Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Yn amlwg, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau a gyflwynir gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Os edrychwch ar sylwadau David Attenborough ddoe yn y gynhadledd hinsawdd a gynhelir gan y Cenhedloedd Unedig yng Ngwlad Pwyl—. Ac mae'n fwy na thebyg yn briodol canolbwyntio efallai ar y cynadleddau hinsawdd sydd wedi digwydd o dro i dro. Yr wythnos nesaf bydd y Prif Weinidog yn rhoi'r gorau i'w ddyletswyddau, ac un o'r pethau cyntaf a gyflawnodd wrth gymryd yr awenau fel Prif Weinidog oedd mynd i Copenhagen gydag Ysgrifennydd yr amgylchedd ar y pryd, Jane Davidson. Rydym wedi gweld graddau amrywiol o fethiant a llwyddiant mewn cynadleddau rhyngwladol. Credaf fod Copenhagen yn cael ei ystyried yn fethiant; ystyriwyd Paris yn llwyddiant. A chredaf ein bod i gyd yn aros i weld beth fydd y canlyniadau yng Ngwlad Pwyl dros y dyddiau nesaf i weld a ydym yn symud rywfaint ymhellach ymlaen i fodloni'r hyn sy'n ddyletswydd foesol ar wledydd fel Cymru, y Deyrnas Unedig, yn enwedig yn y byd datblygedig, i wneud y defnydd gorau o dechnoleg newydd a lleihau ein defnydd o garbon, yn enwedig pan edrychwch ar broffwydoliaethau a allent, o bosibl, erbyn canol y ganrif hon, gael goblygiadau dramatig i bobl mewn ardaloedd tir isel nid yn unig yn Ewrop ond ar draws y byd, a gwledydd yn diflannu.
Ategaf yn llwyr yr adroddiad hwn y mae'r pwyllgor ar newid hinsawdd wedi'i grynhoi, yn enwedig y ffordd y cyflwynodd Cadeirydd y pwyllgor ei gasgliadau. Mae'n werth nodi, yn amlwg, fod yr adroddiad yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru fethu â chyrraedd ei tharged 2020. Ac, yn aml iawn, mae'n hawdd pennu rhai o'r targedau hyn sydd ymhell yn y dyfodol, gan feddwl y bydd rhywun arall yn eu cyflawni. Mae'n ffaith bod angen inni i gyd wneud pob ymdrech o safbwynt y gwrthbleidiau, a rhoi pwysau ar y Llywodraeth i fod yn uchelgeisiol yn y ffordd y mae'n dymuno cyrraedd y targedau hyn. Ond hefyd mae angen inni weithio gyda busnesau a gweithio gyda chymunedau ac unigolion i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn chwarae ein rhan ac nad yw pobl yn teimlo fel y gwelir yn Ffrainc nawr, lle mae gweithredu amgylcheddol wedi ennyn aflonyddwch torfol oherwydd nad yw'r bobl wedi gallu cefnogi'r cynigion a gyflawnwyd gan Lywodraeth Ffrainc.
Felly byddwn yn parhau i fonitro hyn. Byddwn yn parhau i roi cymorth lle gall y cymorth hwnnw helpu i hyrwyddo achos gwelliant amgylcheddol yng Nghymru. Ond credaf fod y drafodaeth o amgylch y bwrdd yr wythnos diwethaf a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn seinfwrdd da ar gyfer llawer o'r sefydliadau a ddaeth i mewn. Ac os gallwn lunio llwybr sy'n dangos bod hon mewn gwirionedd yn ffordd broffidiol a buddiol i fusnesau fabwysiadu technoleg newydd i leihau eu cynnyrch carbon, ac, yn benodol, i unigolion ganolbwyntio ar beth yw eu cynnyrch fel unigolion, gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr. Ond mae gennyf air o rybudd: pan edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Ffrainc dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae angen inni gynnwys y bobl gyda ni wrth gyflwyno'r mesurau hyn, yn hytrach na chael rhyw fath o ymarfer academaidd sy'n digwydd ar bapur ond sydd mewn realiti yn anodd iawn, iawn ei gyflawni. Ac rwy'n edrych ymlaen, fel y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ymlaen, i ystyried a chraffu ar y cynllun cyflawni, y mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, wedi ymrwymo i'w gyflwyno ym mis Mawrth y flwyddyn nesa. Byddai hwnnw'n llwybr critigol i wneud yn siŵr y gallwn ac y byddwn yn cyflawni'r hyn sydd yn y rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw a'r adroddiad a gyflwynwyd gennym fel Pwyllgor.