4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:45, 4 Rhagfyr 2018

Diolch i Dai Lloyd am y cwestiynau hynny. Ar y cwestiwn cyntaf, ynglŷn â'r iaith, mae'r mesurau sydd yn y Bil yn gallu cael impact positif ar y defnydd o'r Gymraeg yn ein cyfreithiau'n gyffredinol. Hynny yw, wrth godeiddio, mae ailddatgan y gyfraith sydd ohoni eisoes fel cyfraith Cymru. A gan fod cymaint o hynny erbyn hyn yn dal yn y Saesneg yn unig, mae'r ffaith o ailddatgan yn y ddwy iaith yn creu corpws o gyfraith yn y Gymraeg ac yn y Saesneg ar yr un pryd, felly bydd y weithred honno ei hun yn gatalyst ar gyfer y defnydd o'r Gymraeg yn y gyfraith. Ond y cwestiwn roedd e'n ei bwysleisio ynglŷn â'r pwynt bach astrus y gwnaeth e gyfeirio ati, a dweud y gwir, mae'n bwynt gwbl ganolog i hyn: hynny yw, sut ydych chi’n dehongli mewn dwy iaith, pan fo'r ddwy iaith yn awdurdodol yn yr un ffordd? Mae'r sialens hon yn sialens sydd ddim yn benodol i Gymru, wrth gwrs. Mae hynny'n wir hefyd mewn llefydd fel Canada, yr Undeb Ewropeaidd ac ati. Felly, mae amryw o gonfensiynau ynglŷn â sut mae hyn yn gweithio.

Yng ngwaith Comisiwn y Gyfraith, mae pennod lawn ar y testun hwn, os oes gan yr Aelod ddiddordeb mewn edrych arni. Ond dyna'r union fath o drafodaeth rwy'n gobeithio ei chael gyda'r pwyllgor ynglŷn â sut i sicrhau a oes angen gwneud mwy na jest derbyn yr hyn sydd yn y deddfau datganoli ynglŷn â hyn ar hyn o bryd—a oes angen cymryd camau pellach? Felly, mae gyda fi ddiddordeb mewn trafod hynny ymhellach gyda'r pwyllgor. Gwnaeth e gyfeirio at bwysigrwydd adnoddau. Wel, yn amlwg, rwy'n cytuno gydag ef am hynny. A'r pwynt o gael cyfrifoldeb yn y Mesur, yn y Ddeddf, yw sicrhau bod yr adnoddau hynny yn haws i'w canfod yn y dyfodol a bod yr adnoddau yna ar gael dros y tymor hir, sy'n hanfodol, wrth gwrs, i allu gwireddu uchelgais y Bil.

O ran awdurdodaeth ar wahân i Gymru, wel, mae honno yn un o'r pethau y mae'r Comisiwn Cyfiawnder yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r dystiolaeth mae Llywodraeth Cymru wedi'i chynnig i'r comisiwn. Rwyf eisiau pwysleisio bod y mesurau sydd yn y Bil hwn yn gwestiwn annibynnol o'r cwestiwn hwnnw. Mi wnes i gyfeirio at hynny yn fy araith ar y dechrau, er mae'r ffaith eich bod chi'n datgan cyfraith Gymreig yn berthnasol i'r ddadl ehangach ynglŷn â hynny, wrth gwrs.

Ac, yn olaf, gwnaeth e sôn am hygyrchedd. Wel, hygyrchedd sydd wrth wraidd yr holl beth sydd gan y Bil yma mewn golwg, ac mae'r Bil, mewn ffordd, yn gwestiwn o gyfiawnder cymdeithasol ynghyd ag atebolrwydd democrataidd. Rwy'n gwybod, o drafod gyda gwasanaethau cyngor, er enghraifft—gwasanaethau sy'n darparu cyngor i aelodau’r cyhoedd—eu bod yn gweld eglurder a hygyrchedd y gyfraith yn ased yn y tymor hir ar gyfer y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. A maes o law, bydd tasg o'n blaenau ni o sut i gyfathrebu hynny i'r cyhoedd. Ond, gobeithio, wrth edrych ar y dacsonomeg drafft, bod honno'n awgrymu'r math o hygyrchedd sydd gyda ni mewn golwg yn y tymor hir.