Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Arweinydd y tŷ, a ydych chi'n gallu dweud nawr, os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus, y bydd y buddsoddiad gynigir o £1.7 biliwn erbyn hyn ar gyfer y ffordd liniaru o fudd i Loegr yn bennaf? Gadewch i mi ddyfynnu rhai ystadegau i chi—maen nhw wedi eu cynnwys yn asesiad effaith economaidd ehangach eich Llywodraeth eich hun o goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, a gyhoeddwyd yn 2016. Rhagwelodd y byddai'r ffordd liniaru, erbyn 2037, yn cael yr effaith flynyddol ychwanegol fwyaf ar werth ychwanegol gros yng Nghymru, fel y byddem ni'n ei ddisgwyl, yng Nghasnewydd a Sir Fynwy—£12.3 miliwn. Fodd bynnag, ar gyfer Gwlad yr Haf a de Swydd Gaerloyw, roedd yr effaith yn fwy—£13.5 miliwn. Dim ond £1.3 miliwn ydoedd ar gyfer Caerdydd a'r Fro. Hyd yn oed i Gymoedd Gwent dim ond £1.3 miliwn ydoedd, ac ar gyfer y canol y Cymoedd y swm pitw oedd £0.8 miliwn. Ac eto, ar gyfer Bryste, mae'n £7 miliwn—mwy na phob un o'r rheini gyda'i gilydd. A ydych chi'n falch y bydd y buddsoddiad mwyaf y byddwch chi'n ei wneud byth, ac un y bydd trethdalwyr Cymru yn talu amdano ddegawdau i'r dyfodol, yn ôl cyfaddefiad eich Llywodraeth eich hun, yn fwy o fudd i Loegr nag i Gymru?