Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Nid oes unrhyw amheuaeth fod y diwydiant amaethyddol a ffermydd teuluol yn wynebu'r her fwyaf mewn o leiaf cenhedlaeth oherwydd Brexit a'r ansicrwydd a ddaw yn ei sgil. Ni chredaf y byddech wedi dod o hyd i lawer o bobl yn y ffair aeaf yn gynharach yr wythnos hon a oedd yn gweld hwn fel y cyfle y byddai rhai o'r Aelodau yn y Siambr hon yn hoffi inni ei weld, er bod yn rhaid parhau'n optimistaidd wrth gwrs.
Efallai ei bod hi'n werth atgoffa ein hunain ynglŷn â phwysigrwydd y sector ffermio yng Nghymru. Mae'n sail i gadwyn gyflenwi bwyd a diod gwerth dros £6 biliwn. Mae'n cyflogi 17 y cant o'r gweithlu cenedlaethol, 220,000 o bobl i gyd, gyda 58,000 yn gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser ar ddaliadau fferm, gan wneud amaethyddiaeth yn rhan bwysicach o lawer o economi Cymru nag yw hi yn economi Lloegr. Ffermwyr sy'n rheoli 80 y cant o'r tir yng Nghymru, gan gynnwys 600,000 hectar o ardaloedd amgylcheddol dynodedig. Mae busnesau fferm yn chwarae rhan hollbwysig yn darparu mynediad cyhoeddus at gefn gwlad yng Nghymru, gyda 16,000 o filltiroedd o lwybrau troed, 3,000 o filltiroedd o lwybrau marchogaeth a 460,000 erw o dir mynediad agored—y cyfan yn cael ei ffermio.
Mae 33 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yn ein cymunedau gwledig, ac yn allweddol, mae bron 30 y cant o'r bobl a gyflogir mewn amaethyddiaeth yn siaradwyr Cymraeg, y gyfran uchaf o bell ffordd mewn unrhyw ddiwydiant yn ein gwlad. Mae amaethyddiaeth yn darparu sylfaen i'r economi mewn cyfran fawr o'r cymunedau lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn iaith gymunedol naturiol. Gallai canlyniadau bod yn anghywir o ran ein cymorth ôl-Brexit i ffermio—os cawn sefyllfa ôl-Brexit yn y pen draw, ac rwy'n byw mewn gobaith—gallai canlyniadau cael y cymorth hwnnw'n anghywir fod yn drychinebus. Wrth gwrs, nid ydym yn gwadu yn y rhan hon o'r Siambr fod manteision i ddefnyddio peth o'r cymorth a delir i fusnesau fferm ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus uniongyrchol penodol, gan gynnwys nwyddau amgylcheddol, lles anifeiliaid, manteision mynediad—buaswn hefyd yn annog y dylai'r manteision hynny gynnwys edrych, wrth gwrs, ar y cymorth i'r Gymraeg fel iaith gymunedol a pha mor bwysig yw amaethyddiaeth yn hynny o beth.
Ceir cyfleoedd i'w darparu a'u croesawu o'r cynllun cadernid economaidd, ond nid ydym yn credu ei bod yn iawn cael gwared ar y rhwyd ddiogelwch i deuluoedd fferm ar yr adeg hon o ansicrwydd mawr. Mae angen rhwydwaith diogel o ffermydd teuluol i ddarparu'r nwyddau cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod am eu gweld, ac y mae pawb ohonom am eu gweld. Mae angen rhwydwaith diogel o ffermydd teuluol i ddarparu sail ar gyfer economi wledig ffyniannus a diogel ledled Cymru, ac mae angen rhwydwaith diogel o ffermydd teuluol i helpu i sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Wrth gwrs, mae'r ymgynghoriad wedi cau bellach a bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn edrych ar y canlyniadau, ac mae hwn yn gyfle i Ysgrifennydd y Cabinet fyfyrio ac o bosibl ailystyried. Gwn y bu hi yn y ffair aeaf ddydd Llun, a bydd wedi clywed, fel y clywodd Llyr Gruffydd a minnau, faint o bryder sy'n cael ei fynegi gan bobl o gymunedau gwledig ledled Cymru—ac mae'r pryder hwnnw, wrth gwrs, wedi'i waethygu gan broblemau yn y tymor byr sy'n ymwneud â'r amodau hinsoddol anodd iawn rydym wedi'u cael, fel y nododd Llyr Gruffydd. Rydym yn annog Ysgrifennydd y Cabinet heddiw i feddwl o ddifrif am y pryder hwnnw, i feddwl am yr hyn y mae'n ei wneud i ffermydd teuluol, i feddwl am y lefel o bryder ac i gytuno, wrth ymateb i'r ymgynghoriad, i gadw elfen o'r taliad sylfaenol mewn unrhyw gynllun cymorth i ffermydd yn y dyfodol.
Nid yw amaethyddiaeth yng Nghymru yn debyg i amaethyddiaeth yn Lloegr. Mae ein ffermydd yn llawer mwy pwysig i'n heconomi ac i'n cymunedau. Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi derbyn hyn, a dyna pam y maent yn cadw elfen o'r taliad sylfaenol yn eu cymorth i'w diwydiannau ffermio wrth gwrs. Ac mae eu diwydiannau ffermio yn llawer tebycach i batrwm diwydiannol ffermio yma yng Nghymru: ffermydd bach teuluol. Nid oes gennym lawer o farwniaid barlys wedi'u gor-sybsideiddio yma yng Nghymru, ac nid oes llawer ganddynt yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ychwaith.
Mae ein diwydiant yn llawer tebycach i ddiwydiant y ddwy wlad honno nag i'r diwydiant yn Lloegr. Rwy'n dal i fethu deall pam nad yw'r cynllun cymorth arfaethedig presennol ar gyfer Cymru yn ddim mwy na chopi o'r cynllun yn Lloegr yn y bôn. Rwyf wedi adnabod Ysgrifennydd y Cabinet ers blynyddoedd lawer, ac ni allaf ddychmygu bod llawer o bethau y mae'n cytuno â Michael Gove yn eu cylch, felly pam ar y ddaear y mae hi'n cytuno â Michael Gove ynglŷn â hyn? Mae angen ychydig o gysondeb yma. Mae'r diwydiannau ffermio yng Nghymru a Lloegr mor wahanol.
Lywydd, nid oes dim o'i le ar newid meddwl yn wyneb y dystiolaeth neu newid meddwl yn wyneb sylwadau ystyrlon a dilys. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrando ar leisiau cymunedau gwledig—nid yw o bwys a yw hi'n gwrando arnom ni, Lywydd, ond mae ei pharodrwydd i wrando arnynt hwy a'r rhai sy'n siarad ar eu rhan yn bwysig—a gall edrych ar yr Alban neu Ogledd Iwerddon os yw hi angen model; hoffem weld model wedi'i wneud yng Nghymru, wrth gwrs. Ac rydym yn ei hannog i roi ychydig mwy o ddiogelwch i'n ffermwyr yn y dyfodol ar ffurf taliadau sylfaenol. Dyma gyfle gwirioneddol iddi wneud y peth iawn.