2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:47, 4 Rhagfyr 2018

Mae'n bleser gen i siarad heddiw ar welliannau Plaid Cymru ac o blaid gwelliannau Plaid Cymru, wrth gwrs, a hynny ar ran etholaeth Arfon, un o'r etholaethau a oedd mwyaf cadarn ei chefnogaeth dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda dros 60 y cant wedi pleidleisio i aros. Yn ôl arolwg barn diweddar, mi fyddai 71 y cant o bobl Arfon, erbyn hyn, yn bwrw pleidlais dros aros petai pleidlais arall—a'r unig ffordd allan o'r llanast yma ydy pleidlais arall, pleidlais y bobl. Nid oes yna ddim pwrpas cael etholiad cyffredinol. Ni fyddai Jeremy Corbyn yn ymgyrchu dros aros yn y farchnad sengl. Felly, mwy o lanast, mwy o ansicrwydd fyddai'n dilyn petai o'n ennill. Felly, da chi—chi ar feinciau Llafur sy'n gwybod hynny yn eich calonnau—cefnogwch gwelliant 3 Plaid Cymru. Dyna pam yr ydym ni wedi ei gyflwyno fo yma heddiw yma.

Mae pobl Arfon wedi dod i'r casgliad mai aros yn y farchnad sengl a'r undeb dollau yw'r ateb gorau o bell ffordd i bawb sydd yn byw yno. Felly, ar eu rhan nhw y prynhawn yma, rydw i yn datgan fy mod yn gwrthod cytundeb ymadael Theresa May. Mae'r ddadl economaidd yn glir. Mae sedd Arfon yn rhan o ranbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae cynnych domestig gros yn isel, ac o'r herwydd mae'n derbyn arian o'r Undeb Ewropeaidd—yn debyg i dde Sbaen, Portiwgal a chyn-wledydd comiwnyddol Ewrop. Mae Arfon hefyd yn derbyn arian INTERREG er mwyn hyrwyddo cysylltiadau efo Gweriniaeth Iwerddon, ac mae yna gryn bryder yn lleol am y diffyg manylder syfrdanol ynglŷn â beth a ddaw yn lle'r ffynonellau ariannol yna i'r dyfodol.

Mae Prifysgol Bangor ac Ysbyty Gwynedd yn etholaeth Arfon, ac mae gan y ddau sefydliad nifer sylweddol o staff sydd o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd, a myfyrwyr hefyd ym Mangor, wrth gwrs, yn y brifysgol. Un o gyflogwyr sector preifat mwyaf Arfon yw cwmni Almaeneg sy'n gweithio ym maes technoleg feddygol. Mae Arfon yn ganolfan cynhyrchu rhaglenni teledu sy'n cydweithio â darlledwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd. Ac Arfon yw un o'r ardaloedd lle mae'r iaith Gymraeg gryfaf, gydag 85 y cant o bobl ifanc wedi cael budd o ddarpariaeth addysgol ddwyieithog. Mae siarad dwy, tair, pedair iaith yn normal yn yr Undeb Ewropeaidd, ar lefel swyddogol, cymdeithasol a diwylliannol, sy'n rhoi hyder inni y bydd y Gymraeg yn goroesi o fewn y cyd-destun Ewropeaidd. Y tu allan i'r undeb honno, mae'r dyfodol yn llai gobeithiol. Dyna, yn rhannol, sy'n esbonio'r gefnogaeth sylweddol sydd yn Arfon dros aros. Mae cynnal hawliau pobl, a chynnal deddfwriaeth cydraddoldeb, yn allweddol i hynny hefyd. 

Dyma droi at ail rhan fy sylwadau y prynhawn yma. Mae'n fraint i mi gael cydweithio ag Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, sy'n rhan o dîm gweithgar a hynod effeithiol Plaid Cymru yn Llundain. Mae Cymru'n lwcus o'r pedwar sy'n brwydro dros ein gwlad yng nghoridorau grym Llundain. Mae Hywel wedi cymryd rhan lawn yn y drafodaeth ar Brexit, wedi cyflwyno nifer o welliannau i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd, ac wedi cyfrannu'n eiddgar fel aelod o'r pwyllgor dethol ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae o, a Phlaid Cymru, wedi bod yn gyfan gwbl gyson yn erbyn tynnu allan cyn y refferendwm ac o blaid aros yn y farchnad sengl a'r undeb dollau, a dyna pam yr aeth Hywel, gydag eraill, i gymryd rhan mewn achos yn y Llys Ewropeaidd yn ddiweddar.

Heddiw, fe ddaeth cadarnhad dros yr hyn y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei ddadlau: mae uwch-gynghorydd y Llys Ewropeaidd dros Gyfiawnder wedi dweud heddiw ei fod o'r farn y gall y Deyrnas Unedig ddiddymu erthygl 50 ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd heb yr angen am ganiatâd gweddill gwledydd yr undeb, ac mae hyn yn groes i'r hyn y mae Mrs May wedi bod yn ei ddweud. Mae hyn, yn fy marn i, yn newid y gêm yn sylweddol, ac yn galluogi'r Llywodraeth—nid Senedd San Steffan—i ddiddymu'r broses os ydyn nhw am osgoi Brexit heb ddêl, neu os bydd pleidlais y bobl yn dangos bod y farn gyhoeddus wedi newid ers 2016. Mae disgwyl cadarnhad o hyn yn y Llys Ewropeaidd cyn y Nadolig, a coeliwch chi fi, fe all hyn fod o arwyddocâd sylweddol i fy etholwyr i yn Arfon, i bobl Cymru, ac i ddyfodol y genedl. Felly, heddiw, rydw i yn gofyn i chi ymuno â ni yn y meinciau hyn i anfon neges hollol eglur o'r Senedd genedlaethol yma. Felly, rydw i'n gofyn i chi gefnogi gwelliannau Plaid Cymru.