Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 1:44, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais, nid dyma'r adeg y dylai'r Cynulliad gyhoeddi unrhyw un o'i safbwyntiau ar y rhain nac unrhyw faterion eraill. Ceir proses y mae angen mynd drwyddi. Mae proses statudol lem iawn ar gyfer yr hyn y ceir ei gymryd i ystyriaeth wrth wneud y Gorchmynion. Rwyf i wedi ei amlinellu, rwy'n credu, hyd syrffed, mae'n deg i ddweud, Llywydd. Gallaf ei wneud eto, os ydych chi'n dymuno i mi wneud hynny. Nid dyma'r amser i drafod y materion y mae'r Aelod yn eu codi. Nid wyf i'n gwybod sut y gallaf i wneud hynny'n fwy eglur.