4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:17, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru), ac rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr i mi gyflwyno'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w ystyried. Mae hon yn foment arwyddocaol iawn yn natblygiad ein deddfwrfa oherwydd, am y tro cyntaf, rŷm ni'n cyflwyno deddfwriaeth sydd yn ymwneud â'r gyfraith ei hun.

Diben y Bil yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, yn gliriach ac yn haws ei defnyddio. Mae natur y Bil yn golygu taw fi fel y Cwnsler Cyffredinol sy'n ei gyflwyno—rhywbeth sydd heb ddigwydd erioed o'r blaen. Mae hon yn adeg amserol, felly, inni dalu teyrnged i ddau o'm rhagflaenwyr, Theodore Huckle CF a Mick Antoniw AC, a oedd ill dau wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y Bil. Hoffwn ddiolch hefyd i eraill sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yma, boed hynny drwy ymateb i ddau ymgynghoriad yr ydym ni wedi'u cynnal fel Llywodraeth, neu drwy gyfrannu at waith blaenorol Comisiwn y Gyfraith. Mae adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru' yn darparu rhesymeg ar gyfer un rhan o'r Bil. Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu gwaith.

Mae Rhan 1 o'r Bil yn arloesol. Mae'n ceisio gosod seilwaith a fydd yn ymrwymo Llywodraethau'r dyfodol i gadw hygyrchedd y gyfraith o dan adolygiad, ac i gymryd camau i'w gwneud yn fwy hygyrch. Mae pryderon wedi'u codi ers blynyddoedd lawer am gymhlethdod y gyfraith yn y Deyrnas Unedig ac anrhefn ein llyfr statud blêr a helaeth. Mae llawer o'r cymhlethdod yn deillio o'r doreth o ddeddfwriaeth sydd wedi'i gwneud dros y degawdau diwethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu bod y llyfr statud bellach yn afreolus. Mae hyn, yn ei dro, yn golygu bod y rhan honno o'r llyfr statud a etifeddwyd gennym yn anhygyrch yn yr un modd, ac efallai hyd yn oed yn fwy anhygyrch gan fod Deddfau Senedd San Steffan yn cael eu diwygio'n rheolaidd er mwyn gwneud darpariaethau gwahanol ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r broblem hon yn dod yn fwy amlwg pan ystyriwn y cyd-destun ehangach o setliad datganoli cymhleth a di-resymeg, y trefniant anomalaidd o rannu awdurdodaeth gyfreithiol Lloegr, ac ein cyfrifoldeb i ddeddfu yn ein dwy iaith.

Y nod tymor hir yw creu llyfr statud trefnus i Gymru sy'n categoreiddio'r gyfraith mewn i godau ar bynciau penodol, a hyn yn hytrach na dim ond cyfeirio at y dyddiad pan gwnaethpwyd y ddeddfwriaeth. Mae'r Bil, felly, yn gosod dyletswyddau ar y Llywodraeth gan fod maint a natur y dasg yn golygu bod yn rhaid ymrwymo i'r gwaith yn systematig a dros y tymor hir. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyd-grynhoi'r gyfraith a'r gwaith arall sy'n gysylltiedig â gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch fod yn un o flaenoriaethau pob llywodraeth.

Bydd cyrraedd y nod o lyfr statud sydd wedi'i godeiddio yn cymryd cenhedlaeth a mwy. Felly, cyn dechrau ar ein taith, rhaid i ni ddeall beth yw diben y siwrnai. O ganlyniad, hefyd heddiw rydym yn cyhoeddi tacsonomeg drafft ar gyfer codau cyfreithiol Cymru, a hyn er mwyn arddangos sut all y llyfr statud edrych yn y dyfodol. Er taw dogfen weithio yw hon, rwy'n gobeithio, serch hynny, y bydd yn rhoi cipolwg defnyddiol o'n syniadau cychwynnol.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r archifau cenedlaethol i wella'r ffordd y cyhoeddir deddfwriaeth bresennol, yn bennaf drwy drefnu'r hyn sydd gyda ni eisoes drwy gyfeirio at ei faes pwnc. Bydd hyn yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer y broses o gyd-grynhoi sydd ei hangen, yn ogystal â bod yn gymorth i ddefnyddwyr deddfwriaeth yn y cyfamser. Ar ôl ei gwblhau, bydd y gwasanaeth hwn ar gael drwy wefan Cyfraith Cymru, gwefan a fydd yn cael ei wella fel rhan arall o'r gwaith o wneud y gyfraith yn fwy hygyrch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:21, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Er bod rhan 1 o'r Bil yn arloesol, mae rhan 2 o'r Bil yn dilyn yr hen draddodiad a sefydlwyd gan Senedd y DU yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan gafodd Deddf ddehongli ei phasio am y tro cyntaf. Dehongliad statudol yw'r broses o benderfynu ar ystyr ac effaith deddfwriaeth a sut mae hi'n gweithredu. Gall hon fod yn broses gymhleth, felly mae Deddfau i ragnodi rheolau ar sut y caiff cyfreithiau eu dehongli yn nodweddiadol o awdurdodaethau cyfreithiol ledled byd y gyfraith gyffredin. Eu diben, yn y bôn, yw byrhau a symleiddio deddfwriaeth a hyrwyddo cysondeb o ran iaith, ei ffurf a'i gweithrediad. Yn y DU, ceir tair deddf o'r math hwn ar hyn o bryd: un ar gyfer y Deyrnas Unedig, un ar gyfer yr Alban ac un ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae deddfwriaeth Cymru yn ddarostyngedig i Ddeddf y DU ar hyn o bryd, sydd yn rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei newid drwy lunio'r ddarpariaeth bwrpasol hon ar gyfer Cymru.

Mae'r cynigion yn y Bil wedi bod yn ddarostyngedig i ymarferiad o ymgynghori ar bolisi a chyhoeddiad Bil drafft. Mae cyflwyniad y Bil, serch hynny, yn nodi dechrau'r rhan bwysicaf nawr o'r broses graffu, ac rwy'n awyddus iawn i glywed barn yr Aelodau a gwrando ar unrhyw bryderon a allai fod gennych chi. Fel unrhyw Fil arall, wrth gwrs, fe allai hwn newid, ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y gellid ei gaboli.

Un mater yr hoffwn gael barn yr Aelodau arno'n benodol yw hyn – a oes angen, a sut mae gwneud darpariaeth benodol o ran y broses ar gyfer dehongli deddfwriaeth sy'n cael ei llunio'n ddwyieithog. Ar hyn o bryd, mae adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu ar gyfer statws cyfartal i destunau o ddeddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fe allai hyn fod yn ddigonol, yn amodol efallai ar ailddatganiad o'r ddarpariaeth honno yn y Bil hwn, ond mae'n fater pwysig sy'n teilyngu dadansoddiad a myfyrdod ymhellach. Mae'n fater a gafodd ei wyntyllu yn yr ymgynghoriad, ond rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor sy'n gyfrifol yn teimlo y gall ystyried y mater hwn yn ofalus.

Yn olaf, mae'n bwysig cadw mewn cof mai ffurfio dim ond un rhan o fenter ehangach a wna'r Bil hwn. Er y bwriedir iddi fod yn sail i lawer o'n gweithgarwch i'r dyfodol, ni fydd rhan 1 y Bil ynddi ei hun yn cyflawni'r diwygiadau yr ydym yn eu dymuno. Bydd hynny'n dibynnu ar y gwaith manwl a gofalus o atgyfnerthu'r gyfraith; a'i rhesymoli yn strwythur o godau. Byddwn yn y dyfodol, felly, yn dechrau gweld Biliau'n cael eu cynllunio nid i ddiwygio'r gyfraith, ond i ddod â threfn iddi drwy ail-lunio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ar ei newydd wedd i Gymru ar ffurf fodern, ddwyieithog a hygyrch. Pan ddônt i rym, bydd angen amddiffyn y cyfreithiau hyn wedyn rhag unrhyw awydd gwleidyddol yn y dyfodol i lunio cyfraith nad yw'n ffitio'n strwythurol o fewn y codau newydd sydd wedi eu sefydlu. Er, yn amlwg, nad oes unrhyw awydd i dresmasu ar gynnwys nac ar effaith y gyfraith, nac ar y reddf i ddiwygio'r gyfraith, mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i orfodi gweithrediad hynny fel y rhoddir ystyriaeth bob amser i'r effaith ar hygyrchedd y llyfr statud.

Mae'r fenter ehangach yn golygu ein bod ni hefyd, yn neddfwrfa Cymru a'i Llywodraeth, yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am ein cyfreithiau. Mae'n golygu cyflymu'r broses o ddatblygu corff o gyfraith ddwyieithog i Gymru, corff o gyfraith a gaiff ei nodi fel hynny yn hytrach na bod wedi ei gydblethu â deddfau sy'n weithredol y tu allan i Gymru hefyd. Bydd y Bil hwn, yn ogystal â hwyluso'r broses honno, yn cynnwys rheolau ar sut y gweithredir y gyfraith honno a sut y caiff ei dehongli. Nid oes gwahaniaeth ymhle y byddwn ni yn y pen draw o ran cwestiwn awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, bydd y Bil, rwy'n gobeithio, yn rhan bwysig o'n seilwaith cyfreithiol yng Nghymru am flynyddoedd lawer i ddod.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:26, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Cwnsler Cyffredinol, am y datganiad hwn, a hefyd am y sylwadau tuag at y diwedd ynghylch y ffaith na fydd y Bil hwn yn sefyll ar ei ben ei hun, heb ystyriaeth i wahaniaethau gwleidyddol o ran awdurdodaeth ac ati, fel na fyddwn yn mynd ar ôl yr ysgyfarnog honno yn ystod hynt y Bil hwn. Hefyd, rwy'n gobeithio na fydd ots gennych chi, ond nid wyf i mewn sefyllfa i ateb yr union gwestiwn yr ydych chi wedi ei ofyn i ni fel Aelodau Cynulliad, ynglŷn ag unrhyw gyngor y gallwn ei gynnig i chi o ran sut i ailddatgan deddfwriaeth yn ddwyieithog. Ond pan fydd hyn wedi bod drwy gamau pwyllgor, rwy'n siŵr y byddwn yn gallu bod o gymorth i chi yn hynny o beth.

Ydych, rydych chi'n hollol iawn i ddweud bod llyfr statud y DU yn anferthol ac yn anhylaw, ac rwy'n cytuno â chi, a dyna pam yr wyf i, ac Aelodau Cynulliad eraill yn y gorffennol, wedi bod yn awyddus iawn i gael cyfraith yng Nghymru sy'n cydgrynhoi, hyd yn oed os na chawsom ein ffordd ar sawl achlysuron—rwy'n meddwl am gartrefi mewn parciau a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Ond rydym wedi methu darbwyllo Llywodraeth Cymru yn y gorffennol hefyd i gyfeirio at statudau eraill o fewn ei Biliau ei hun, lle mae cyfeiriadau o'r fath yn angenrheidiol i ddeall y Biliau hynny. Felly, er enghraifft, gellir cynnwys diffiniad mewn Bil yng Nghymru drwy gyfeirio at ei fodolaeth mewn gwahanol Fil. Mewn gwirionedd, mae gennym sefyllfa sy'n codi yfory gyda'r Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) lle mae honno'n ffordd bosibl o ddatrys problem.

Felly, os caf i, rwyf am ddechrau gyda chwestiwn o ddiffiniadau, o godeiddio a hyd yn oed o gydgrynhoi, oherwydd i mi, ystyr codeiddio yw ymgorffori cyfraith gyffredin mewn statud a luniwyd drwy benderfyniadau barnwrol. Ond mae'n ymddangos i mi ei fod yn golygu rhywbeth arall yn y cyd-destun hwn, ychydig yn fwy tebyg i'r gyfraith Rufeinig, sy'n synhwyrol iawn, yn trefnu'r gyfraith o dan benawdau fesul pwnc, os mynnwch chi. Felly, a ydych yn cytuno gyda grŵp cyfraith Bangor y dylai'r Bil—nid 'Bangalore', ond 'Bangor law'—y dylai'r Bil gynnwys diffiniad o godeiddio a chydgrynhoi yn benodol i osgoi'r math o ansicrwydd yr wyf i wedi cael fy mwrw iddo eisoes?

Rwy'n llwyr gefnogi'r ail-wneud, neu'r ailddatgan hefyd, o'r gyfraith bresennol ar ffurf hygyrch gyfoes a dwyieithog. Mae hyn yn golygu ailddatgan y gyfraith bresennol, gan ei dehongli o dan ddeddfwriaeth hŷn o 1978, rwy'n credu, onid e? Ac, wrth gwrs, nid bwriad y Bil hwn yw cael effaith ar neu danseilio unrhyw beth, na'r ffordd y caiff ei ddehongli eisoes. Felly, sut allwch chi ein sicrhau ni pe bawn yn—esgusodwch fi am bortreadu fel hyn—ond pe bawn yn torri a gludo o gyfreithiau eraill ac yn rhoi hynny yn ein cyfraith ein hunain, sut allwn ni fod yn siŵr na fydd yr ystyr na'r ddealltwriaeth yn cael eu colli neu'n newid o ganlyniad i'w cynnwys yn ein cyfraith bwrpasol ar gyfer Cymru, yr wyf i'n ei chroesawu? Oherwydd gallai'r geiriau a'r ymadroddion newid eu hystyr dros gyfnod o amser, ac os oes gennych chi ddwy Ddeddf ddehongli yn sefyll ochr yn ochr â'i gilydd, rwy'n siŵr ei fod yn fater yr ydych wedi ei nodi a'i ystyried eisoes, yn arbennig felly gan y bydd ein deddfau newydd yn cymryd y flaenoriaeth yn yr amgylchiadau hynny, mae'n debyg. Ac yna, i'r gwrthwyneb, os na fydd yn fater o dorri a gludo, sut allwn ni fod yn sicr y bydd yr ystyr wreiddiol a'r dehongliad gwreiddiol yn cael eu hail-greu'n llwyddiannus mewn unrhyw statudau newydd i Gymru gan ddefnyddio'r Ddeddf ddehongli newydd i Gymru?

Rydych chi'n dweud yn eich datganiad mai diben Rhan 2 o'r Bil yw byrhau a symleiddio'r gyfraith, ac, wrth gwrs, rwy'n deall y ddadl dros hynny: mae'n hybu hygyrchedd, ac fe ddylem ni ddefnyddio iaith gyfoes pan nad yw hynny'n peri dryswch. Credaf mai hwn fydd eich cyfle chi, er enghraifft, i egluro ystyr y gair 'gall' mewn drafftio cyfoes. Rydych chi'n cyfeirio at hyn mewn rhan o'r drafft, ond nid y broblem benodol hon. Ond rydych chi'n derbyn hefyd fod gan y gair 'symleiddio' fwy nag un ystyr a bod yn rhaid inni fod yn ofalus o ran cydbwyso'r hyn sy'n haws i'w ddeall â'r problemau posibl sy'n codi yn sgil diffyg bod yn fanwl gywir? Sut ydych chi'n disgwyl rheoli hynny?

Dywedodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru wrthym ni yn eu tystiolaeth nad yw'r ddyletswydd sydd gan Lywodraeth Cymru i gadw cyfraith Cymru dan adolygiad wedi cael ei diffinio'n amlwg yn y Bil drafft. Nid yw'n mynegi'r hyn sy'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud i barhau i'w hadolygu, ac mae cwestiwn hefyd o ran ystyr 'codeiddio'. Mae'n dweud—ac rwy'n dyfynnu nawr—nad diben y ddeddfwriaeth yw dangos bwriadau da ac nid felly y dylai fod. Hoffwn weld y datganiad hwnnw ar grysau-t, a phosteri, a matiau llygoden, ac arbedwyr sgrîn ac ar dalcen eich anwylyd—unrhyw le, mewn gwirionedd, y gallai Ysgrifenyddion y Cabinet yn y lle hwn ei weld. Oherwydd dyma eich cyfle chi, Cwnsler Cyffredinol, i wella ansawdd ein statudau yn ogystal â'u hygyrchedd. Felly, a fyddwch chi'n defnyddio'r cyfle hwn i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn symud oddi wrth y dewis arferol o Filiau tyllog sy'n mynegi bwriadau polisi, ond sydd yn gofyn am gnewyllyn sylweddol o reoliadau, yn ddarostyngedig i lawer llai o graffu, wrth gwrs, ar gyfer eu gwneud yn weithredol fel offerynnau cyfreithiol? Ac a fyddwch yn sicrhau bod hygyrchedd yn cynnwys y cysyniad o eglurder ynghylch yr hyn y dylai'r partïon a gaiff eu heffeithio ei wneud i gydymffurfio â deddfau amrywiol? Roeddwn yn falch iawn, wrth gwrs, o weld y ddarpariaeth ar gymalau machlud yn y Bil drafft, sy'n helpu i ddarparu ar gyfer hynny.

Dau gwestiwn arall, Llywydd. Eich sylwadau i gloi ar strwythur codau: beth yn hollol yr ydych yn ei olygu pan ddywedwch bydd angen amddiffyn y cyfreithiau hyn wedyn rhag unrhyw awydd gwleidyddol yn y dyfodol i lunio cyfraith nad yw'n ffitio'n strwythurol o fewn y codau newydd sydd wedi eu sefydlu ac mae gennym ni gyfrifoldeb ar y cyd i orfodi— ac fe wnaethoch chi ddweud 'gorfodi'— gweithrediad hynny?

Rwy'n deall ei fod yn ymwneud ag effaith ar hygyrchedd, ond mae gwir angen am eglurhad pellach, oherwydd ni ddylai unrhyw Lywodraeth geisio gorfodi'r ddeddfwrfa. I mi, mae'n gwbl ragweladwy y gallai'r statudau a luniwn yn y dyfodol groesi ffiniau eich tacsonomeg a ffitio dan fwy nag un pennawd. Felly rwy'n awyddus i gael cadarnhad na fydd unrhyw welliannau a gaiff eu cyflwyno i'r dyfodol i Filiau Llywodraeth Cymru gan y gwrthbleidiau yn cael eu gwrthod ar y sail eu bod nhw y tu allan i bennawd tacsonomeg penodol.

Yn olaf, bydd unrhyw statud wedi dyddio ar y diwrnod y caiff ei llunio—rydym i gyd yn gyfarwydd â hynny—felly beth yw eich barn ar sut y dylem ymdrin â'r hyn a arferai fod yn ddiweddariadau Noter-up—ond rwy'n credu mai LexisNexis a Lawtel ydyn nhw erbyn hyn—ar gyfer unrhyw newidiadau a wneir i ddeddfwriaeth, yr effeithir arnynt gan y Bil hwn? Sut fydden nhw'n ffitio yn eich cyfres chi o godau, os yw hynny'n gwneud synnwyr? Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:32, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i'r Aelod am yr ystod eang o gwestiynau. Rwy'n gobeithio y byddaf yn llwyddo i ateb y rhan fwyaf, os nad pob yr un ohonyn nhw. Ar y cwestiwn ynglŷn â diffiniadau codeiddio a chydgrynhoi, diben y ddeddfwriaeth yn ei hanfod yw sicrhau cyfraith sy'n fwy hygyrch, a chredaf mai un o'r egwyddorion allweddol yma yw caniatáu i ddiffiniadau gael eu diffiniadau o'r geiriadur hyd y bo modd. Felly, rwy'n credu, yng nghyd-destun cydgrynhoi, mai fy marn i yw, fwy na thebyg, fod hynny'n ddigon dealladwy. Ar gwestiwn codeiddio, soniodd yr Aelod mai codeiddio'r gyfraith gyffredin yw'r math o batrwm sydd ganddi yn ei meddwl o bosib. Nid ydym ni, yn gyffredinol, yn sôn am godeiddio'r gyfraith gyffredin yn y fan hon. Efallai y bydd, ar yr ymylon, rai enghreifftiau lle bydd statud wedi cymryd ystyr penodol sydd wedi ei sefydlu'n gadarn yn y gyfraith gyffredin, ond nid dyma'r bwriad yn y fan hon o gwbl. Mae'n fater o godeiddio cyfraith statud.

Soniodd am y dacsonomeg, sy'n rhyw fath o ddogfen ar waith ar hyn o bryd i roi rhyw gipolwg o sut beth fyddai'r penawdau pynciau hynny. Ond diben sylfaenol cod o fewn unrhyw un o'r penawdau hynny fyddai cydgrynhoi'r ddeddfwriaeth sylfaenol ac wedyn cyhoeddi hynny, ynghyd ag is-ddeddfwriaeth wedi'i chydgrynhoi a chyfraith feddal a chanllawiau o fewn pob pennawd pwnc neilltuol. Felly, os hoffech chi, nid oes gan y cod unrhyw hunaniaeth gyfreithiol ar ei ben ei hun yn ôl y gyfraith; penllanw proses ydyw o gydgrynhoi a chydgyhoeddi, pe caf ei rhoi hi felly.

Mae'r pwynt a wnaeth hi ar y diwedd yn un pwysig iawn, a byddaf yn achub ar y cyfle a roddodd i egluro'r hyn yr wyf yn ei fwriadu yn hyn o beth. Y weithred o godeiddio yw'r cam cyntaf. Mae honno'n dasg enfawr ynddi ei hun, ond, yn amlwg, os yw cod yn mynd i gadw ei werth, mae angen iddo gael ei gadw fel cod. Felly pan gyflwynir deddfwriaeth i ddiwygio'r maes ar bwnc arbennig, y disgwyliad fyddai y byddai hynny'n digwydd o fewn y cod. Nawr, yn y pen draw, mae hwn yn gwestiwn ar gyfer Rheolau Sefydlog y Cynulliad, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ynglŷn â hynny. I fynd yn ôl at fater y diffiniad, bydd angen cael rhywfaint o eglurhad o fewn y Rheolau Sefydlog o ran pa fath o ddeddfwriaeth fydd yn mynd trwy unrhyw ddarpariaeth gydgrynhoi yma yn y Cynulliad. Yn y bôn, mae hynny'n fater ar gyfer gwaith y Cynulliad, mewn gwirionedd, yn hytrach nag unrhyw beth y tu hwnt i hynny. Ond credaf ei bod yn hanfodol inni gadw'r ffaith mewn cof mai'r cam cyntaf yw'r codeiddio, a thrwy gynnal y cod y cyrhaeddwn y man lle bydd y gwerth yn cronni gydag amser.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:35, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Roeddech chi'n sôn am y gydberthynas rhwng Deddf 1978 a'r hyn a gynigir yn y Bil hwn. Nid yw'r torri a gludo yr oeddech chi'n cyfeirio ato yn rhywbeth yr ydym ni'n ei gynnig. Rwy'n gobeithio y gallwn neilltuo amser penodol er mwyn i ail ran y Bil ddod yn gyfraith sy'n hawdd ei chofio, fel y bydd yr Aelodau a defnyddwyr y ddeddfwriaeth yn y dyfodol yn gwybod yn bendant fod Deddfau'r Cynulliad a basiwyd ar ôl y dyddiad hwnnw yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth ddehongli newydd, a'r rhai a basiwyd cyn y dyddiad hwnnw yn ddarostyngedig i Ddeddf Dehongli 1978. Felly, dylai fod yn eglur iawn pa un o'r ddwy Ddeddf sy'n gymwys. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig o ran hygyrchedd.

Siaradodd am bwyntiau'r Gymdeithas Ddysgedig o ran dyletswydd i adolygu cyfraith Cymru a'i hygyrchedd dan adolygiad. Ceir dwy ddyletswydd, wrth gwrs, yn y Bil hwn, a'r rhyngberthynas rhwng y ddwy yw'r peth pwysig. Mae dyletswydd fras ar y Cwnsler Cyffredinol i gadw cyfraith Cymru dan adolygiad, a bydd hynny'n rhoi cyfleoedd i gynnwys hynny yn y broses o ddatblygu deddfwriaeth, a datblygu polisi o fewn y Llywodraeth wrth i ddeddfwriaeth gael ei dwyn ymlaen. Ond yna mae'r ail ddyletswydd, sydd â mynegiant ehangach o lawer, yn gymwys i'r Cwnsler Cyffredinol ac i Weinidogion Cymru fel ei gilydd. A dyna'r man lle ceir sylwedd y ddyletswydd o ran cyflwyno rhaglen yn ystod pob tymor Cynulliad i gymryd camau penodol i gydgrynhoi, codeiddio, a gwneud cyfraith yn fwy hygyrch. Felly, rwy'n gobeithio y bydd rhyngberthynas y ddwy ddyletswydd hynny gyda'i gilydd yn rhoi cig ar yr esgyrn, os caf i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw.

Siaradodd am ddeddfwriaeth fel rhywbeth sy'n fwy na bwriadau da yn unig. Dyna'n sicr sydd wrth galon y Bil hwn. Bydd hi'n gwybod bod gweithgarwch yn digwydd ar hyn o bryd i gydgrynhoi'r gyfraith, sy'n digwydd, os caf ddefnyddio'r ymadrodd, o dipyn i beth, mewn gwirionedd, a diben y dyletswyddau yn y Bil hwn yw symud o set dameidiog o drefniadau i un sy'n rhoi dyletswydd sy'n dod â rhwymedigaeth yn ei sgil i fodloni'r ddyletswydd honno a denu adnoddau er mwyn gallu gwireddu hynny. Felly, holl ddiben y Bil yw symud y tu hwnt i fwriadau da i rywbeth diriaethol a deinamig, sy'n codi ei fomentwm ei hunan dros Gynulliadau olynol.

Mae'r pwynt olaf a wnaeth hi yn bwysig hefyd, mewn cysylltiad â sut mae'r gweithgaredd a'r cynnyrch a ragwelir gan y Bil hwn yn ymwneud ag argaeledd gwasanaethau cyhoeddwyr masnachol ar hyn o bryd. Y gwir amdani yw y bydd defnyddwyr y ddeddfwriaeth i Gymru sy'n cael ei phasio yn y lle hwn ac offerynnau statudol gan Weinidogion Cymru yn cael eu siomi pe baent yn mynd ar-lein i chwilio am fersiwn cyfredol, cynhwysfawr, mwyaf diweddar, cyfunol, dwyieithog o'r Deddfau hynny yr ydym yn eu pasio a'r offerynnau statudol y mae Gweinidogion yn eu llunio mewn cyfraith. Nid yw'r sefyllfa, er gwaethaf ymdrech fawr, wedi dod yn agos at y fan y mae angen iddi fod, ac rwy'n trafod gyda'r Archifau Cenedlaethol ar hyn o bryd sut y gellir gwella hynny a'r hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth i ddefnyddio adnoddau yn yr iaith Gymraeg, yn arbennig, i fwrw ymlaen â hynny, a byddwn, rwy'n credu, yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros rywfaint o gyhoeddi cynnyrch y sefydliad hwn. Y cynnig arall sydd ar y gweill ar hyn o bryd—a soniais am hyn pan wnes i lansio'r ymgynghoriad, fel y cofiwch efallai—fe gaiff ei ysbrydoli gan gynlluniau DefraLex yn Llywodraeth y DU, sy'n cael eu cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon hefyd, sef cydleoli statudau a chyfraith ac offerynnau statudol pan fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi, yn hytrach na'u cyhoeddi yn ôl y dyddiad, sydd mewn rhai ffyrdd yn ddull ffwdanus iawn o gyhoeddi deddfwriaeth. Mae gwneud hynny yn ôl penawdau'r pynciau, yn fy marn i, yn ddull llawer mwy naturiol ac rwy'n gobeithio y bydd gennyf rywbeth i'w ddweud am hynny rywbryd yn y dyfodol.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:40, 4 Rhagfyr 2018

A allaf i groesawu a chefnogi'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo fo yn fan hyn, wrth i'r Cwnsler Cyffredinol gyflwyno'r datganiad yma heddiw ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru)? Wrth gwrs, y bwriad yn y pen draw ydy cryfhau'r ddeddfwrfa yn fan hyn i Gymru. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen fel cenedl. Rydym ni'n cofio Deddfau Hywel Dda nôl yn y gorffennol. Mae David Melding wastad yn fy atgoffa i—rydw i'n credu yr oedd o gwmpas ar y pryd, yn troedio'r ddaear yma rownd y flwyddyn 950—wrth gwrs y cawsom ni Ddeddfau arloesol y pryd hynny, ac, wrth gwrs, hawliau i fenywod am y tro cyntaf, tua 1,000 o flynyddoedd cyn i'r hawliau hynny yn ymddangos mewn unrhyw ddeddfwrfa arall. Felly, mae gyda ni hanes o greu deddfwriaeth arloesol, a dyma beth sydd gyda ni yn fan hyn, i fod yn deg i chi yn fan hyn. Wrth gwrs, mae yna sawl her, a bydd yr heriau hynny yn dod yn amlwg wrth inni graffu ar hyn i gyd rŵan yng Nghyfnod 1 yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ac, wrth gwrs, mae rhan o'r dystiolaeth wedi cyrraedd eisoes i'r pwyllgor, a dyna beth yr oedd Suzy yn ei ddyfynnu.

Ond, wrth gwrs, mae yna her—gan anghofio am Hywel Dda am funud fach nawr—yr her y dyddiau yma ydy bod yna rai Deddfau Lloegr a Chymru, ac wrth gwrs mae yna Ddeddfau newydd rŵan, Cymru yn unig, ac wrth gwrs y ffaith bod yna ddwy iaith. Rydych chi wedi amlinellu'r her yn fan hyn—mae unrhyw beth sydd i fod i ymddangos yma yng Nghymru i fod yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, ac weithiau rydym ni'n cael yr heriau yna yn amlwg yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, pan nad yw pethau'n ymddangos yn y Gymraeg sydd yn dod o San Steffan wedyn. Buaswn i'n gobeithio bod y math hwn o ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi'n glir, os ydy hyd yn oed San Steffan yn deddfu ar ein rhan ni, fod yna ddisgwyl i'r ddeddfwriaeth hynny fod yn y Gymraeg yn ogystal â bod yn y Saesneg. Wrth gwrs, rydym ni yn wlad ddwyieithog wedi'r cwbl.

Wedi dweud hynny, mae'r pwynt nesaf sydd gyda fi ynglŷn â dehongli. Yn naturiol, rydw i'n croesawu'r trefniant newydd yma, o ran eich bod yn dweud y bydd y Deddfau yn cael eu rhestru—wel, eu codeiddio—fesul maes pwnc. Rydw i'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen ac yn gwneud synnwyr. Yn y mater o ddehongli, yn enwedig pan mae yna ddwy iaith wahanol, fe fyddwch chi'n deall nad ydy pob iaith yn union gyfieithiad o unrhyw iaith arall, ac felly mae yna her, nid jest o ran y geiriau yr ydym ni yn eu defnyddio, ond weithiau fod y synnwyr ychydig bach yn wahanol yn y Saesneg o gymharu â'r Gymraeg. Rydw i'n deall beth rydych chi'n dweud—bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal—ond os ydym ni'n gallu meddwl bod y synnwyr ychydig bach yn wahanol yn Saesneg o gymharu â'r Gymraeg, pa iaith wedyn sy'n cael y flaenoriaeth os ydych chi'n dod i benderfyniad? Rydw i'n gwybod efallai ei fod o'n swnio fel pwynt bach astrus, ond mae o'n bwysig pan ydych chi'n dod i'r mater o ddehongli mewn llys barn, yn enwedig achos, fel rydych chi'n ymwybodol, fod yna erwau filoedd o filltiroedd sgwâr yng Nghymru sydd efo pobl yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, ac felly mi fuasent yn dyfynnu'r gwahanol drefniannau yma yn y Gymraeg. Wrth gwrs, rydych chi'n ymwybodol, ac rydych chi wedi amlinellu, fod yr holl waith codeiddio yn golygu gwaith aruthrol yn aildrefnu sut mae Deddfau yn digwydd. Mae'n golygu gwaith aruthrol tu ôl i'r llenni i wireddu hynny, ac wedyn mae yna oblygiadau ynglŷn â staff ac ati, ac rydw i'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn edrych ar hynny.

Wedyn, dau bwynt i orffen: wrth gwrs, rydym ni o dan drefniant llywodraethiant cyfreithiol Lloegr a Chymru ar hyn o bryd—y jurisdiction yna, felly—llywodraethiant cyfreithiol. Ac, wrth gwrs, yn edrych ymlaen, nid ydy hynny, fel rydych chi wedi crybwyll, ac wedi crybwyll o'r blaen, yn fath o drefniant llywodraethiant sy'n gwneud dim synnwyr o gwbl rŵan, gan ein bod ni'n datblygu corff o Ddeddfau unigol yn fan hyn yng Nghymru, ond eto rydym ni o dan lywodraethiant Lloegr a Chymru. Sut ydych chi'n gweld y dyhead yma i gael llywodraethiant cyfreithiol i Gymru'n unig yn mynd ymlaen? Achos os nad ydym ni'n cymryd y camau breision yn fan hyn i wireddu'r dyhead yna, byddwn ni'n parhau efo'r un un hen drefniant llywodraethiant cyfreithiol sydd ohoni, sef wastad Lloegr a Chymru.

Y cwestiwn olaf ydy: yn nhermau hygyrchedd, ac wrth gwrs gyda nifer cynyddol o bobl rŵan, achos toriadau ariannol, yn gorfod cynrychioli eu hunain mewn llys barn, mae beth yr ydych chi'n dweud ynglŷn â bod hygyrchedd i'r Deddfau yn allweddol bwysig, achos rydych chi'n sôn am y dyn yn y stryd rŵan yn gallu deall ble i ffeindio pethau a beth mae'r geiriau yna yn eu golygu. Felly, pa gamau ymarferol ydych chi'n eu cymryd, yn lle jest bod hyn yn mynd i fod yn rhyw fath o drafodaeth uchel-ael rhwng gwahanol gyfreithwyr ac ati? I'r dyn yn y stryd, neu yng nghaeau ein gwlad, pa fath o wahaniaeth, yn ymarferol, ar lawr gwlad, mae cynyddu hygyrchedd yn mynd i'w wneud? Hynny yw, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod yna well hygyrchedd i'n pobl ni o ran cael gafael yn Neddfau ein gwlad?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:45, 4 Rhagfyr 2018

Diolch i Dai Lloyd am y cwestiynau hynny. Ar y cwestiwn cyntaf, ynglŷn â'r iaith, mae'r mesurau sydd yn y Bil yn gallu cael impact positif ar y defnydd o'r Gymraeg yn ein cyfreithiau'n gyffredinol. Hynny yw, wrth godeiddio, mae ailddatgan y gyfraith sydd ohoni eisoes fel cyfraith Cymru. A gan fod cymaint o hynny erbyn hyn yn dal yn y Saesneg yn unig, mae'r ffaith o ailddatgan yn y ddwy iaith yn creu corpws o gyfraith yn y Gymraeg ac yn y Saesneg ar yr un pryd, felly bydd y weithred honno ei hun yn gatalyst ar gyfer y defnydd o'r Gymraeg yn y gyfraith. Ond y cwestiwn roedd e'n ei bwysleisio ynglŷn â'r pwynt bach astrus y gwnaeth e gyfeirio ati, a dweud y gwir, mae'n bwynt gwbl ganolog i hyn: hynny yw, sut ydych chi’n dehongli mewn dwy iaith, pan fo'r ddwy iaith yn awdurdodol yn yr un ffordd? Mae'r sialens hon yn sialens sydd ddim yn benodol i Gymru, wrth gwrs. Mae hynny'n wir hefyd mewn llefydd fel Canada, yr Undeb Ewropeaidd ac ati. Felly, mae amryw o gonfensiynau ynglŷn â sut mae hyn yn gweithio.

Yng ngwaith Comisiwn y Gyfraith, mae pennod lawn ar y testun hwn, os oes gan yr Aelod ddiddordeb mewn edrych arni. Ond dyna'r union fath o drafodaeth rwy'n gobeithio ei chael gyda'r pwyllgor ynglŷn â sut i sicrhau a oes angen gwneud mwy na jest derbyn yr hyn sydd yn y deddfau datganoli ynglŷn â hyn ar hyn o bryd—a oes angen cymryd camau pellach? Felly, mae gyda fi ddiddordeb mewn trafod hynny ymhellach gyda'r pwyllgor. Gwnaeth e gyfeirio at bwysigrwydd adnoddau. Wel, yn amlwg, rwy'n cytuno gydag ef am hynny. A'r pwynt o gael cyfrifoldeb yn y Mesur, yn y Ddeddf, yw sicrhau bod yr adnoddau hynny yn haws i'w canfod yn y dyfodol a bod yr adnoddau yna ar gael dros y tymor hir, sy'n hanfodol, wrth gwrs, i allu gwireddu uchelgais y Bil.

O ran awdurdodaeth ar wahân i Gymru, wel, mae honno yn un o'r pethau y mae'r Comisiwn Cyfiawnder yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r dystiolaeth mae Llywodraeth Cymru wedi'i chynnig i'r comisiwn. Rwyf eisiau pwysleisio bod y mesurau sydd yn y Bil hwn yn gwestiwn annibynnol o'r cwestiwn hwnnw. Mi wnes i gyfeirio at hynny yn fy araith ar y dechrau, er mae'r ffaith eich bod chi'n datgan cyfraith Gymreig yn berthnasol i'r ddadl ehangach ynglŷn â hynny, wrth gwrs.

Ac, yn olaf, gwnaeth e sôn am hygyrchedd. Wel, hygyrchedd sydd wrth wraidd yr holl beth sydd gan y Bil yma mewn golwg, ac mae'r Bil, mewn ffordd, yn gwestiwn o gyfiawnder cymdeithasol ynghyd ag atebolrwydd democrataidd. Rwy'n gwybod, o drafod gyda gwasanaethau cyngor, er enghraifft—gwasanaethau sy'n darparu cyngor i aelodau’r cyhoedd—eu bod yn gweld eglurder a hygyrchedd y gyfraith yn ased yn y tymor hir ar gyfer y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. A maes o law, bydd tasg o'n blaenau ni o sut i gyfathrebu hynny i'r cyhoedd. Ond, gobeithio, wrth edrych ar y dacsonomeg drafft, bod honno'n awgrymu'r math o hygyrchedd sydd gyda ni mewn golwg yn y tymor hir.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:48, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol.

Eitem 5, Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018, ac yna Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Dros Dro) (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Llongau Rhyngwladol) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018. Oni bai bod aelod yn gwrthwynebu—. Oni bai bod unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, rwy'n cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, y bydd y pum cynnig canlynol yr wyf newydd eu darllen yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. Iawn.