2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 4:35, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch ichi, Llywydd, ac ar ôl yr araith honno, rwy'n mynd i newid fy mhleidlais. [Chwerthin.]

Beth bynnag, a gaf i fod yn glir o'r cychwyn? Mae'r cytundeb presennol hwn—mae'n siomedig iawn, nid yw'n ddigon da. Mae'n aneglur, mae'n peryglu ein diogelwch a'n sicrwydd ni, ac mae'n rhoi ein heconomi mewn perygl. Nawr, treuliais lawer o flynyddoedd yn negodwr, ac yn yr amser hwnnw, rwyf wedi gweld llawer o 'gynigion terfynol' fel y'i gelwir nhw, ond roeddwn i bob amser yn canfod pan fo Aelodau'n dweud nad yw'r cytundeb terfynol yn ddigon da, rydych chi'n mynd yn ôl ac yn trafod ychydig mwy, ac yn y pen draw rydym ni'n cael cytundeb terfynol, onid ydym ni? Felly, dyna rydych chi'n ei wneud. Nawr, rwy'n gwybod hefyd y bydd pobl yn dweud, 'Wel, mae amser yn brin', ac 'O le gawn ni'r amser hwn i fynd yn ôl i drafod eto?', oherwydd dydw i ddim ychwaith yn credu bod 'dim cytundeb' yn unrhyw fath o ddewis realistig, ac mae'r cloc yn tician. Felly, o ble daw'r amser? Wel, yn y Siambr hon, rai misoedd yn ôl, gofynais a oedd hi'n bryd oedi'r cloc. Roeddwn i'n grediniol bod hynny'n angenrheidiol bryd hynny. Ac rwyf hyd yn oed yn fwy crediniol o hynny'n awr. Ac mae'r cyngor cyfreithiol—y credaf i Siân Gwenllian ei grybwyll yn gynharach—yr ymddengys fod gan Lywodraeth y DU bellach, yn dangos nad oes dim i rwystro gofyn am hyn. Felly, dylem ni wneud hynny, a dylem ni ganiatáu mwy o amser i'r trafodaethau hynny barhau oherwydd mae Brexit yn faes newydd i bawb, gan gynnwys 27 gwlad yr UE, ac mae'r materion sydd yn y fantol yn rhy fawr i'w rhuthro. Felly, cyn inni gychwyn ar y daith, gadewch i ni o leiaf geisio cytuno ar y map sy'n mynd i'n harwain i'r gyrchfan newydd hon.

Nawr, Llywydd, rwyf wedi credu erioed fod ein sefyllfa yn yr UE yn rhywbeth i fod yn falch ohono—ein gallu i lywio a dylanwadu ar y farchnad a pholisïau cyfandir mawr Ewrop. Roedd gennym ni statws ac roedd gennym ni barch. Rydym ni bellach yn cael ein diraddio i statws sylwebydd ac arsylwr. Nawr, rwyf wastad wedi bod—fel y dywedodd pobl eraill—yn falch o fod yn Ewropeaidd. Rwyf eisiau aros yn yr UE. Rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi ymgyrchu'n frwd i ni aros yn yr Undeb Ewropeaidd oherwydd, fel sosialydd, i mi, roedd bod yn rhan o'r UE yn bodloni fy nyheadau o gyfunoliaeth egnïol, rhannu adnoddau, gweithio gyda'n gilydd, osgoi ynysiaeth, a hefyd dyna pam yr wyf yn ymrwymedig i Deyrnas Unedig, oherwydd rwy'n credu ein bod ni bob amser yn gryfach gyda'n gilydd.

Ond wedi clywed cyfraniad Neil Hamilton yn gynharach a'r achwyn am ein sefyllfa a bod y cytundeb gwael sydd gennym ni o'n blaenau yn waeth nag aros, ni allaf ond myfyrio ar yr hyn a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon, ac rwy'n mynd i ailadrodd rhai o'r pethau a dywedodd Joyce Watson. Yr hyn a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon oedd y rhaniadau gwleidyddol ledled Ewrop sydd wedi bod yn wendid i'r Blaid Geidwadol am fwy na 40 mlynedd. Gwnaeth y rhaniad mewnol hwnnw arwain David Cameron i roi buddiannau'r Blaid Dorïaidd uwchlaw buddiannau ehangach y genedl hon. Gorfodwyd ef i addo refferendwm nad oedd ei angen arnom ni, i dawelu'r Ewroamheuwyr digyfaddawd yn y Blaid Dorïaidd. Hunan-les y Torïaid a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon yr ydym ynddi yn awr. [Torri ar draws. Na. Mae'n rhaid iddo fyw gyda hynny am weddill ei oes, ac fel y dywedodd Dai Lloyd yn hollol gywir, bydd David Cameron, o ganlyniad i hyn, heb amheuaeth, yn cael ei gofnodi mewn hanes fel Prif Weinidog gwaethaf ein hoes: y dyn a roddodd fuddiannau gwleidyddol ei blaid ei hun cyn buddiannau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol y genedl gyfan. Cywilydd arno, a chywilydd ar y Blaid Geidwadol am ganiatáu i hynny ddigwydd.

Ond er gwaethaf fy holl amheuon, dicter a thristwch o ran yr hyn sydd wedi ein harwain i'r sefyllfa hon, rwyf wedi ceisio parchu canlyniad y refferendwm hwn, ac er fy mod i'n cofio Nigel Farage yn dweud pe byddai'r bleidlais wedi bod 52 i 48 i'r gwrthwyneb, nid dyna fyddai diwedd pethau. Wel, rwy'n dweud wrthych chi, gymrodyr: nid dyma ddiwedd pethau. Roeddwn i wedi gobeithio y tu hwnt i bob gobaith y byddai'r DU wedi gallu negodi cytundeb sy'n helpu i osgoi'r trychineb yr wyf i o'r farn ar hyn o bryd, heb unrhyw amheuaeth, sy'n dod i'n cyfeiriad. Ond nid yw'r cytundeb ymadael hwn yn gytundeb o'r fath. Rydym ni wedi clywed hyn o'r blaen, rwy'n gwybod, ond mae'n werth ei ailadrodd—mae cwmnïau yn fy etholaeth i sy'n rhannu fy ofnau. Cwmnïau sydd â threfniadau masnachu sydd wedi'u hymwreiddio'n ddwfn gyda'r UE, cwmnïau y mae ansicrwydd Brexit eisoes yn amharu arnyn nhw, cwmnïau sy'n dibynnu ar fasnach di-dariff ar gyfer eu busnes yn y dyfodol a chadw swyddi yn yr economi leol. Nid ydyn nhw'n cael eu calonogi gan unrhyw beth yr ydym ni wedi'i weld, ac rwy'n wirioneddol ofni os gwnawn ni hyn yn anghywir, mai hon fydd y weithred fwyaf o hunan-niwed y mae unrhyw genedl erioed wedi'i hachosi i'w hun. A'n plant ni fydd yn gorfod byw gyda chanlyniadau hynny, a'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas fydd yn talu'r pris mwyaf amdano. Ac fel cynrychiolydd etholedig, ni allaf bleidleisio dros y canlyniad hwnnw. Fel cynrychiolydd etholedig, y peth hawsaf i mi ei wneud yw pleidleisio o blaid y dewis poblyddol. Y peth anoddaf i'w wneud yw pleidleisio o blaid y dewis cywir.

Llywydd, am eiliad, gadewch imi fyfyrio hefyd ar fater sydd bob amser wedi bod yn agos at fy nghalon, sef hawliau gweithwyr—hawliau gweithwyr sydd wedi'u sefydlu gennym ni drwy'r Undeb Ewropeaidd dros  flynyddoedd lawer; hawliau gweithwyr, yn seiliedig ar ddeddfwriaeth Ewropeaidd, sy'n ymgorffori'r egwyddor ardderchog honno bod anaf i un yn anaf i bawb, sydd wedi lliniaru rhai o eithafion gwaethaf ymosodiadau'r Torïaid ar hawliau gweithwyr yn y wlad hon. A na, Gareth Bennett, nid gweithwyr mudol yr UE sy'n gostwng cyflogau, cyflogwyr diegwyddor sy'n gwneud hynny, ac mae ein methiant ni i ymdrin â hynny wedi bod yn warth cenedlaethol. Felly, rwyf wedi darllen gyda diddordeb yr wybodaeth am safonau llafur yn y cytundeb ymadael, a wyddoch chi beth? Mae'n annigonol yn hynny o beth hefyd. Nid yw'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen i osgoi yr hyn y gellid ei ddisgrifio ar ei orau fel ras i'r gwaelod. Yn amlwg, bydd llawer yn seilio eu hofnau ar gyfer y dyfodol ar golli mynediad at y farchnad sengl, ac, heb amheuaeth, mae hynny'n ystyriaeth enfawr yn y ddadl hon, ac yn un sy'n peri pryder mawr i mi, hefyd, am y rhesymau yr wyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes. Ond rwyf yr un mor bryderus ynglŷn â cholli ein lle ymysg polisïau cymdeithasol yr UE, oherwydd, siawns mai ein nod yw bod sefydlogrwydd economaidd a chynnydd cymdeithasol yn gysylltiedig â'i gilydd. Ac rwy'n mynd i ddyfynnu un cwmni cyfreithiol undeb llafur a allai fod yn gyfarwydd i un neu ddau o bobl yn y Siambr hon, ac maen nhw wedi dweud ei bod hi'n gwbl glir, felly, y bydd yr ymrwymiadau o ran sicrhau nad oes llacio ar safonau llafur ac o ran cydymffurfio â rhwymedigaethau Siarter Cymdeithasol Ewrop a Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn aneffeithiol.

Felly, nid oes unrhyw sicrwydd yn y cytundeb hwn ynglŷn â chymaint o agweddau ar ein bywydau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw ar gyfer ein ffyniant a'n diogelwch yn y dyfodol, ac mae distawrwydd byddarol yn y datganiad gwleidyddol am amddiffyn hawliau gweithwyr. I mi, nid yw hynny'n bodloni'r prawf a osodwyd naill ai yn y cytundeb ymadael na'r datganiad gwleidyddol. Felly, mae ein swyddogaeth ni heddiw yn glir: a ydym ni, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhoi ein cydsyniad i'r cynllun ymadael presennol? A fy ateb i yw 'nac ydym'. Nawr ein bod yn gwybod maint y ffolineb hwn, mae'n rhaid i bobl gael y cyfle i bleidleisio eto ac i benderfynu ai'r cytundeb a gynigir nawr yw'r hyn y gwnaethon nhw bleidleisio o'i blaid, mewn gwirionedd. Ac mae'n rhaid imi ddweud, Paul, yn groes i'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud yn gynharach, mae'r holl arwyddion nawr yn awgrymu nad yw pobl Cymru bellach yn cefnogi Brexit oherwydd eu bod bellach yn gwybod beth y mae'n ei olygu—nawr eu bod nhw'n gwybod yn union beth sydd ar gynnig, maen nhw wedi newid eu meddwl.

Gobeithio y caiff hynny ei wneud drwy etholiad cyffredinol oherwydd dydw i ddim eisiau inni newid cyfeiriad ar yr UE yn unig, rwyf eisiau inni newid cyfeiriad ar lu o bolisïau cartref. Mae cynnig y Llywodraeth yn cynnwys yr alwad hollbwysig honno am etholiad cyffredinol, a dyna pam y bydd yn cael fy nghefnogaeth i a dyna pam na allaf gefnogi cyfyngiadau gwelliant Plaid Cymru. Ond, rywsut, ar ôl y camgyfrifiad trychinebus ar adeg yr etholiad diwethaf i'r Torïaid, dydw i ddim yn meddwl y byddan nhw'n gwneud yr un camgymeriad eto, a dydw i ddim yn credu y bydd y tyrcwn penodol hyn yn pleidleisio dros Nadolig cynnar. Ond mae'n rhaid i bobl gael dweud eu dweud, felly os bydd y Torïaid yn rhedeg i ffwrdd o etholiad cyffredinol arall, yna mae'n rhaid cynnal pleidlais gyhoeddus sy'n penderfynu ein dyfodol. Diolch.