1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2018.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4? OAQ53033
Gwnaf. Mae ystyriaeth o'r adroddiad ymchwilio yn parhau, i hysbysu penderfyniad ynghylch pa un a ddylid gwneud y Gorchmynion statudol ar gyfer y cynllun. Byddai penderfyniad buddsoddi terfynol yn dilyn ymlaen o unrhyw gam i wneud y Gorchmynion statudol.
Ond nid yw ystyriaeth yn parhau gan y Prif Weinidog. Rydych chi'n cyfeirio at y ffaith ei fod yn dilyn proses statudol lem, ond ble yn y broses statudol honno y mae'n dweud y dylai adroddiad yr arolygydd gael ei godi gan gyfreithwyr a swyddogion yn Llywodraeth Cymru, a chael ei gadw'n ôl oddi wrth y Prif Weinidog am gyfnod, erbyn hyn, o ddau neu dri mis? Onid yw hynny'n awgrymu bod rhywbeth o'i le â'r broses hon? Mae'r statud yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog wneud y penderfyniad, a gwneud hynny ar sail adroddiad yr arolygydd. Pam nad yw wedi gwneud hynny?
Oherwydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud hyd syrffed yn y Siambr hon, rydym ni'n aros am y cyngor cyfreithiol i ategu hynny, i sicrhau ein bod ni'n cyflawni'r broses honno'n gywir. Nid yw amser yn hollbwysig yn y fan yma; cywirdeb sy'n bwysig. Nid wyf i wir yn gwybod sut y gallaf i wneud hyn yn fwy eglur. Rwyf i wedi ailadrodd tan—. Wel, ni allaf gredu nad oes neb sydd heb fy nghlywed i'n ei ddweud. Felly, ceir proses yr ydym ni ynddi. Mae angen y cyngor cyfreithiol arnom ni i fynd gydag adroddiad yr arolygydd. Pan fydd y cyngor cyfreithiol hwnnw yn iawn ac yn gywir er boddhad y cyfreithwyr sy'n ei roi, bydd yn cael ei gyflwyno i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad i wneud y penderfyniad, gan gymryd i ystyriaeth ystyriaethau perthnasol a heb gymryd penderfyniadau amherthnasol i ystyriaeth. Rwyf i wedi dweud hyn—. Wn i ddim, Llywydd, am unrhyw ffordd arall o'i wneud yn fwy eglur.
O ystyried eich bod chi'n teimlo nad oes lle gan y Llywodraeth ar hyn o bryd i wneud unrhyw sylw ynglŷn â'r oedi, a ydych chi'n gallu gwneud sylw ynglŷn ag unrhyw waith mae eich swyddogion chi yn gallu ei wneud y tu ôl i'r llenni, fel petai, tra mae yna oedi, er mwyn edrych ar atebion amgen?
Wel, nid wyf i'n credu bod oedi; rwy'n credu eu bod nhw'n mynd trwy'r broses. Pan fydd y broses wedi ei chwblhau—. Mae'r broses yr hyn yr yw hi. Gall pobl ddefnyddio pob math o iaith emosiynol yn ei chylch, ond yn y pen draw, rydym ni mewn proses led-farnwrol iawn. Mae'n anochel ei bod yn cymryd ei hamser i gyrraedd y diwedd. Nid wyf i'n gwybod beth arall y gallaf i ei ddweud i wneud hynny'n fwy eglur.