Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Er bod rhan 1 o'r Bil yn arloesol, mae rhan 2 o'r Bil yn dilyn yr hen draddodiad a sefydlwyd gan Senedd y DU yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan gafodd Deddf ddehongli ei phasio am y tro cyntaf. Dehongliad statudol yw'r broses o benderfynu ar ystyr ac effaith deddfwriaeth a sut mae hi'n gweithredu. Gall hon fod yn broses gymhleth, felly mae Deddfau i ragnodi rheolau ar sut y caiff cyfreithiau eu dehongli yn nodweddiadol o awdurdodaethau cyfreithiol ledled byd y gyfraith gyffredin. Eu diben, yn y bôn, yw byrhau a symleiddio deddfwriaeth a hyrwyddo cysondeb o ran iaith, ei ffurf a'i gweithrediad. Yn y DU, ceir tair deddf o'r math hwn ar hyn o bryd: un ar gyfer y Deyrnas Unedig, un ar gyfer yr Alban ac un ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae deddfwriaeth Cymru yn ddarostyngedig i Ddeddf y DU ar hyn o bryd, sydd yn rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei newid drwy lunio'r ddarpariaeth bwrpasol hon ar gyfer Cymru.
Mae'r cynigion yn y Bil wedi bod yn ddarostyngedig i ymarferiad o ymgynghori ar bolisi a chyhoeddiad Bil drafft. Mae cyflwyniad y Bil, serch hynny, yn nodi dechrau'r rhan bwysicaf nawr o'r broses graffu, ac rwy'n awyddus iawn i glywed barn yr Aelodau a gwrando ar unrhyw bryderon a allai fod gennych chi. Fel unrhyw Fil arall, wrth gwrs, fe allai hwn newid, ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y gellid ei gaboli.
Un mater yr hoffwn gael barn yr Aelodau arno'n benodol yw hyn – a oes angen, a sut mae gwneud darpariaeth benodol o ran y broses ar gyfer dehongli deddfwriaeth sy'n cael ei llunio'n ddwyieithog. Ar hyn o bryd, mae adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu ar gyfer statws cyfartal i destunau o ddeddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fe allai hyn fod yn ddigonol, yn amodol efallai ar ailddatganiad o'r ddarpariaeth honno yn y Bil hwn, ond mae'n fater pwysig sy'n teilyngu dadansoddiad a myfyrdod ymhellach. Mae'n fater a gafodd ei wyntyllu yn yr ymgynghoriad, ond rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor sy'n gyfrifol yn teimlo y gall ystyried y mater hwn yn ofalus.
Yn olaf, mae'n bwysig cadw mewn cof mai ffurfio dim ond un rhan o fenter ehangach a wna'r Bil hwn. Er y bwriedir iddi fod yn sail i lawer o'n gweithgarwch i'r dyfodol, ni fydd rhan 1 y Bil ynddi ei hun yn cyflawni'r diwygiadau yr ydym yn eu dymuno. Bydd hynny'n dibynnu ar y gwaith manwl a gofalus o atgyfnerthu'r gyfraith; a'i rhesymoli yn strwythur o godau. Byddwn yn y dyfodol, felly, yn dechrau gweld Biliau'n cael eu cynllunio nid i ddiwygio'r gyfraith, ond i ddod â threfn iddi drwy ail-lunio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ar ei newydd wedd i Gymru ar ffurf fodern, ddwyieithog a hygyrch. Pan ddônt i rym, bydd angen amddiffyn y cyfreithiau hyn wedyn rhag unrhyw awydd gwleidyddol yn y dyfodol i lunio cyfraith nad yw'n ffitio'n strwythurol o fewn y codau newydd sydd wedi eu sefydlu. Er, yn amlwg, nad oes unrhyw awydd i dresmasu ar gynnwys nac ar effaith y gyfraith, nac ar y reddf i ddiwygio'r gyfraith, mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i orfodi gweithrediad hynny fel y rhoddir ystyriaeth bob amser i'r effaith ar hygyrchedd y llyfr statud.
Mae'r fenter ehangach yn golygu ein bod ni hefyd, yn neddfwrfa Cymru a'i Llywodraeth, yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am ein cyfreithiau. Mae'n golygu cyflymu'r broses o ddatblygu corff o gyfraith ddwyieithog i Gymru, corff o gyfraith a gaiff ei nodi fel hynny yn hytrach na bod wedi ei gydblethu â deddfau sy'n weithredol y tu allan i Gymru hefyd. Bydd y Bil hwn, yn ogystal â hwyluso'r broses honno, yn cynnwys rheolau ar sut y gweithredir y gyfraith honno a sut y caiff ei dehongli. Nid oes gwahaniaeth ymhle y byddwn ni yn y pen draw o ran cwestiwn awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, bydd y Bil, rwy'n gobeithio, yn rhan bwysig o'n seilwaith cyfreithiol yng Nghymru am flynyddoedd lawer i ddod.