Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Diolch, Llywydd. Ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais rai cwestiynau i'r Prif Weinidog am y mater o weithio o gartref. Credaf ei fod yn bwnc dilys i ni fod yn siarad amdano yma yn y Cynulliad, oherwydd ceir y broblem sy'n cynyddu'n barhaus o dagfeydd ar ffyrdd, sydd, wrth gwrs, yn rhan o'r hyn yr oedd Adam yn sôn amdano yn gynharach. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd o gael traffig oddi ar y ffyrdd. Nawr, mae gennych chi gyfraniad personol at y mater hwn, arweinydd y tŷ, yn eich swyddogaeth o oruchwylio'r cyflwyniad band eang digidol ledled Cymru, er, wrth gwrs, eich bod chi yma mewn swyddogaeth wahanol heddiw—rwy'n deall hynny. Ond, gan ystyried y pethau hynny, a ydych chi'n obeithiol y gallai eich cyflwyniad band eang digidol arwain at niferoedd llawer mwy o bobl yn gallu gweithio o gartref yn y dyfodol agos?