Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Ydw, yn sicr. Rydym ni wedi cael band eang cyflym iawn i dros 733,000 o safleoedd ledled Cymru—mae hynny'n fand eang dros 24 Mbps i tua 60,000 o'r rheini a dros 30 Mbps i'r mwyafrif llethol. Y cyflymder cyfartalog yn y cyflwyniad hwnnw yw tua 80.5 o ffibr i'r cabinet ac oddeutu tri chant a rhywbeth ar gyfer ffibr i'r safle. Mae gan Gymru y treiddiad mwyaf o eiddo ffibr i'r safle yn unman yng ngorllewin Ewrop erbyn hyn. Mae gennym ni strategaeth dda ar gyfer cyrraedd y safleoedd sy'n weddill, gan gynnwys ein strategaethau cymunedol rhagorol, y mae un ohonynt newydd ennill gwobr pan-Ewropeaidd am yr ymdrech gymunedol a wnaed ganddi, gyda chefnogaeth cynllun talebau cyflym iawn Llywodraeth Cymru. Felly, yr ateb syml i'w gwestiwn yw: ydw, rwy'n falch iawn bod y cyflwyniad o fand eang yn digwydd.
Mae angen ei ategu gydag ychydig yn fwy na'r seilwaith yn unig, fodd bynnag, ac rydym ni'n ei ddilyn gyda rhaglen ymelwa busnes, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran cael BBaChau i fanteisio ar y cysylltedd yr ydym ni wedi ei ddarparu iddyn nhw. Mae adroddiad diweddar gan un o'n prifysgolion adnabyddus yn dangos i BBaChau yn eglur dros ben y gwahaniaeth i'w gwaelodlin os byddant yn manteisio i'r eithaf ar y mynediad newydd hwnnw ac os na fyddant, ac mae gennym ni raglen ymelwa busnes yn benodol i ganiatáu hynny. Rydym ni hefyd wedi bod yn gwthio, drwy'r Comisiwn Gwaith Teg, cyfres o arferion gweithio unfed ganrif ar hugain yn seiliedig ar allbynnau ac nid oriau a weithiwyd, a bydd y rheini i gyd yn cyfrannu at bobl yn gallu gweithio'n amlach o gartref.
Mae amrywiaeth o fesurau eraill y gellir eu rhoi ar waith i helpu pobl i weithio o gartref. Rwy'n credu bod y Llywydd yn mynd i fod yn ddiamynedd â mi os dechreuaf eu hegluro yn y fan yma, gan y byddai'n cymryd rhyw awr i mi wneud hynny.