Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad a diolch i'r clercod am gynorthwyo gyda'r ymchwiliad. Agorwyd yr ymchwiliad i ariannu'r celfyddydau cyn imi ddod yn aelod o'r pwyllgor, felly, yn anffodus, nid oedd modd imi ymwneud â'r tystion, ond hoffwn ddiolch iddynt hwy hefyd am ddarparu tystiolaeth gadarn.
Ar adeg pan fo cymaint o alwadau'n cystadlu am arian cyhoeddus prin, mae rhai'n credu bod arian cyhoeddus i'r celfyddydau yn foethusrwydd na ellir ei fforddio, ond nid wyf yn un ohonynt. Roedd Cadeirydd ein pwyllgor yn nodi'n gywir fod y celfyddydau'n goleuo ac yn cyfoethogi ein bywydau. Maent yn rhan annatod o'n cymdeithas, ac maent yn creu manteision pellgyrhaeddol i bob un ohonom.
Mae'r swm rydym yn ei wario ar y celfyddydau oddeutu 0.17 y cant yn unig o gyllideb Cymru, ac eto, mae'r celfyddydau nid yn unig yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi, maent hefyd yn helpu i roi Cymru ar y map. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae gennym dros 5,300 o fusnesau creadigol yng Nghymru, sy'n cynhyrchu dros £2.1 biliwn mewn trosiant blynyddol, ac yn cyflogi dros 49,000 o bobl. Mae'r celfyddydau'n atyniad pwysig i dwristiaid, ac yn cynrychioli 32 y cant o'r holl ymweliadau â'r DU a 42 y cant o'r holl wariant a ddaw i mewn sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, heb sôn am y ffordd y maent yn cyfoethogi ein lles, sy'n anfesuradwy.
Dros y degawd diwethaf, mae arian cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau wedi'i dorri fwy na 10 y cant, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dangos bod mwy o doriadau i ddod drwy ofyn i'r sector leihau ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus. Fodd bynnag, fel y darganfu'r pwyllgor, byddai gwneud hynny'n anodd iawn i sefydliadau celfyddydol. Yn anffodus, nid oes gennym draddodiad dyngarol cryf yn y wlad hon, gan nad yw rhestr The Sunday Times o'r bobl gyfoethocaf yn llawn dynion a menywod o Gymru a chan na allwn ddibynnu ar haelioni biliwnyddion. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd eraill o ychwanegu at gronfeydd sefydliadau celfyddydol Cymru.
Bu'r pwyllgor yn ystyried amrywiaeth o opsiynau, a nod ei 10 argymhelliad yw sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer ffynonellau cyllid amgen. Mae'n amlwg iawn fod yn rhaid i'r celfyddydau yng Nghymru barhau i dderbyn cyllid cyhoeddus, ac er mwyn lleihau eu dibyniaeth ar yr arian hwnnw, mae arnynt angen peth cymorth gan y Llywodraeth. Rwy'n falch fod y Gweinidog yn derbyn pob un o argymhellion y pwyllgor, mewn egwyddor o leiaf.
O ran argymhelliad 8, rwy'n falch fod y Gweinidog yn cydnabod pa mor anodd yw hi i sefydliadau celfyddydol bach gyflogi swyddogion codi arian arbenigol ac felly i ddenu rhoddwyr. Mae'r Gweinidog yn dweud y bydd yn gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru edrych yn gadarnhaol ar ymestyn eu rhaglen gydnerthedd, ac annog celfyddydau a busnesau i hyrwyddo opsiynau fel y gallai sefydliadau llai rannu gwasanaethau ac arbenigedd swyddog codi arian proffesiynol. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog fynd ymhellach. Ni ddylem fod yn gofyn neu'n annog; mae'n rhaid darparu'r gwasanaethau hyn, felly dylem fod yn cyfarwyddo ac yn mynnu. Mae mynediad at gronfa a rennir o swyddogion codi arian proffesiynol yn hanfodol os ydym am leihau dibyniaeth sefydliadau celfyddydol ar arian cyhoeddus. Diolch yn fawr.