Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Gydag un Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig a thri Bwrdd Iechyd, gan gynnwys Abertawe Bro Morgannwg yn fy rhanbarth i, mewn ymyrraeth wedi'i dargedu, nid yw'r darlun yn fêl i gyd, fodd bynnag. Er gwaethaf siarad am symud gofal i'r gymuned a gofal iechyd darbodus dros y 10 mlynedd diwethaf, onid ydych chi'n cytuno nad yw cynllunio gweithlu eich Llywodraeth dros y 10 mlynedd diwethaf wedi cyrraedd y safon?