2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:30, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae gan y Prif Weinidog y dasg erchyll o gymodi llawer o wahaniaeth barn a blaenoriaethau, ac ar yr un pryd ceisio anrhydeddu canlyniad y refferendwm, cyflwyno cytundeb masnach rydd cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol newydd, diogelu swyddi a diogelwch pobl, a chynnal uniondeb ein Teyrnas Unedig. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd dros fasnach ryngwladol yr haf hwn, roedd yn rhaid cyfaddawdu, ond roedd Brexit wedi'i gefnogi gan 17.4 miliwn, a chafodd deddfwriaeth i weithredu'r penderfyniad hwnnw ei chymeradwyo gan Aelodau Seneddol. Mae'n destun gofid bod rhai ar ddwy ochr y ddadl nawr yn hybu sefyllfaoedd sefyllfa waethaf yn unig, yn hytrach na myfyrio ynghylch potensial y cytundeb ymadael i gyflawni canlyniad y refferendwm ac unwaith eto ein galluogi ni i reoli ein ffiniau, ein cyfreithiau, ein harian a masnach ddwyochrog, gan gyflawni hefyd berthynas gyda'r UE a fydd yn fuddiol i'r naill ochr a'r llall yn y dyfodol.

Bron i ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth y rhai o blaid ac yn erbyn Brexit ar Bwyllgor Deddfwriaeth Ychwanegol a Materion Allanol y Cynulliad uno i alw am gyfnod pontio ar ôl Brexit ar ôl casglu tystiolaeth fanwl. Gan ddyfynnu Mr Drakeford ei hun, roedd ein hadroddiad ym mis Ionawr 2017 yn datgan na ddylid bod ochr dibyn yn rhan o aelodaeth y DU o'r UE. Mae cymhlethdod negodiadau Erthygl 50 yn golygu y byddant yn anochel yn canolbwyntio ar sut y bydd y DU yn rhyddhau ei hun o'r trefniadau presennol. Bydd yn rhaid datblygu cysylltiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd yn y dyfodol a'u cytuno dros gyfnod llawer hwy. Trefniadau pontio sydd yn parhau mor agos â phosibl at y sefyllfa bresennol fydd yn darparu'r platfform mwyaf sefydlog ar gyfer negodi yn y dyfodol yn union fel y mae'r cytundeb hwn yn ei wneud.

Roedd ein hadroddiad ym mis Awst 2017 yn cynnwys; dywedodd y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y ffyrdd wrthym ni efallai y byddai trefniadau pontio yn angenrheidiol er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi ar gyfer y DU a'r UE; tynnodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau gymhariaeth â'r dull fesul cam i gysoni tariffau pan ymunodd y DU â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, ac roedd yn dadlau efallai y byddai angen cytuno ar broses fesul cam tebyg ar gyfer Brexit. Yn yr un modd, rhybuddiodd y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y ffyrdd y gallai diffyg trefniadau pontio, neu ganlyniad sy'n arwain at ddim cytundeb, gael canlyniadau negyddol difrifol i borthladdoedd Cymru. Felly, mae negodiadau wedi dilyn proses fesul cam a oedd yn hysbys ac wedi ei deall ac wedi ei chytuno o'r cychwyn cyntaf, ond mae rhai yn dewis camddarlunio hyn fel gwastraffu amser.

Mae'n rhaid i negodiadau yn y dyfodol ddilyn y cloc gwleidyddol, gydag etholiadau'r UE yn 2019. A hyd yn oed pan fydd perthynas fanwl y dyfodol wedi ei chymeradwyo, bydd angen amser i sefydlu trefniadau tollau a masnach newydd. Fis Rhagfyr diwethaf, cytunodd y Cyngor Ewropeaidd bod cynnydd digonol wedi'i gyflawni yn ystod cam 1 negodiadau Brexit. Ar sail hynny, mabwysiadwyd y canllawiau drafft i symud i ail gam y negodiadau, pan ddechreuodd y ddau barti drafodaethau ar gyfnod pontio a'r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol. Cytunodd y DU a'r UE ar y cyfnod pontio a fydd yn arwain at y DU yn ymadael yn drefnus ym mis Mawrth. Ym mis Mai, derbyniodd Gweinidogion y DU pan y cytunir ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol, yna fe fyddai'n rhaid cael cyfnod estynedig o aelodaeth o'r undeb tollau ar gyfer y DU gyfan tra bo technoleg yn cael ei datblygu i fonitro'r ffin rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon heb osod adeiledd mwy parhaol.

Mae rhai felly yn dewis defnyddio'r hyn a gytunwyd ac a dderbyniwyd saith ac wyth mis yn ôl fel esgus dros wrthwynebu'r cytundeb ymadael nawr. Mae'r testun cyfreithiol yn glir: bod y ddau barti eisiau osgoi defnyddio'r ôl-stop ac na all Erthygl 50 sefydlu perthynas barhaol. Ac mae'r UE ei hun wedi ei gwneud hi'n glir iawn nad yw eisiau i'r DU ar ôl Brexit aros yn yr undeb tollau estynedig a bod yn aelod o'r farchnad sengl. Fodd bynnag, fe welwn nawr anhrefn gwrthun ymhlith ASau Llafur yn y gogledd wrth iddyn nhw ddatgan y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y cytundeb ymadael oherwydd y byddai'r DU yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau'r UE  am gyfnod y tu hwnt i'n haelodaeth, pan, o'r cychwyn, galwodd Papur Gwyn Brexit Llafur Cymru ar y cyd â Phlaid Cymru i'r DU barhau'n atebol i'r rheolau hyn am byth. Felly, hyd yn oed yng Nghymru, mae'n ymddangos na all y Blaid Lafur ganu o'r un llyfr emynau.

Pleidleisiodd Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd, nid y Deyrnas Unedig, ond eto mae Plaid Cymru yn ceisio cadw Cymru yn yr UE, a'i llusgo allan o'r DU, er gwaethaf y ffaith mai'r DU yw marchnad sengl fwyaf Cymru o bell ffordd. Mae Plaid Cymru'n cwyno nad yw Cymru yn cael ei chrybwyll yn y cytundeb ymadael, ond nid yw'r Alban ychwaith, na Lloegr ac eithrio Banc Lloegr. Yr unig refferenda yn yr UE i'w cynnal am yr ail dro yw'r refferenda cytuniad yn Nenmarc ac Iwerddon, a aeth yn erbyn yr UE. Fe niweidwyd hyder y cyhoedd, difethwyd enw da'r UE. Nid ydym ni eisiau gweld y math hwnnw o weithgarwch yn cael ei ailadrodd yma. Mae'r arian a roddir i'r UE gan y DU ddwywaith yr arian y mae'n ei gael yn ôl. Bydd hyn yn cael ei gadw yn y DU yn y dyfodol, ac rydym ni i gyd yn cydnabod y dylai Cymru gael yr un cwantwm o gyllid ag y mae'n ei gael nawr.

Fel y dywedodd Paul Davies, pan gyfarfu â Llywydd NFU Cymru â'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn ffair aeaf y Sioe Frenhinol:

Yn ystod y cyfarfod cadarnhaol hwn, cymeradwyais y ffaith bod y cytundeb y mae hi wedi cytuno arno mor agos â phosibl at yr amodau masnach rydd a llyfn ar gyfer amaeth a chynnyrch bwyd y buom ni'n lobïo yn eu cylch dros y ddwy flynedd diwethaf.

A  gall y DU hefyd negodi cytundebau masnach â thrydydd gwledydd, yn barod i'w gweithredu ar ôl y cyfnod pontio. Yn uwchgynhadledd y G20 yr wythnos diwethaf, trafododd y Prif Weinidog â nifer o wledydd—gyda Japan yn edrych ymlaen at drafod aelodaeth posibl y DU o'r cytundeb cynhwysfawr a blaengar ar gyfer partneriaeth traws-Gefnfor Tawel. Dim chwaraewyr bach yn y fan honno.

Felly, yn hytrach na gwrthod y cytundeb hwn, a chreu ansicrwydd a pheryglu swyddi a buddsoddiad, gadewch inni fod yn ddigon mawr i gamu tuag at Gymru sy'n edrych allan, yn y DU fyd-eang, drwy gydnabod y dadleuon a gyflwynwyd gan Paul Davies, a chydnabod bod hyn yn gyfaddawd i bob un ohonom. Roeddwn i o blaid gadael, roeddd David o blaid aros, ond rydym ni'n cydnabod, heb gyfaddawdu, y bydd y Deyrnas Unedig gyfan—yn enwedig Cymru—yn cael ei niweidio'n enbyd. Diolch.