1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2018.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio canol tref Pontypridd? OAQ53051
Gwnaf. Ymwelodd y Prif Weinidog â Phontypridd yn ddiweddar gan weld y cynnydd sylweddol sy'n cael ei wneud o ran adfywio'r dref. Mae'r rhain yn gynlluniau canol tref pwysig, sy'n parhau i elwa ar gymorth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru.
Wel, diolch am yr ateb yna. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae adnoddau Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i ganolfan siopa Bro Taf gael ei phrynu, cymorth ar gyfer y cais busnes yng nghanol tref Pontypridd i ganiatáu adfywiad busnesau a rhoi mwy o lais iddyn nhw o ran gweithrediad y dref, y gwaith gyda'r cyllid Ewropeaidd, y pwll nofio, y gwaith i greu parth cerddwyr, y ffordd osgoi, ac yn hollbwysig, rwy'n credu, y penderfyniad i symud Trafnidiaeth Cymru yno—mae'r dref yn adfywio'n gyflym erbyn hyn, a cheir rhagor o gynlluniau ar gyfer yr adfywio hwnnw. Nawr, mae'n ymddangos bod hyn yn rhannol seiliedig ar bartneriaeth wirioneddol Llywodraeth Cymru, y cyngor lleol a chynrychiolwyr lleol yn gweithio gyda'i gilydd ar gyfer adfywio. Gan gadw mewn cof y mater ynghylch adfywio canol ein trefi, pa wersi ydych chi'n ei gredu sydd yno, y gellir eu dysgu o'r ffordd y mae Pontypridd yn adfywio erbyn hyn ac yn dechrau dod yn dref fodern a bywiog iawn gyda phob math o fusnesau a chyfleoedd newydd, ar gyfer trefi eraill yng Nghymru?
Ydy, rwy'n credu ei bod yn enghraifft ardderchog. Cefais y fraint o fod yno pan gyrhaeddodd y tarw dur cyntaf ar y safle, gyda'r Aelod ei hun, a chawsom ni un o'r ffotograffau hyfryd hynny, Llywydd, lle'r ydym ni i gyd yn gwisgo cyfarpar diogelu personol anaddas at ddibenion y llun. Roedd yr Aelod, rwy'n siŵr, yn edrych yn hyfryd ynddo; nid oeddwn i'n edrych yn dda iawn. [Chwerthin.] Bu'n llwyddiant ysgubol ers hynny. Bryd hynny, roedd canol y dref yn hyll, ac roedd yn ganolfan a oedd yn edrych yn wael iawn. Ond nawr, mae'n hollol wahanol. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl gywir.
Ac mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod hyn i raddau helaeth oherwydd ein bod ni wedi cael rhaglen buddsoddiad adfywio wedi'i dargedu, a ddechreuodd yn gynharach eleni—rhaglen buddsoddiad cyfalaf gwerth £100 miliwn yn para am dair blynedd i gynorthwyo prosiectau adfywio a flaenoriaethwyd yn rhanbarthol fel hwn. Nodir Pontypridd fel ardal o flaenoriaeth rhanbarthol, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod lleol ar nifer o brosiectau. Felly, rwy'n credu bod dull cydweithredol yn hanfodol i ddeall y lle, os mynnwch chi, oherwydd yn sicr nid yw'n fater o un ateb i bopeth, a gallwch weld hynny ym Mhontypridd ac ardaloedd eraill sydd wedi bod yn llwyddiannus.
Rwy'n hoff iawn fy hun o fenter AGB—Abertawe a oedd un o'r ardaloedd gwella busnes cyntaf. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran dod â busnesau bach ynghyd yn gyffredinol, a dylid eu hargymell ar gyfer canol trefi lle nad ydyn nhw wedi eu sefydlu eto.
Mae gennym ni gronfa benthyciadau canol trefi gwerth £27.595 miliwn ar hyn o bryd yn cynorthwyo adfywiad canol trefi mewn 17 o wahanol ardaloedd o Gymru. Mae Rhondda Cynon Taf wedi cael £1.8 miliwn o'r gronfa ar gyfer trefi Pontypridd ac Aberdâr. Ac rydym ni hefyd yn cefnogi buddsoddiad mewn llyfrgelloedd cyhoeddus trwy raglen gyfalaf yr is-adran amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd. Derbyniodd Rhondda Cynon Taf grant cronfa drawsnewid, er enghraifft, ar gyfer llyfrgell newydd Bro Taf ym Mhontypridd.
Yr hyn sy'n braf am hwnnw yw ei fod yn ddatblygiad cymysg. Felly, mae gennych chi rai adeiladau swyddfa yno, mae gennych chi rywfaint o adfywio, mae gennych chi deimlad braf o gyffro o gwmpas y ddinas, mae gennych chi rai gwasanaethau cyhoeddus, mae gennych chi deimlad braf o fywyd yn dychwelyd i ganol y dref. Felly, rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le: mae'n brosiect da iawn i ddangos yr hyn a all ddigwydd pan fyddwch chi'n cymryd y cymeriad penodol i ystyriaeth gyda dull sy'n seiliedig ar le.
Arweinydd y tŷ, yng nghyllideb ddiweddar y Canghellor, rhoddodd £900 miliwn ar gael i liniaru ardrethi busnes yn Lloegr. Ym Mhontypridd a chanol trefi eraill ar draws fy rhanbarth etholiadol i, mae ardrethi busnes yn cael eu crybwyll dro ar ôl tro fel rhwystr i adfywio'r strydoedd mawr hynny ac i roi hyder i bobl fuddsoddi ynddynt. Bydd menter £900 miliwn y Canghellor yn gweld busnesau â gwerth ardrethol o hyd at £51,000 yn elwa ar yr arian hwn dros ddwy flynedd. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei gynnal yma o'r symiau canlyniadol a fydd yn deillio o'r cyhoeddiad hwnnw, ac a fydd yn rhoi'r arian hwnnw ar gael i fusnesau yma yng Nghymru i leddfu baich ardrethi busnes sydd yn gymaint o lyffethair i ddatblygiad canol trefi ar hyd a lled Canol De Cymru?
Wel, rydym ni'n cytuno mai ardrethi busnes yw un o'r prif ysgogiadau y gallwch chi eu defnyddio fel Llywodraeth i wneud yn siŵr bod BBaChau yn cymryd eu lle haeddiannol. Mae gennym ni gyfres o gynlluniau a wnaed yng Nghymru ar gyfer hynny, sy'n hael iawn. Ac nid wyf i'n credu bod un ateb yn addas i bawb, felly yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw edrych yng Nghymru, fel y dywedaf, ar ddull sy'n seiliedig ar le, ac mae angen i ni roi'r disgresiwn i awdurdodau lleol sicrhau bod y drefn ardrethol yn eu hardal yn cyd-fynd â'r lle y maen nhw'n ei ystyried. Felly, er enghraifft, bydd yr hyn a allai fod yn iawn yng nghanol Caerdydd neu Abertawe yn sicr ddim yn iawn ym Mro Taf neu ym Mhontypridd, dim ond i ddefnyddio dwy enghraifft. Ac felly, rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n edrych i weld pa ddisgresiwn y gallwn ni ei gael yn y system ardrethi er mwyn creu'r dull seiliedig ar le yr ydym ni'n gwybod sy'n gweithio.