Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Wel, rwy'n credu bod gallu'r Ceidwadwyr i ysgaru eu cefnogaeth i ddewis gwleidyddol wedi'i ysgogi gan gyni cyllidol ar lefel y DU oddi wrth yr effaith ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn gwbl ryfeddol. Llywydd, o ran ein hanes ar y GIG, rydym ni'n parhau i weld lefelau uchel iawn o foddhad gyda GIG Cymru yn cael eu hadrodd. Dangosodd ein harolwg hanfodion gofal diwethaf, er enghraifft, bod 99 y cant o gleifion yn teimlo eu bod yn cael eu trin gydag urddas a pharch, ac roedd 96 y cant yn fodlon â'r gofal cyffredinol yr oeddent yn ei gael. Roedd gan naw deg tri y cant o gleifion farn gadarnhaol ar eu gofal cyffredinol yn arolwg profiad cleifion canser 2016, er enghraifft.
Un o'r canlyniadau mwyaf tyngedfennol o gael diagnosis o ganser yw goroesi, ac rwyf i'n un o'r bobl sydd wedi goroesi. Rwyf i newydd gael fy llythyr yn dweud fy mod i'n rhydd o ganser ers pum mlynedd. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r meddygon a'r nyrsys a weithiodd gyda mi, ac roedd dau ohonynt na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n hynod ddiolchgar eu bod wedi dewis dod i fyw a gweithio yng Nghymru. Rwy'n ddyledus iddyn nhw am fy ngoroesiad parhaus. Rwy'n falch o nodi'r gwelliannau parhaus i oroesiad un a phum mlynedd i'r holl gleifion canser yng Nghymru. Rydym ni'n falch iawn o hynny, a hynny'n gwbl briodol.
Rydym ni'n arwain y ffordd yn rhyngwladol gyda model ymateb clinigol ambiwlansys Cymru. Mae gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Awstralia a Canada wedi efelychu'r dull model ymateb clinigol a arloeswyd yma yng Nghymru erbyn hyn. Mae mwy o bobl yn dechrau'r driniaeth sydd ei hangen arnynt yn unol â'r amser targed. Mae dros 86 y cant o gleifion wedi bod yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth ym mis Medi 2018—3.2 pwynt canran yn uwch nag ym mis Medi 2017, er enghraifft. Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros am dros 36 wythnos ar lwybr atgyfeirio i driniaeth 31 y cant yn is ym mis Medi 2018, o'i gymharu â mis Medi 2017, a 52 y cant yn is na'r lefel uchaf ym mis Awst 2015. Ar sail ei mesurau ei hun, mae Lloegr yn adrodd ei hamser aros gwaethaf erioed—roedd perfformiad o 18 wythnos yn Lloegr ym mis Medi 2018 y gwaethaf erioed.
Dros y tair blynedd diwethaf, rydym ni wedi buddsoddi £130 miliwn yn ychwanegol, rydym ni wedi lleihau amseroedd aros yn sylweddol ar draws y wlad, rydym ni'n parhau i ostwng ein ffigurau oedi wrth drosglwyddo gofal—maen nhw'n is na'r lefelau hanesyddol a welwyd erioed yng Nghymru—rydym ni wedi blaenoriaethu gwariant ar iechyd i sicrhau bod gan y GIG yng Nghymru a'r system ofal ehangach yr adnoddau angenrheidiol, gan gynllunio ar gyfer dyfodol hirdymor a chynaliadwy. Mae buddsoddiad yn y GIG yng Nghymru yn uwch nag erioed. Rydym ni'n gwario mwy fesul pen ar iechyd nag yn Lloegr, gyda mwy o staff nag erioed o'r blaen yn darparu gofal iechyd o ansawdd uchel ar draws bob rhan o'r GIG. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, aeth mwy nag 1 filiwn o gleifion i adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru. Er gwaethaf pwysau ym mis Hydref, roedd wyth o bob 10 claf wedi cael eu hasesu, eu trin a'u rhyddhau o adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn pedair awr. Dwy awr a 18 munud oedd yr amser aros nodweddiadol o gyrraedd i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ym mis Hydref.
Llywydd, rwy'n credu bod gennym ni bob hawl i fod yn falch iawn o hanes ein Prif Weinidog ac o'n hanes fel Llywodraeth Lafur Cymru yma yn y naw mlynedd diwethaf, ac edrychaf ymlaen at Lywodraeth y dyfodol gyda phleser mawr.