Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Cyfarfûm â Jeremy Corbyn am y tro cyntaf yn y lobi 'na'; roeddem ymysg yr 13 AS a oedd yn pleidleisio yn erbyn sefydlu'r Gwasanaeth Gweithredu Allanol Ewropeaidd, a chyfarfûm ag ef ar sawl achlysur wedi hynny ar amryw o faterion yr UE lle'r oeddem o'r un farn. Gobeithio ei fod yn dal i fod o'r un farn, oherwydd yn fy marn i, pan bleidleisir yn erbyn y cytundeb ymadael hwn yn Nhŷ'r Cyffredin, nid wyf yn derbyn mai'r dewis arall yw dim cytundeb. Bydd, fe fydd rheolau masnachu Sefydliad Masnach y Byd, ond ni fyddwn yn rhoi pwyslais gormodol ar hynny; rwy'n derbyn nad ydyn nhw'n caniatáu masnach ddidrafferth yn llawn, a bod rhai problemau a materion yn ymwneud â nhw, ond nid yw ffin galed yng Ngogledd Iwerddon yn un ohonyn nhw. Ond yr hyn a gawn fydd cyfres o gytundebau sectoraidd i liniaru materion penodol sy'n codi ac i wneud ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd yn ddidrafferth er budd y ddwy ochr. Efallai na fyddan nhw'n cael eu galw'n gytundebau ymadael, nid yw'n glir a allan nhw basio'r bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin, ond bydd yna gytundebau o ryw fath, a byddwn, rwy'n hyderus, wedyn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Nawr, mewn rhai meysydd o'r cytundeb ymadael hwn—dydw i ddim eisiau defnyddio dull gwahanol i'r ddadl gymharol gydsyniol yr ydym wedi ei chael, o leiaf ar y meinciau hyn hyd yma, ac mae gennyf barch mawr at y safbwynt a fynegwyd gan David Melding, a siaradodd yn angerddol o blaid yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae'n deall, pan gewch refferendwm a phan fyddwch yn addo gweithredu'r canlyniad, pan bleidleisiodd y rhan fwyaf o ASau, gan gynnwys y rhan fwyaf o ASau Llafur, i sbarduno erthygl 50, ac nad oedd y cynnig hwnnw na'r refferendwm ei hun yn dweud, 'yn amodol ar fodolaeth cytundeb penodol y byddwn yn ei hoffi yn ddiweddarach gyda'r Undeb Ewropeaidd', yna yr hyn y mae'n rhaid ichi ei wneud yw gweithredu'r canlyniad hwnnw. Mae'n iawn dweud, 'Mae gennych etholiad arall', ond, cyn cynnal etholiad arall, mae pobl sy'n cael eu hethol yn yr etholiad hwnnw yn mynd i'r ddeddfwrfa ac yn deddfu am dymor; felly mae canlyniad yr etholiad yn cael ei barchu. Canlyniad y refferendwm hwn oedd gadael, ac mae angen inni adael. Byddai'n well gennyf pe byddem yn gadael gyda chytundeb; byddai'n well gennyf pe byddai hynny gyda chytundeb gwell na'r un hwn. Ond, mewn rhai meysydd, mae'r cytundeb o ran rhyddid i symud—mae'n darparu ar gyfer rhoi terfyn ar y rhyddid i symud—a hefyd, ar ôl y cyfnod pontio, a allai, yn anffodus, gael ei ymestyn, byddai'n darparu wedyn ar gyfer llai o arian, o leiaf, ac nid symiau mawr o arian mae'n debyg, yn parhau i fynd at yr Undeb Ewropeaidd. Felly, yn yr ystyr honno, mae rhai pethau cadarnhaol. Ond, i mi, mae'r pethau negyddol yn trechu, sef yn bennaf, na fedrwn ni ei adael. O leiaf gyda'r Undeb Ewropeaidd, ceir erthygl 50. Gyda hyn, ni allwn ei adael heb gytundeb rhyw gorff arall, ac nid wyf yn credu, fel Teyrnas Unedig sofran, y dylem ni fod yn rhoi ein hunain yn y sefyllfa honno.
A hefyd o ran masnach. Nawr, roedd rhywfaint o ddadlau yn y refferendwm ynghylch a ddylem adael y farchnad sengl, a chredaf fod yr ymgyrchwyr 'gadael' yn glir y dylem, ac yn enwedig Michael Gove. Ni chafwyd yr un ddadl am yr undeb tollau, oherwydd cymerwyd yn ganiataol y byddem yn gadael yr undeb tollau—yr undeb tollau oedd prosiect sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r dadleuon o blaid yr undeb tollau yn wannach o lawer na'r dadleuon ynghylch y farchnad sengl. Rydym yn talu llawer mwy mewn tollau tramor na gwledydd eraill yr UE oherwydd ein bod yn mewnforio mwy o'r tu allan, ac, yn fras, mae'r tollau tramor hyn yn niweidio pobl dlawd, mewn gwledydd eraill na allant werthu i ni ychwaith, ac yma oherwydd bod y bobl dlawd, fel cyfran, yn gwario mwy o'u hincwm ar y nwyddau y codir y tariffau arnynt. Os ydym yn aros mewn undeb tollau, fel y cynigir yn y cytundeb ymadael hwn, ac yn sicr gyda'r ôl-stop, yna bydd yr Undeb Ewropeaidd yn penderfynu ar ein polisi masnach heb inni gael unrhyw lais ynddo. Byddant yn gallu defnyddio ein marchnad yn y DU a mynd at drydedd wlad a dweud, 'Hei, rhowch ostyngiad inni ar eich tariffau ar gyfer allforwyr yr UE, ac, os gwnewch chi, fel bonws, fe rown ni fynediad i chi i farchnad y DU ar delerau gwell.' Eto, yn gyfnewid, ni fydd yn rhaid i'r marchnadoedd hynny agor eu gwledydd i allforwyr yn y DU. Nid yw'r annhegwch hwnnw yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae'n beth hynod anneniadol i'w wneud, ac rwyf mewn penbleth ei bod yn ymddangos nad yw Aelodau Llafur yn Nhŷ'r Cyffredin, nac o bosibl yn y fan hon, yn deall hynny.
Y farchnad sengl yn erbyn yr undeb tollau—efallai y bydd gan bobl yn y fan hon farn wahanol, ond yn San Steffan, efallai nad ydyn nhw'n hoffi'r syniad ei bod yn farchnad, ac y byddai'n well ganddyn nhw pe byddai'n undeb. Ond, mewn gwirionedd, os feddyliwch chi am y peth, o egwyddorion cyntaf, mae'r syniad o fod mewn undeb tollau, lle nad oes gennych chi unrhyw bŵer ac y gellir ei ddefnyddio gan eraill yn eu negodi masnach, yn un hynod anneniadol. Dyna beth a gynigir inni yn yr ôl-stop ac ni allwn ei adael heb gytundeb rhywun arall. Felly, am y rhesymau hynny, rwy'n gwrthwynebu'r cytundeb ymadael hwn, ond croesawaf dôn y ddadl a gawsom ar y meinciau Ceidwadol. Ac am resymau nad wyf yn eu llwyr ddeall, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn hynod o bwysig inni anfon neges ein bod yn erbyn y cytundeb ymadael heb, yn wir, roi'r cyfle inni yn y cynnig i wneud hynny. Edrychaf ymlaen at wrthwynebu eu cynnig, yn ogystal â'r gwelliannau.