4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:40, 4 Rhagfyr 2018

A allaf i groesawu a chefnogi'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo fo yn fan hyn, wrth i'r Cwnsler Cyffredinol gyflwyno'r datganiad yma heddiw ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru)? Wrth gwrs, y bwriad yn y pen draw ydy cryfhau'r ddeddfwrfa yn fan hyn i Gymru. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen fel cenedl. Rydym ni'n cofio Deddfau Hywel Dda nôl yn y gorffennol. Mae David Melding wastad yn fy atgoffa i—rydw i'n credu yr oedd o gwmpas ar y pryd, yn troedio'r ddaear yma rownd y flwyddyn 950—wrth gwrs y cawsom ni Ddeddfau arloesol y pryd hynny, ac, wrth gwrs, hawliau i fenywod am y tro cyntaf, tua 1,000 o flynyddoedd cyn i'r hawliau hynny yn ymddangos mewn unrhyw ddeddfwrfa arall. Felly, mae gyda ni hanes o greu deddfwriaeth arloesol, a dyma beth sydd gyda ni yn fan hyn, i fod yn deg i chi yn fan hyn. Wrth gwrs, mae yna sawl her, a bydd yr heriau hynny yn dod yn amlwg wrth inni graffu ar hyn i gyd rŵan yng Nghyfnod 1 yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ac, wrth gwrs, mae rhan o'r dystiolaeth wedi cyrraedd eisoes i'r pwyllgor, a dyna beth yr oedd Suzy yn ei ddyfynnu.

Ond, wrth gwrs, mae yna her—gan anghofio am Hywel Dda am funud fach nawr—yr her y dyddiau yma ydy bod yna rai Deddfau Lloegr a Chymru, ac wrth gwrs mae yna Ddeddfau newydd rŵan, Cymru yn unig, ac wrth gwrs y ffaith bod yna ddwy iaith. Rydych chi wedi amlinellu'r her yn fan hyn—mae unrhyw beth sydd i fod i ymddangos yma yng Nghymru i fod yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg, ac weithiau rydym ni'n cael yr heriau yna yn amlwg yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, pan nad yw pethau'n ymddangos yn y Gymraeg sydd yn dod o San Steffan wedyn. Buaswn i'n gobeithio bod y math hwn o ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi'n glir, os ydy hyd yn oed San Steffan yn deddfu ar ein rhan ni, fod yna ddisgwyl i'r ddeddfwriaeth hynny fod yn y Gymraeg yn ogystal â bod yn y Saesneg. Wrth gwrs, rydym ni yn wlad ddwyieithog wedi'r cwbl.

Wedi dweud hynny, mae'r pwynt nesaf sydd gyda fi ynglŷn â dehongli. Yn naturiol, rydw i'n croesawu'r trefniant newydd yma, o ran eich bod yn dweud y bydd y Deddfau yn cael eu rhestru—wel, eu codeiddio—fesul maes pwnc. Rydw i'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen ac yn gwneud synnwyr. Yn y mater o ddehongli, yn enwedig pan mae yna ddwy iaith wahanol, fe fyddwch chi'n deall nad ydy pob iaith yn union gyfieithiad o unrhyw iaith arall, ac felly mae yna her, nid jest o ran y geiriau yr ydym ni yn eu defnyddio, ond weithiau fod y synnwyr ychydig bach yn wahanol yn y Saesneg o gymharu â'r Gymraeg. Rydw i'n deall beth rydych chi'n dweud—bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal—ond os ydym ni'n gallu meddwl bod y synnwyr ychydig bach yn wahanol yn Saesneg o gymharu â'r Gymraeg, pa iaith wedyn sy'n cael y flaenoriaeth os ydych chi'n dod i benderfyniad? Rydw i'n gwybod efallai ei fod o'n swnio fel pwynt bach astrus, ond mae o'n bwysig pan ydych chi'n dod i'r mater o ddehongli mewn llys barn, yn enwedig achos, fel rydych chi'n ymwybodol, fod yna erwau filoedd o filltiroedd sgwâr yng Nghymru sydd efo pobl yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, ac felly mi fuasent yn dyfynnu'r gwahanol drefniannau yma yn y Gymraeg. Wrth gwrs, rydych chi'n ymwybodol, ac rydych chi wedi amlinellu, fod yr holl waith codeiddio yn golygu gwaith aruthrol yn aildrefnu sut mae Deddfau yn digwydd. Mae'n golygu gwaith aruthrol tu ôl i'r llenni i wireddu hynny, ac wedyn mae yna oblygiadau ynglŷn â staff ac ati, ac rydw i'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn edrych ar hynny.

Wedyn, dau bwynt i orffen: wrth gwrs, rydym ni o dan drefniant llywodraethiant cyfreithiol Lloegr a Chymru ar hyn o bryd—y jurisdiction yna, felly—llywodraethiant cyfreithiol. Ac, wrth gwrs, yn edrych ymlaen, nid ydy hynny, fel rydych chi wedi crybwyll, ac wedi crybwyll o'r blaen, yn fath o drefniant llywodraethiant sy'n gwneud dim synnwyr o gwbl rŵan, gan ein bod ni'n datblygu corff o Ddeddfau unigol yn fan hyn yng Nghymru, ond eto rydym ni o dan lywodraethiant Lloegr a Chymru. Sut ydych chi'n gweld y dyhead yma i gael llywodraethiant cyfreithiol i Gymru'n unig yn mynd ymlaen? Achos os nad ydym ni'n cymryd y camau breision yn fan hyn i wireddu'r dyhead yna, byddwn ni'n parhau efo'r un un hen drefniant llywodraethiant cyfreithiol sydd ohoni, sef wastad Lloegr a Chymru.

Y cwestiwn olaf ydy: yn nhermau hygyrchedd, ac wrth gwrs gyda nifer cynyddol o bobl rŵan, achos toriadau ariannol, yn gorfod cynrychioli eu hunain mewn llys barn, mae beth yr ydych chi'n dweud ynglŷn â bod hygyrchedd i'r Deddfau yn allweddol bwysig, achos rydych chi'n sôn am y dyn yn y stryd rŵan yn gallu deall ble i ffeindio pethau a beth mae'r geiriau yna yn eu golygu. Felly, pa gamau ymarferol ydych chi'n eu cymryd, yn lle jest bod hyn yn mynd i fod yn rhyw fath o drafodaeth uchel-ael rhwng gwahanol gyfreithwyr ac ati? I'r dyn yn y stryd, neu yng nghaeau ein gwlad, pa fath o wahaniaeth, yn ymarferol, ar lawr gwlad, mae cynyddu hygyrchedd yn mynd i'w wneud? Hynny yw, sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod yna well hygyrchedd i'n pobl ni o ran cael gafael yn Neddfau ein gwlad?