Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Wel, rwy'n mynd i fodloni Andrew R.T. Davies drwy ddweud y byddwn yn cefnogi'r cynnig a'r gwelliannau. A chytunaf â phopeth a ddywedodd Llyr Gruffydd ac Andrew R.T. Davies hefyd.
Rwyf bob amser wedi ystyried bod Brexit yn gyfle i amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae yna her, wrth gwrs—mae unrhyw newid mawr o'r math hwn yn sicr o fod yn her, ond wrth edrych ar y tymor canolig i'r tymor hir, credaf y gall ffermio yng Nghymru elwa'n sylweddol iawn o Brexit, oherwydd mae'n ein galluogi i lunio ein polisi ein hunain wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer Cymru. Ac mae Cymru'n wahanol iawn i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn enwedig Lloegr, yn y sector ffermio, ac rwyf wedi nodi o'r blaen mewn cwestiynau i'r Ysgrifennydd amaethyddiaeth—beth bynnag y caiff ei galw bellach—fod y polisi amaethyddol cyffredin yn golygu mwy i ffermwyr yng Nghymru nag y mae'n ei wneud yn Lloegr, oherwydd gall ffurfio hyd at 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru, tra mai 55 y cant yn unig yw'r cyfartaledd yn Lloegr. Ac mae 85 y cant o'r cymorthdaliadau fferm a delir ar hyn o bryd yng Nghymru o dan golofn 1 yn hytrach na cholofn 2, felly mae hynny'n profi pwysigrwydd mater sefydlogrwydd y cyfeiriodd Llyr Gruffydd ato yn ei araith agoriadol. Gan fod cynllun y taliad sylfaenol mor hynod o bwysig i ffermwyr Cymru, rwy'n credu y bydd symud o ddibyniaeth arno i bolisi arall yn cymryd cryn dipyn o amser i ni. Os oes gennych 85 y cant o'ch arian yn cael ei wario ar hyn o bryd ar ffurf taliad sylfaenol, rwy'n meddwl am rai o'r cynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn golwg—beth y gallent ei gynnwys i gymryd eu lle. Nid oes amheuaeth fod llawer iawn o ansicrwydd yn y sector ffermio wedi'i greu gan gyhoeddiad y Llywodraeth ar ben llanastr Brexit, a grëwyd gan Theresa May. O gofio bod—[Torri ar draws.] Nid oedd gennyf unrhyw ran o gwbl ym mhenderfyniadau Theresa May, yn anffodus, fel arall ni fyddem yn cael cymaint o ddadleuon yn awr o bosibl. Rwyf wedi bod yn berffaith gyson fy marn i ers i mi ymuno â'r Gynghrair Gwrth-Farchnad Gyffredin ym 1967. Felly, mae'n edefyn sydd wedi rhedeg drwy gydol fy mywyd ar ei hyd.
Ond i ddychwelyd at y cynnig, mae hyn yn arbennig o bwysig—sefydlogrwydd i'r rheini sy'n ffermio mewn ardaloedd llai ffafriol, ac mae 80 y cant o ucheldiroedd Cymru yn ardaloedd llai ffafriol, ac mae 84 y cant o'r daliadau hynny'n dibynnu ar wartheg a defaid, ac mae hynny'n hanfodol ar gyfer gwarchod y dirwedd a hybu bioamrywiaeth. Felly, gallaf weld y gall y cynlluniau cadernid a'r cynlluniau nwyddau cyhoeddus gydredeg yn y maes hwn, ond mae'r symiau o arian sydd dan sylw ar gyfer pob ffermwr unigol yn sylweddol ac mae angen dylunio'r cynlluniau'n dda.
Felly, credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond rwy'n bryderus ynglŷn â pha mor gyflym y gweithredir hyn. A siarad yn gyffredinol, mae cynlluniau'r taliad sylfaenol yn bwydo drwodd i werthoedd tir yn hytrach nag i incwm ffermydd. Mae hynny'n wendid mawr ynddynt, felly credaf ei bod yn iawn symud oddi wrth daliadau sylfaenol. Ond lle mae gennych ffermydd yr ucheldir ac eraill sy'n ymylol ac nad oes modd eu gwneud yn fasnachol go iawn heb ryw fath o gymorth cyhoeddus, rwy'n credu bod angen inni gael rhyw gynllun penodol a luniwyd er mwyn diwallu eu hanghenion. Fel arall, rydym mewn perygl o weld nid yn unig busnesau'n rhoi'r gorau i gynhyrchu ond hefyd y canlyniadau amgylcheddol a fyddai'n deillio o hynny, a byddai'r rheini'n drychinebus. Rwy'n credu bod dad-ddofi tir ar y bryniau'n broblem fawr y mae angen inni ei gwrthdroi. Credaf fod unrhyw beth a allai gyfrannu'n anfwriadol at ddad-ddofi mwy o dir ar y bryniau i'w wrthwynebu.
Mae ffermwyr yn gweithio'n galed iawn am ychydig iawn o enillion o ran incwm. Credaf fod incwm cyfartalog ffermydd oddeutu £23,000 y flwyddyn. Felly, mae'r taliad sylfaenol yn elfen gwbl hanfodol i gadw pobl ar y tir i gynhyrchu bwyd a'r holl ganlyniadau eraill sy'n deillio o hynny. Felly, buaswn yn erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet i beidio â symud yn rhy gyflym i gyfeiriad cymorth taliadau sylfaenol a symud at gynlluniau mwy amgylcheddol, er fy mod yn credu ei bod hi'n symud i'r cyfeiriad cywir. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud hefyd, wrth gwrs, yw manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit. Os na cheir cytundeb, neu'n fwy cywir, os byddwn yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, bydd tariffau enfawr ar fasnach rhwng Prydain a'r UE. Ac o ystyried nad ydym ond oddeutu dwy ran o dair o fod yn hunangynhaliol o ran cynhyrchiant bwyd yn y Deyrnas Unedig, mae hwn yn gyfle enfawr i gynhyrchu yn lle mewnforio, ac mae hynny'n newyddion da i ffermwyr Prydain ac i ffermwyr Cymru yn benodol yn fy marn i.