– Senedd Cymru am 5:49 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig y cynigion. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM6888 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 2018.
Cynnig NDM6885 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Cynnig NDM6884 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Cynnig NDM6886 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2018.
Cynnig NDM6887 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 06 Tachwedd 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Newid yn yr hinsawdd yw un o'r heriau byd-eang mwyaf sy'n ein hwynebu. Y rheoliadau a roddwyd gerbron y Cynulliad i'w hystyried heddiw yw rheoliadau newid yn yr hinsawdd Cymru 2018. Maent yn set o bum rheoliad a fydd yn sefydlu'r fframwaith lleihau allyriadau a'r llwybr tuag at darged 2050 a gynhwysir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Cyflwynir y rheoliadau hyn dan bwerau a gynhwysir yn y Ddeddf ac maent yn dangos i'r byd ein bod yn chwarae ein rhan yn yr her fyd-eang hon.
Sefydlodd y Ddeddf y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd fel ein corff cynghori annibynnol, ac, wrth ddatblygu'r rheoliadau hyn, rydym wedi cael ac wedi derbyn cyngor gan y pwyllgor. Wrth baratoi ei gyngor, cynhaliodd y Pwyllgor ddwy alwad am dystiolaeth a chynhaliwyd digwyddiadau ar y cyd a fynychwyd gan y rhanddeiliaid o nifer o wahanol sectorau, gan gynnwys diwydiant, busnes, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, sefydliadau academaidd a chymdeithas sifil. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor a rhanddeiliaid am eu cyfraniad i'r rheoliadau hyn.
Mae'r rheoliadau targedau allyriadau dros dro yn creu targedau ar gyfer 2020 o 27 y cant, 2030 ar 45 y cant, a 2040 ar 67 y cant. Pennodd y rheoliadau cyllidebau carbon ein dwy gyllideb garbon gyntaf ar gyfer 2016 i 2020 ar gyfartaledd o 23 y cant o ostyngiad, a 2021 i 2025 ar gyfartaledd o 33 y cant o ostyngiad. Gyda'i gilydd, mae'r targedau a'r cyllidebau yn mapio ein llwybr datgarboneiddio tuag at 2050. Oherwydd cyfansoddiad ein cymunedau, mae ein llwybr yn wahanol i eraill. Yr allwedd yw sicrhau ein bod yn trawsnewid i economi a chymdeithas garbon isel ar y raddfa a'r gyfradd gywir i sicrhau y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y buddion i Gymru.
O ran ein fframwaith cyfrifyddu, rydym wedi penderfynu mabwysiadu dull gwahanol i Lywodraeth y DU a byddwn yn cyfrifo ein holl allyriadau yng Nghymru heb unrhyw broses adrodd gymhleth, gan y credwn mai dyma'r ffordd fwyaf tryloyw. Mae'r rheoliadau awyrennau a llongau rhyngwladol yn cynnwys cyfran Cymru o'r allyriadau hyn yng nghyfrif allyriadau net Cymru. Mae'r rheoliadau cyfrifyddu carbon yn diffinio pa fath o uned garbon neu gredyd gwrthbwyso y gellir eu defnyddio yng nghyfrif allyriadau net Cymru a sut y cânt eu gweinyddu. Rydym wedi mynd am y rhai a ystyrir yn gadarn ac a gydnabyddir gan ganllawiau adrodd rhyngwladol.
Er bod ein ffocws ar ein gweithredu domestig, mae'r rheoliadau terfyn credyd yn gosod terfyn ar faint o unedau carbon neu gredydau gwrthbwyso y gellir eu defnyddio i ddiwallu'r gyllideb garbon gyntaf. Fel y cydnabyddir gan y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd, mae allyriadau Cymru yn agored i newidiadau blynyddol oherwydd goruchafiaeth ein sector diwydiannol. Mae'r terfyn o 10 y cant yn darparu digon o hyblygrwydd. Dirprwy Lywydd, cymeradwyaf y rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges?
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r rhain yn rheoliadau pwysig iawn. Dyma'r rheoliadau cyntaf i godi o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad yn 2016. Fel y cyfryw, roedd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn teimlo ei bod yn bwysig edrych arnynt yn fanwl i sicrhau bod gofynion ac ysbryd Deddf yr amgylchedd yn cael eu symud ymlaen. Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y rheoliadau, sydd wedi'i osod ac sy'n hygyrch drwy agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw. Mae ein hadroddiad yn cynnwys saith o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at gael ymateb maes o law.
Roedd Deddf yr amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflawni gostyngiadau o 80 y cant o leiaf mewn allyriadau erbyn 2050. Mae'r rheoliadau yr ydym yn eu hystyried heddiw yn bwysig oherwydd eu bod yn gosod y llwybr tuag at y targed allyriadau erbyn 2050. O fewn y Rheoliadau hyn, ceir fframwaith newydd ar gyfer sut i fynd i'r afael â lefelau allyriadau yng Nghymru. Maent yn cyflwyno cysyniad o gyllidebau carbon pum mlynedd, a fyddant, yn eu tro, yn cyfrannu at gyflawni'r targedau interim 10 mlynedd. Byddant i gyd yn cael eu cefnogi gan gynlluniau cyflawni, a fydd yn nodi'n fanwl y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Bydd, hyn oll, gobeithio, yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd targed 2050.
Yn yr amser sydd ar gael, byddaf yn canolbwyntio ar dair agwedd ar adroddiad y Pwyllgor: targed 2050 ac a yw'n ddigon heriol, y cymhlethdodau ynghylch allyriadau datganoledig a heb eu datganoli, a chynllun cyflawni cyntaf Llywodraeth Cymru.
Targed 2050: mae angen inni edrych ar gytundeb Paris ac adroddiad diweddar gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Ei nod yw cynnal y cynnydd mewn tymheredd byd-eang i fod yn is na 2 radd ganradd dros lefelau cyn-ddiwydiannol ac ymdrechu i'w gyfyngu i 1.5 gradd. Ni fydd targed Llywodraeth Cymru, sef gostyngiad o 80 y cant erbyn 2050, yn ddigon i gyrraedd y nod o radd 2. Os byddwn yn parhau ar y llwybr hwn, ni fydd Cymru yn cyrraedd nodau cytundeb Paris. Fel pwyllgor, roeddem yn siomedig iawn gan hyn. Fodd bynnag, roeddem yn falch o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn barod i ailystyried. Mae gennym bryder sylfaenol am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o bennu ei tharged ar gyfer 2050. Pam mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed na fydd yn ddigon i fodloni amcanion cytundeb Paris? Gwyddom fod angen inni weithredu ar frys, gwyddom fod angen inni ddangos arweinyddiaeth, a gwyddom fod angen inni fod yn uchelgeisiol. Pam gosod targed sy'n gwneud dim un o'r rhain? Yn 2015, roedd allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 19 y cant islaw lefelau 1990; ar draws y DU yn ei chyfanrwydd, roedd gostyngiad o 27 y cant. Nid ydym wedi gwneud cynnydd digon da ar yr agenda hon, ond rhaid inni beidio â cholli tir o hyn ymlaen.
Yr ail faes yr wyf am ymdrin ag ef yw'r mater o allyriadau mewn meysydd datganoledig a heb eu datganoli. Penderfynodd Llywodraeth Cymru gynnwys yr holl allyriadau yng Nghymru yn ei thargedau. Fodd bynnag, mae'r risg o gyfrif yr holl allyriadau yn golygu na fydd yn hawdd iawn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru mewn meysydd datganoledig. Mae'n bosib ein bod yn gwneud cynnydd oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer, a chawsom ein dal yn ôl gan y DU, neu'r ffordd arall. Credaf felly, ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau y gallwn weld yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni mewn gwirionedd, yn hytrach na'r hyn sy'n cael ei gyflawni'n gyffredinol. I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd gynnwys yn ei adroddiad ar y cynnydd ddadansoddiad o leihau allyriadau yn ôl y polisïau datganoledig hynny a'r rhai sydd heb eu datganoli.
Y trydydd maes yr wyf am ymdrin ag ef yw cynllun cyflawni cyntaf Llywodraeth Cymru. Ar gyfer pob cyllideb garbon, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun cyflawni sy'n esbonio sut y bydd yn bodloni'r gyllideb garbon. Rydym yn dal heb weld y cynllun cyflawni cyntaf, ond dywedwyd wrthym gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth. Bydd y cynllun cyflawni yn seiliedig ar ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru, 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030'. Mae'r Pwyllgor wedi clywed pryderon difrifol gan randdeiliaid am yr ymgynghoriad hwn—nad oedd wedi'i ddatblygu'n ddigonol, roedd diffyg manylion, ac roedd diffyg uchelgais gyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym mai ymgynghoriad cynnar oedd hwn, ond, gan y bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi ymhen tri mis, rydym yn bryderus na fydd digon o amser i droi canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw yn gynllun effeithiol. Rydym wedi argymell y dylai'r cynllun cyflawni gyd-fynd ag asesiad cynhwysfawr o gost ac effaith disgwyliedig pob ymyriad. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ymrwymiad y bydd hyn yn digwydd.
Casgliadau—i gloi, mae'r rheoliadau hyn yn gam ymlaen sydd i'w groesawu yn dilyn hynt Deddf yr amgylchedd gan y Cynulliad yn 2016. Bydd y rheoliadau yn darparu llwybr i gyrraedd targed 2050 Llywodraeth Cymru, ond dyna i gyd—fframwaith ydyw. Bydd angen polisïau effeithiol ac uchelgeisiol o hyd i leihau allyriadau ac i wella ein hiechyd cyhoeddus. Gellir dadlau mai hon yw'r her fwyaf y bydd y Llywodraeth Cymru bresennol a Llywodraethau'r dyfodol yn ei hwynebu. Bydd angen iddynt ymateb i'r heriau hyn os ydym i gyflawni'r rhwymedigaethau a'r dyletswyddau i weddill y byd.
Yn amlwg, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau a gyflwynir gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Os edrychwch ar sylwadau David Attenborough ddoe yn y gynhadledd hinsawdd a gynhelir gan y Cenhedloedd Unedig yng Ngwlad Pwyl—. Ac mae'n fwy na thebyg yn briodol canolbwyntio efallai ar y cynadleddau hinsawdd sydd wedi digwydd o dro i dro. Yr wythnos nesaf bydd y Prif Weinidog yn rhoi'r gorau i'w ddyletswyddau, ac un o'r pethau cyntaf a gyflawnodd wrth gymryd yr awenau fel Prif Weinidog oedd mynd i Copenhagen gydag Ysgrifennydd yr amgylchedd ar y pryd, Jane Davidson. Rydym wedi gweld graddau amrywiol o fethiant a llwyddiant mewn cynadleddau rhyngwladol. Credaf fod Copenhagen yn cael ei ystyried yn fethiant; ystyriwyd Paris yn llwyddiant. A chredaf ein bod i gyd yn aros i weld beth fydd y canlyniadau yng Ngwlad Pwyl dros y dyddiau nesaf i weld a ydym yn symud rywfaint ymhellach ymlaen i fodloni'r hyn sy'n ddyletswydd foesol ar wledydd fel Cymru, y Deyrnas Unedig, yn enwedig yn y byd datblygedig, i wneud y defnydd gorau o dechnoleg newydd a lleihau ein defnydd o garbon, yn enwedig pan edrychwch ar broffwydoliaethau a allent, o bosibl, erbyn canol y ganrif hon, gael goblygiadau dramatig i bobl mewn ardaloedd tir isel nid yn unig yn Ewrop ond ar draws y byd, a gwledydd yn diflannu.
Ategaf yn llwyr yr adroddiad hwn y mae'r pwyllgor ar newid hinsawdd wedi'i grynhoi, yn enwedig y ffordd y cyflwynodd Cadeirydd y pwyllgor ei gasgliadau. Mae'n werth nodi, yn amlwg, fod yr adroddiad yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru fethu â chyrraedd ei tharged 2020. Ac, yn aml iawn, mae'n hawdd pennu rhai o'r targedau hyn sydd ymhell yn y dyfodol, gan feddwl y bydd rhywun arall yn eu cyflawni. Mae'n ffaith bod angen inni i gyd wneud pob ymdrech o safbwynt y gwrthbleidiau, a rhoi pwysau ar y Llywodraeth i fod yn uchelgeisiol yn y ffordd y mae'n dymuno cyrraedd y targedau hyn. Ond hefyd mae angen inni weithio gyda busnesau a gweithio gyda chymunedau ac unigolion i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn chwarae ein rhan ac nad yw pobl yn teimlo fel y gwelir yn Ffrainc nawr, lle mae gweithredu amgylcheddol wedi ennyn aflonyddwch torfol oherwydd nad yw'r bobl wedi gallu cefnogi'r cynigion a gyflawnwyd gan Lywodraeth Ffrainc.
Felly byddwn yn parhau i fonitro hyn. Byddwn yn parhau i roi cymorth lle gall y cymorth hwnnw helpu i hyrwyddo achos gwelliant amgylcheddol yng Nghymru. Ond credaf fod y drafodaeth o amgylch y bwrdd yr wythnos diwethaf a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn seinfwrdd da ar gyfer llawer o'r sefydliadau a ddaeth i mewn. Ac os gallwn lunio llwybr sy'n dangos bod hon mewn gwirionedd yn ffordd broffidiol a buddiol i fusnesau fabwysiadu technoleg newydd i leihau eu cynnyrch carbon, ac, yn benodol, i unigolion ganolbwyntio ar beth yw eu cynnyrch fel unigolion, gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr. Ond mae gennyf air o rybudd: pan edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Ffrainc dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae angen inni gynnwys y bobl gyda ni wrth gyflwyno'r mesurau hyn, yn hytrach na chael rhyw fath o ymarfer academaidd sy'n digwydd ar bapur ond sydd mewn realiti yn anodd iawn, iawn ei gyflawni. Ac rwy'n edrych ymlaen, fel y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ymlaen, i ystyried a chraffu ar y cynllun cyflawni, y mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, wedi ymrwymo i'w gyflwyno ym mis Mawrth y flwyddyn nesa. Byddai hwnnw'n llwybr critigol i wneud yn siŵr y gallwn ac y byddwn yn cyflawni'r hyn sydd yn y rheoliadau yr ydym yn eu trafod heddiw a'r adroddiad a gyflwynwyd gennym fel Pwyllgor.
Rydw i eisiau mynd yn ôl i 2016 pan basiwyd y Ddeddf amgylchedd, wrth gwrs, o le ddaeth yr angen am y rheoliadau yma. Mae’n rhaid dweud roedd y targed hirdymor o dorri allyriadau 80 y cant erbyn 2050 wedi dyddio bryd hynny, pan basiwyd y Ddeddf amgylchedd yn 2016, oherwydd y sail oedd Deddf hinsawdd y Deyrnas Unedig sydd newydd ddathlu ei degfed pen-blwydd, ac ni fu unrhyw ymchwil newydd gogyfer y ddeddfwriaeth yma yng Nghymru yn 2016. Mi gydnabuwyd hynny ar y pryd, ac rwy’n gwybod oherwydd mi wnes i gynnig gwelliannau fel llefarydd Plaid Cymru a oedd yn craffu ar y Bil yma, er mwyn ceisio cryfhau'r targedau a newid y dyddiad hwnnw, er mwyn adlewyrchu'r brys a’r angen i weithredu'n gynt, fel sydd nawr wedi dod yn amlwg eto yn adroddiad diweddaraf yr IPCC. Felly, o ganlyniad, mae’r cyllidebau carbon, y llwybr tuag at 2050 a’r targedau ar gyfer 2020, 2030 a 2040, i gyd ar y trywydd anghywir. Mae’r ffaith bod y targed ar gyfer 2020 wedi gostwng o 40 y cant i 27 y cant yn dangos diffyg gweithredu, efallai, yn hynny o beth, ac yn dangos pam mae angen edrych ar hyn eto.
Nawr, mae’r Ddeddf yn dweud bod cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i gyflwyno rheoliadau sydd wedi ystyried cytundebau rhyngwladol, fel Paris wrth gwrs, a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, yn ogystal â’n dyletswyddau i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn rhyngwladol—sy’n dod o dan un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nid oes dim un o’r rhain wedi’u hystyried yn drwyadl yng nghyngor ac argymhellion Pwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig. Ond, eto, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion annigonol yma yn llwyr.
Nawr, mae adroddiad yr IPCC ym mis Hydref yn rhybudd clir mai dim ond 12 mlynedd sydd gyda ni i osgoi newid hinsawdd trychinebus. Ond y targed sy’n cael ei gynnig fan hyn ar gyfer cyfraniad Cymru mewn 12 mlynedd, erbyn 2030, yw 45 y cant o doriad yn unig. Mi ddylai’r llwybr tuag at ddad-garboneiddio fod ar trajectory gwahanol, yn fwy serth—hynny yw, bod toriadau mwy yn digwydd yn fwy buan ac nid mor raddol ag y mae’r Llywodraeth yn ei fwriadu. Oes, mae yna gost i wneud hynny, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny ac mae angen bod yn sensitif i hynny, ond mi fydd y gost o orfod gwneud mwy yn y dyfodol yn llawer uwch.
Wrth gwrs, fe wnaed y gwaith paratoi ar gyfer y rheoliadau yma cyn gweld adroddiad yr IPCC, ac yn sgil hyn mae angen, yn fy marn i, ymrwymiad clir gan y Llywodraeth y byddan nhw’n cyflwyno rheoliadau wedi’u diweddaru yn dilyn nid yn unig cyngor sydd wedi’i gomisiynu gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig, ond hefyd yn dilyn asesiad o beth yw cyfran deg Cymru i’r byd, gan gofio, wrth gwrs, ein cyfrifoldeb rhyngwladol a’n cyfraniad hanesyddol at newid hinsawdd fel un o’r gwledydd cyntaf i ddiwydiannu. Rydw i felly yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet yn y ddadl yma heddiw i gadarnhau y cawn ni ymrwymiad sicr y bydd y Llywodraeth yn diweddaru’r targedau yma y flwyddyn nesaf, yng ngoleuni'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael.
Rydw i eisiau cyffwrdd hefyd ar y broses. Mae’r broses a’r diffyg cyfle sydd wedi bod i graffu go iawn ar y cynigion yma yn rhywbeth sy’n annerbyniol yn fy marn i. Nid oes dim ymgynghori wedi bod ar y rheoliadau penodol yma a dim cyfle i’r pwyllgor newid hinsawdd i fod yn rhan o’u datblygiad nhw. Ugain diwrnod rydym ni wedi’u cael o dan Reolau Sefydlog i edrych ar y rhain—20 diwrnod i edrych ar dargedau a fydd gyda ni am bron 40 mlynedd, neu 30 mlynedd beth bynnag. Mi ddylai fod yna reoliadau drafft wedi’u gosod er mwyn i ni gael y drafodaeth ystyrlon yna. Ond yr hyn sydd yn digwydd i bob pwrpas yw bod y Llywodraeth yn gorfodi’r Cynulliad yma i dderbyn y rheoliadau fel ag y maen nhw gan fod yn rhaid eu pasio nhw yn ôl y Ddeddf cyn diwedd y flwyddyn, a’u pasio nhw hefyd cyn gweld y cynllun cyflawni dad-garboneiddio na fydd ar gael, fel rŷm ni wedi clywed, tan fis Mawrth. Ond mae disgwyl i ni benderfynu bod y targedau yma’n addas heb fod wedi deall sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu i’w cyflawni nhw. Mae yna eironi hefyd, rydw i'n meddwl, bod y Llywodraeth yn dod atom ni i ofyn inni basio'r rheoliadau yma ar yr union ddydd yr oedd yna gannoedd o bobl ar risiau'r Cynulliad yn protestio yn erbyn y difrod amgylcheddol a'r effaith o safbwynt allyriadau carbon y bydd y M4 newydd yn ei gael o gwmpas Casnewydd.
I gloi, felly, mae Plaid Cymru yn barod, ond o dan brotest, i bleidleisio o blaid y rheoliadau yma er mwyn osgoi sefyllfa lle mae'r Llywodraeth yn torri Deddf yr amgylchedd, ond dim ond ar sail ymrwymiad clir gan yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd yna dargedau mwy uchelgeisiol yn cael eu mabwysiadu o fewn y flwyddyn.
Cytunaf â llawer o'r hyn y mae Llŷr yn ei ddweud, ein bod i ryw raddau yn cael ein gwthio i wneud hyn. Ac rwy'n credu, yng ngoleuni araith bwerus David Attenborough, fel y crybwyllwyd eisoes gan Andrew R.T. Davies, mae'r hyn a ddywedodd yn Katowice mewn gwirionedd yn gorfodi pob un ohonom i ystyried yn fanwl yr hyn y dylem fod yn ei wneud a'r hyn nad ydym mewn gwirionedd yn ei gyflawni. Rydym newydd gael trafodaeth am Brexit a phwysigrwydd hynny i genedlaethau'r dyfodol. Nid yw hynny'n ddim byd o'i gymharu â'r ddadl hon. Oni newidiwn ein ffyrdd, ni fydd byd i'n plant a'n hwyrion ei etifeddu. Fel y dywedodd Attenborough yn Katowice, mae cwymp ein gwareiddiadau a difodiant llawer o'r byd naturiol ar y gorwel os nad ydym yn gweithredu.
Mae'r rhain yn eiriau cryf iawn, ac er fy mod yn cytuno bod yn rhaid inni gynnwys y bobl, nid yw'n galonogol gweld safbwynt boblyddol Canghellor y Trysorlys yn methu flwyddyn ar ôl blwyddyn â chodi ardoll newid hinsawdd ar y dreth ar danwydd er mwyn adlewyrchu faint o lygredd a achosir gan yrru.
Felly, a yw'r rheoliadau hyn yn cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed gennym ym Mharis yn 2015? Mae'n debyg nad ydynt, ond maen nhw'n gam i'r cyfeiriad cywir. Dywedir wrthym gan yr arbenigwyr ein bod ar hyn o bryd yn anelu at gynhesu trychinebus o 3 y cant. Felly mae'n ddyletswydd ar y byd diwydiannol, sydd wedi elwa ar yr holl ddefnydd hwn o adnoddau'r byd, i wneud mwy na gwledydd llai datblygedig yn y byd.
Nodaf fod Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd wedi gweld bod cynnydd yn parhau i fod ymhell o gyrraedd targed presennol Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau ar lefel o 40 y cant islaw lefelau 1990 erbyn 2020, ymhen dwy flynedd. Credaf fod angen inni edrych o ddifrif ar statws Aberddawan, yr orsaf bŵer glo, oherwydd cyflwynodd 51 y cant o allyriadau pŵer Cymru a 14 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru yn 2015. Felly, rhaid bod buddugoliaeth o hynny. Ymddengys i mi yn fuddugoliaeth hawdd. Wrth gwrs mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym ffyrdd amgen o gynhyrchu trydan, ond yn amlwg nid glo yw hynny. Does dim diben dweud, fel y maent wedi'i wneud yng Ngwlad Pwyl, 'O, dyna beth mae swyddi pobl yn dibynnu arno'. Rhaid inni newid y swyddi a defnyddio technoleg i gael pobl i wneud pethau gwahanol. Felly, byddwn yn awgrymu i'r Llywodraeth bod angen inni gau Aberddawan ymhell cyn 2025, a byddai hynny'n ein cael yn ôl ar y trywydd iawn, oherwydd mae'n glir nad ydym yn y lle mae angen inni fod.
Hoffwn weld adolygiad ar unwaith o Ran L o'r rheoliadau adeiladu. Gan gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies ynglŷn â chynnwys y bobl, dydyn ni byth yn mynd i allu cynnwys yr adeiladwyr tai torfol gyda ni. Maen nhw bob amser yn mynd i fod eisiau parhau i gynhyrchu'r un hen dai nad ydynt yn effeithlon o ran ynni nes inni ddweud wrthynt am beidio, a dyna swyddogaeth y Llywodraeth—sicrhau bod pobl yn cyflawni drwy ddefnyddio adnoddau'r byd yn y ffordd fwyaf effeithiol. Gwyddom eisoes fod y dechnoleg ar gael i sicrhau bod gennym dai di-garbon, a dyna'r hyn sydd ei eisiau a'i angen ar bobl, oherwydd, ar hyn o bryd maen nhw'n gwario llawer gormod o'u harian haeddiannol ar geisio gwresogi eu cartrefi mewn adeiladau sy'n annigonol.
Mae allyriadau amaethyddiaeth wedi gostwng 15 y cant ers 1990, ond maent wedi cynyddu ychydig ers 2009 ac mae angen inni wneud rhywbeth am hynny, hefyd. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r ffaith bod dalfeydd defnydd tir wedi gostwng gan fod mwy o adeiladu'n digwydd ar y tir, ond hefyd mae llai o blannu coed yn digwydd. Mae angen inni ddechrau edrych ar y bwyd yr ydym yn ei fwyta a sut yr ydym yn ei gynhyrchu. Os oes gennym ffermio ffatri dwys, mae'n cynhyrchu llawer mwy o allyriadau carbon na phe bai gennym ffermio llai dwys. Mae angen edrych ar y pethau hyn.
Rwy'n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am fod yn onest a chyfaddef, pan heriwyd y Llywodraeth gan ddadansoddwr newid hinsawdd, fod yr olwg ar wyneb pob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog yn un o arswyd llwyr. Nid gwaith y Llywodraeth yn unig yw hyn; gwaith pob un ohonom yw newid ein ffyrdd. Ond rhaid i'r Llywodraeth arwain y ffordd, ac awgrymaf fod angen inni weithio tuag at 100 y cant erbyn 2050, ac y byddwn, gobeithio, yn dod yn ôl gyda rhai targedau mwy heriol, oherwydd ni chredaf fod y rhain yn ddigon heriol.
Er bod pennu targedau allyriadau anodd yn swnio'n ganmoladwy iawn, y gwir anffodus yw bod allyriadau carbon y DU yn cael eu boddi gan y rhai sy'n deillio o wledydd fel yr Almaen, Ffrainc, Awstralia, yr Unol Daleithiau ac, wrth gwrs, Tsieina. Dim ond ar lefel fyd-eang y gellir cymryd camau i leihau allyriadau byd-eang yn effeithiol a rhaid iddynt gynnwys deddfwriaeth rwymol sy'n cyfyngu'n llym ar effaith lygrol y gwledydd hyn sy'n llygru ar raddfa fawr.
Cyfeiriwyd yn gynharach at Ddeddf newid hinsawdd y DU 2008 Amcangyfrifir bod cyfanswm cost y ddeddfwriaeth hon ar draws y DU yn ei chyfanrwydd yn gyfanswm anhygoel o £720 biliwn dros y 40 mlynedd nesaf. Byddai UKIP yn dileu'r cyfreithiau newid hinsawdd hyn, oherwydd mae pob aelwyd ym Mhrydain mewn gwirionedd yn talu dros £300 y flwyddyn i dorri allyriadau carbon, sy'n afrealistig fel amcan mewn unrhyw achos. Maen nhw hefyd yn—
Na, rwyf bron â dod i ben, ond diolch ichi.
Maen nhw hefyd mewn gwirionedd yn dreth atchweliadol, a fydd yn taro'r tlawd galetaf, felly ni fyddwn yn cefnogi cynigion y Llywodraeth heddiw.
Diolch i chi, a gaf i alw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl. Nododd y panel rhynglywodraethol ar newid yn yr hinsawdd yn ddiweddar y gallai cyfraddau cynhesu presennol weld y cynnydd mewn tymheredd byd-eang cyfartalog yn taro 1.5 gradd ganradd mor fuan â 2030. Yn dilyn yr adroddiad hwnnw, ysgrifennais at yr Aelodau i dynnu sylw at ein cais ar y cyd i gael cyngor gan y pwyllgor ar newid hinsawdd ynglŷn â sut y gall cytundeb Paris a'r dystiolaeth yn adroddiad yr IPCC effeithio ar ein targedau lleihau allyriadau hirdymor. Fodd bynnag, credaf mai'r hyn a ddaeth yn glir iawn o'r adroddiad oedd yr angen am gamau gweithredu brys nawr. Mae'r rheoliadau yn gosod y fframwaith ar gyfer camau gweithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac eisoes rydym wedi cyflawni lleihad yn yr allyriadau o wastraff, o adeiladau ac o ddiwydiant, ond, wrth gwrs, derbyniaf yn llwyr fod angen gwneud mwy.
Ym mis Mawrth, byddwn yn cyhoeddi ein cynllun ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf i ni gyrraedd targed 2020. Byddwn yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd, ond hefyd, yn bwysig, yr hyn y bydd disgwyl i eraill megis Llywodraeth y DU eu cymryd, yn enwedig o gofio bod bron 60 y cant o allyriadau y tu allan i'n rheolaeth ni. Rydym yn gwybod bod ein proffil allyriadau yn wahanol iawn i'r DU yn ei chyfanrwydd oherwydd ein gorffennol ac mae hyn yn gwneud ein hallyriadau yn fwy ansefydlog. Y llwybr datgarboneiddio a sefydlwyd gan y rheoliadau hyn yw'r cydbwysedd gorau rhwng uchelgais a bod yn gyraeddadwy.
Os caf i droi at y pwyntiau penodol a godwyd gan yr Aelodau heddiw, mae angen swyddi o ansawdd da ar bobl Cymru sy'n gydnerth ar gyfer economi sy'n newid. Hefyd mae pobl Cymru yn haeddu byw mewn amgylchedd glân ac iach, ac mae'n ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd cywir. Credaf fod Andrew R.T. Davies wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â chynnwys y bobl a hefyd am inni oll chwarae ein rhan. Dywedodd Jenny Rathbone, pan oeddwn yn cadeirio'r grŵp gweinidogol cyntaf ar ddatgarboneiddio—nid wyf yn siŵr a ddefnyddiwyd y gair 'arswyd', ond roedd pawb yn sylweddoli, ar draws y Llywodraeth, fod yn rhaid inni i gyd chwarae ein rhan.
Cododd Mike Hedges, fel Cadeirydd y Pwyllgor, rai pwyntiau pwysig iawn. Rwy'n gwybod, Mike, eich bod yn credu nad yw'r targedau efallai yn ddigon uchelgeisiol. Rhaid imi ddweud nad yw targed o 80 y cant erbyn 2050 o fewn cwmpas y rheoliadau hyn heddiw, ond nid yw'r fframwaith sydd gennym yn ein hatal rhag mynd ymhellach eto. Awgrymodd y CCC fod gostyngiad o 80 y cant ar gyfer y DU yn awgrymu gostyngiad o 76 y cant yng Nghymru. Felly, drwy fabwysiadu targed 2050 o 80 y cant o leiaf, credaf y gellid dadlau ein bod yn gwneud mwy o gyfraniad yn gymesurol at gytundeb Paris na'r DU yn ei chyfanrwydd. Ond wrth gwrs, mae angen inni barhau i adolygu hyn.
Soniodd Llyr ei bod yn anodd cytuno ar dargedau a chyllidebau cyn gweld y cynllun. Ar draws y DU, dyna'r broses arferol. Rydych yn pennu'r targed neu'r gyllideb garbon yn gyntaf, ac wedyn yn cyhoeddi cynllun i ddiwallu'r gyllideb. Codasoch y pwynt ynghylch ailedrych ar y targedau. Ni allaf ailedrych ar y targed ar gyfer cyllideb 2020 oherwydd byddai hynny'n mynd erbyn proses briodol y Ddeddf oherwydd na fyddai'n rhoi digon o amser inni gael y dadansoddiad cadarn angenrheidiol i fod yn sail i'n penderfyniad. Ond ymrwymaf yn llwyr i edrych eto ar y targed ar gyfer ail gyllideb ac yn sicr pan fyddwn yn pennu ein trydedd gyllideb garbon, a fydd ar ddiwedd y gyllideb garbon gyntaf yn 2020. Credaf y byddwn wedyn yn gallu cael rhywfaint o ddadansoddiad gwir briodol a manwl, a byddai hynny unwaith eto yn cysylltu â llwybrau ehangach y DU.
Roedd Mike Hedges hefyd yn codi'r cwestiwn ynghylch peidio â rhannu cynllun cyflenwi carbon isel, ond cytunais i'w rannu gyda'r Pwyllgor ychydig ddyddiau cyn ei gyhoeddi fis Mawrth nesaf. Rydym yn gweithio i amserlenni heriol iawn o ran llunio fersiwn derfynol o'r fframwaith statudol a'r cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf.
Cododd Andrew R.T. Davies y mater—yn amlwg, mae Confensiwn y Pleidiau yn digwydd ar hyn o bryd. Dewisais fynd i uwchgynhadledd gweithredu ar hinsawdd fyd-eang San Francisco ym mis Medi, ond mae swyddogion yno yn cynrychioli Cymru. Rwyf yn sicr wedi ymweld â Chonfensiwn y Pleidiau a gwn fod Gweinidogion a rhagflaenwyr eraill cyn fi wedi ymweld ac yn sicr mae'n dda iawn rhannu arfer gorau,. Credaf, fel rhanbarth, ein bod yn gwneud yn well na'r disgwyl ac mae gan bobl ddiddordeb mawr mewn clywed am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i leihau ein hallyriadau.
Llywydd, mae'r rheoliadau yn dangos i bobl a busnesau yng Nghymru bod y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn derbyn fod newid hinsawdd yn broblem ddifrifol, yn beryglus ac yn un na allwn ei hanwybyddu. Mae'r rheoliadau yn rhoi sicrwydd ac eglurder ac yn dangos i farchnadoedd rhyngwladol fod Cymru yn agored i fusnes carbon isel. Maent yn dangos i bobl ac i lywodraethau ledled y byd ein bod yn benderfynol o chwarae ein rhan i fynd i'r afael â'r argyfwng byd-eang hwn, a chredaf y byddant yn dangos i bobl Cymru ein bod wedi ymrwymo i wella eu lles cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol. Ond, yn y pen draw, maent yn dangos i bobl ifanc a chenedlaethau'r dyfodol ein bod yn gwerthfawrogi eu bywydau a'u bywoliaeth cymaint â'n rhai ni ein hunain. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 5, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 6, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 7, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 8, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw cytuno ar y cynnig dan eitem 9, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.