydliad heblaw cyllid cyhoeddus. Esboniodd Celfyddydau a Busnes Cymru, sy’n cael arian cyhoeddus i feithrin cysylltiadau rhwng sefydliadau celfyddydol a busnes, fod cynnydd cyson wedi bod yn nifer y cwmnïau sy’n chwilio am hyfforddiant yn y celfyddydau i fynd i’r afael ag anghenion datblygu staff. Mae cwmni theatr Hijinx yn un o’r sefydliadau sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn. Mae Hijinx bellach yn cyflogi ei actorion, sydd ag anableddau dysgu, i ddarparu hyfforddiant i gwmnïau ynghylch cyfathrebu efo phobl sy’n agored i niwed. Fodd bynnag, mae yna hefyd gwmnïau fel Theatr na nÓg, a esboniodd mai ei gylch gwaith fel elusen yw darparu gwasanaeth nad yw fyth yn debygol o arwain at elw ar fuddsoddiad gan gwmni masnachol.

Yn strategaeth ddiwylliant Llywodraeth Cymru, 'Golau yn y Gwyll', mae wedi cydnabod bod angen i’r sector celfyddydau addasu i ymdopi â llai o arian cyhoeddus. Mae rhaglen wytnwch cyngor y celfyddydau yn un ymgais i wella cynaliadwyedd ariannol y sector diwylliant. Fodd bynnag, dim ond i sefydliadau sy’n cael cyllid refeniw gan y cyngor y mae’r rhaglen hon yn agored. O ganlyniad, rydym ni wedi argymell bod cyngor y celfyddydau yn ystyried ymestyn y rhaglen hon i gynnwys cyrff celfyddydol nad ydynt eisoes wedi’u hariannu gan gyngor y celfyddydau, ac rydym yn falch ei fod yn bwrw ymlaen â gwaith i fynd i’r afael efo’r mater hwn.

Yn ein hadroddiad, rydym wedi nodi nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r anawsterau cyffredinol ac, mewn sawl achos, yr anawsterau penodol iawn sy’n wynebu sefydliadau celfyddydol yng Nghymru wrth geisio cynyddu eu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i barhau â’i chefnogaeth ariannol i ddatblygu partneriaethau rhwng busnesau a’r celfyddydau. Rydym wedi argymell bod y Llywodraeth yn cymryd camau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol, ac i godi ymwybyddiaeth o’r prosiectau a’r sefydliadau celfyddydol ardderchog sydd wedi’u lleoli yma yng Nghymru.

Rydym wedi cynnwys nifer o argymhellion o ran manteisio ar farchnadoedd rhyngwladol. O ystyried y nifer isel o fusnesau mawr ac unigolion gwerth net uchel yng Nghymru, mae’n hanfodol bod y marchnadoedd hyn yn cael eu nodi, a bod sefydliadau’n manteisio arnynt cyn belled ag y bo modd. O ystyried y nifer fach o geisiadau am gyllid sy’n cael eu cyflwyno, a safon isel y ceisiadau hyn ar adegau, rydym hefyd wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu ffynhonnell o arbenigedd i gefnogi sefydliadau celfyddydol bach i wella nifer ac ansawdd eu ceisiadau.

Yn gyffredinol, credwn hefyd fod yn rhaid i’r Llywodraeth, yn ogystal â’r sector, anelu’n uwch os yw’n disgwyl i sefydliadau’r celfyddydau ffynnu gyda llai o arian cyhoeddus. Nid yw galw arnynt i wneud hynny yn ddigon. Mae angen sicrhau bod y lefel briodol a digonol o gefnogaeth wedi’i deilwra yn cyd-fynd â’r alwad, a hynny’n gefnogaeth sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o’r sector.

I gloi, er fy mod yn falch o weld bod y Gweinidog wedi derbyn, o leiaf mewn egwyddor—ac mae hynny'n ddadl eto—ein 10 argymhelliad, rhaid cymryd camau effeithiol a phriodol i gyd-fynd efo’r ymateb hwn. Mewn sawl achos, mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd yn gofyn i swyddogion weithio gyda chyngor y celfyddydau i fwrw ymlaen â’r gwaith o gynyddu cyfraniadau. Mae wedi ymrwymo i lunio cynllun gweithredu, ac i gyngor y celfyddydau a Chelfyddydau a Busnes Cymru drefnu seminarau rhanbarthol ar gyfer ymddiriedolaethau a sefydliadau’r Deyrnas Unedig. Rwy’n falch o weld y camau hyn. Bydd y pwyllgor hefyd yn disgwyl adroddiad ar sut mae’r ymdrechion hyn wedi arwain at newidiadau pendant er gwell.

Bydd y pwyllgor yn dychwelyd i’r pwnc hwn nesaf, a gofynnwn i’r Gweinidog baratoi gwerthusiad o’r camau y mae wedi cytuno i’w cymryd mewn ymateb i bob un o’n hargymhellion erbyn y gwanwyn. Dywedodd y Gweinidog wrthym y bydd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng y celfyddydau a busnes yn cael ei hadolygu. Dywedodd wrthym y bydd yn pwysleisio i gyngor y celfyddydau yr angen iddo barhau i ddyrannu adnoddau i’r gweithgaredd hwn, o gofio bod y pwysau ar gyllid cyhoeddus yn debygol o barhau yn y dyfodol rhagweladwy. Hoffwn wybod pa gynlluniau sydd ar waith i ddisodli’r gwaith hwn o fis Ebrill 2019 ymlaen os yw cyngor y celfyddydau yn penderfynu nad yw Celfyddydau a Busnes Cymru yn cynnig gwerth am arian. Pe na bai ei waith yn parhau ar ôl mis Ebrill, pa strategaeth fydd yn ei lle i ymateb i hyn? A oes perygl y byddwn yn colli ffynhonnell hanfodol o wybodaeth?

Rhywbeth a wnaethpwyd yn glir iawn i ni yn ystod yr ymchwiliad hwn yw bod llu o unigolion talentog ac angerddol yn rhan o’r sector celfyddydau yng Nghymru. Maen nhw’n haeddu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu, ac i ganiatáu i bob un ohonom elwa o’u talentau. Diolch yn fawr.