Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r rhain yn rheoliadau pwysig iawn. Dyma'r rheoliadau cyntaf i godi o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad yn 2016. Fel y cyfryw, roedd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn teimlo ei bod yn bwysig edrych arnynt yn fanwl i sicrhau bod gofynion ac ysbryd Deddf yr amgylchedd yn cael eu symud ymlaen. Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y rheoliadau, sydd wedi'i osod ac sy'n hygyrch drwy agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw. Mae ein hadroddiad yn cynnwys saith o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at gael ymateb maes o law.
Roedd Deddf yr amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflawni gostyngiadau o 80 y cant o leiaf mewn allyriadau erbyn 2050. Mae'r rheoliadau yr ydym yn eu hystyried heddiw yn bwysig oherwydd eu bod yn gosod y llwybr tuag at y targed allyriadau erbyn 2050. O fewn y Rheoliadau hyn, ceir fframwaith newydd ar gyfer sut i fynd i'r afael â lefelau allyriadau yng Nghymru. Maent yn cyflwyno cysyniad o gyllidebau carbon pum mlynedd, a fyddant, yn eu tro, yn cyfrannu at gyflawni'r targedau interim 10 mlynedd. Byddant i gyd yn cael eu cefnogi gan gynlluniau cyflawni, a fydd yn nodi'n fanwl y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Bydd, hyn oll, gobeithio, yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd targed 2050.
Yn yr amser sydd ar gael, byddaf yn canolbwyntio ar dair agwedd ar adroddiad y Pwyllgor: targed 2050 ac a yw'n ddigon heriol, y cymhlethdodau ynghylch allyriadau datganoledig a heb eu datganoli, a chynllun cyflawni cyntaf Llywodraeth Cymru.
Targed 2050: mae angen inni edrych ar gytundeb Paris ac adroddiad diweddar gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Ei nod yw cynnal y cynnydd mewn tymheredd byd-eang i fod yn is na 2 radd ganradd dros lefelau cyn-ddiwydiannol ac ymdrechu i'w gyfyngu i 1.5 gradd. Ni fydd targed Llywodraeth Cymru, sef gostyngiad o 80 y cant erbyn 2050, yn ddigon i gyrraedd y nod o radd 2. Os byddwn yn parhau ar y llwybr hwn, ni fydd Cymru yn cyrraedd nodau cytundeb Paris. Fel pwyllgor, roeddem yn siomedig iawn gan hyn. Fodd bynnag, roeddem yn falch o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn barod i ailystyried. Mae gennym bryder sylfaenol am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o bennu ei tharged ar gyfer 2050. Pam mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed na fydd yn ddigon i fodloni amcanion cytundeb Paris? Gwyddom fod angen inni weithredu ar frys, gwyddom fod angen inni ddangos arweinyddiaeth, a gwyddom fod angen inni fod yn uchelgeisiol. Pam gosod targed sy'n gwneud dim un o'r rhain? Yn 2015, roedd allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 19 y cant islaw lefelau 1990; ar draws y DU yn ei chyfanrwydd, roedd gostyngiad o 27 y cant. Nid ydym wedi gwneud cynnydd digon da ar yr agenda hon, ond rhaid inni beidio â cholli tir o hyn ymlaen.
Yr ail faes yr wyf am ymdrin ag ef yw'r mater o allyriadau mewn meysydd datganoledig a heb eu datganoli. Penderfynodd Llywodraeth Cymru gynnwys yr holl allyriadau yng Nghymru yn ei thargedau. Fodd bynnag, mae'r risg o gyfrif yr holl allyriadau yn golygu na fydd yn hawdd iawn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru mewn meysydd datganoledig. Mae'n bosib ein bod yn gwneud cynnydd oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer, a chawsom ein dal yn ôl gan y DU, neu'r ffordd arall. Credaf felly, ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau y gallwn weld yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni mewn gwirionedd, yn hytrach na'r hyn sy'n cael ei gyflawni'n gyffredinol. I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd gynnwys yn ei adroddiad ar y cynnydd ddadansoddiad o leihau allyriadau yn ôl y polisïau datganoledig hynny a'r rhai sydd heb eu datganoli.
Y trydydd maes yr wyf am ymdrin ag ef yw cynllun cyflawni cyntaf Llywodraeth Cymru. Ar gyfer pob cyllideb garbon, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun cyflawni sy'n esbonio sut y bydd yn bodloni'r gyllideb garbon. Rydym yn dal heb weld y cynllun cyflawni cyntaf, ond dywedwyd wrthym gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth. Bydd y cynllun cyflawni yn seiliedig ar ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru, 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030'. Mae'r Pwyllgor wedi clywed pryderon difrifol gan randdeiliaid am yr ymgynghoriad hwn—nad oedd wedi'i ddatblygu'n ddigonol, roedd diffyg manylion, ac roedd diffyg uchelgais gyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym mai ymgynghoriad cynnar oedd hwn, ond, gan y bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi ymhen tri mis, rydym yn bryderus na fydd digon o amser i droi canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw yn gynllun effeithiol. Rydym wedi argymell y dylai'r cynllun cyflawni gyd-fynd ag asesiad cynhwysfawr o gost ac effaith disgwyliedig pob ymyriad. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ymrwymiad y bydd hyn yn digwydd.
Casgliadau—i gloi, mae'r rheoliadau hyn yn gam ymlaen sydd i'w groesawu yn dilyn hynt Deddf yr amgylchedd gan y Cynulliad yn 2016. Bydd y rheoliadau yn darparu llwybr i gyrraedd targed 2050 Llywodraeth Cymru, ond dyna i gyd—fframwaith ydyw. Bydd angen polisïau effeithiol ac uchelgeisiol o hyd i leihau allyriadau ac i wella ein hiechyd cyhoeddus. Gellir dadlau mai hon yw'r her fwyaf y bydd y Llywodraeth Cymru bresennol a Llywodraethau'r dyfodol yn ei hwynebu. Bydd angen iddynt ymateb i'r heriau hyn os ydym i gyflawni'r rhwymedigaethau a'r dyletswyddau i weddill y byd.