Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Diolch Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr i mi gyflwyno'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w ystyried. Mae hon yn foment arwyddocaol iawn yn natblygiad ein deddfwrfa oherwydd, am y tro cyntaf, rŷm ni'n cyflwyno deddfwriaeth sydd yn ymwneud â'r gyfraith ei hun.
Diben y Bil yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, yn gliriach ac yn haws ei defnyddio. Mae natur y Bil yn golygu taw fi fel y Cwnsler Cyffredinol sy'n ei gyflwyno—rhywbeth sydd heb ddigwydd erioed o'r blaen. Mae hon yn adeg amserol, felly, inni dalu teyrnged i ddau o'm rhagflaenwyr, Theodore Huckle CF a Mick Antoniw AC, a oedd ill dau wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd i eraill sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yma, boed hynny drwy ymateb i ddau ymgynghoriad yr ydym ni wedi'u cynnal fel Llywodraeth, neu drwy gyfrannu at waith blaenorol Comisiwn y Gyfraith. Mae adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru' yn darparu rhesymeg ar gyfer un rhan o'r Bil. Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu gwaith.
Mae Rhan 1 o'r Bil yn arloesol. Mae'n ceisio gosod seilwaith a fydd yn ymrwymo Llywodraethau'r dyfodol i gadw hygyrchedd y gyfraith o dan adolygiad, ac i gymryd camau i'w gwneud yn fwy hygyrch. Mae pryderon wedi'u codi ers blynyddoedd lawer am gymhlethdod y gyfraith yn y Deyrnas Unedig ac anrhefn ein llyfr statud blêr a helaeth. Mae llawer o'r cymhlethdod yn deillio o'r doreth o ddeddfwriaeth sydd wedi'i gwneud dros y degawdau diwethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu bod y llyfr statud bellach yn afreolus. Mae hyn, yn ei dro, yn golygu bod y rhan honno o'r llyfr statud a etifeddwyd gennym yn anhygyrch yn yr un modd, ac efallai hyd yn oed yn fwy anhygyrch gan fod Deddfau Senedd San Steffan yn cael eu diwygio'n rheolaidd er mwyn gwneud darpariaethau gwahanol ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r broblem hon yn dod yn fwy amlwg pan ystyriwn y cyd-destun ehangach o setliad datganoli cymhleth a di-resymeg, y trefniant anomalaidd o rannu awdurdodaeth gyfreithiol Lloegr, ac ein cyfrifoldeb i ddeddfu yn ein dwy iaith.
Y nod tymor hir yw creu llyfr statud trefnus i Gymru sy'n categoreiddio'r gyfraith mewn i godau ar bynciau penodol, a hyn yn hytrach na dim ond cyfeirio at y dyddiad pan gwnaethpwyd y ddeddfwriaeth. Mae'r Bil, felly, yn gosod dyletswyddau ar y Llywodraeth gan fod maint a natur y dasg yn golygu bod yn rhaid ymrwymo i'r gwaith yn systematig a dros y tymor hir. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyd-grynhoi'r gyfraith a'r gwaith arall sy'n gysylltiedig â gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch fod yn un o flaenoriaethau pob llywodraeth.
Bydd cyrraedd y nod o lyfr statud sydd wedi'i godeiddio yn cymryd cenhedlaeth a mwy. Felly, cyn dechrau ar ein taith, rhaid i ni ddeall beth yw diben y siwrnai. O ganlyniad, hefyd heddiw rydym yn cyhoeddi tacsonomeg drafft ar gyfer codau cyfreithiol Cymru, a hyn er mwyn arddangos sut all y llyfr statud edrych yn y dyfodol. Er taw dogfen weithio yw hon, rwy'n gobeithio, serch hynny, y bydd yn rhoi cipolwg defnyddiol o'n syniadau cychwynnol.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r archifau cenedlaethol i wella'r ffordd y cyhoeddir deddfwriaeth bresennol, yn bennaf drwy drefnu'r hyn sydd gyda ni eisoes drwy gyfeirio at ei faes pwnc. Bydd hyn yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer y broses o gyd-grynhoi sydd ei hangen, yn ogystal â bod yn gymorth i ddefnyddwyr deddfwriaeth yn y cyfamser. Ar ôl ei gwblhau, bydd y gwasanaeth hwn ar gael drwy wefan Cyfraith Cymru, gwefan a fydd yn cael ei wella fel rhan arall o'r gwaith o wneud y gyfraith yn fwy hygyrch.