Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Cytunaf â llawer o'r hyn y mae Llŷr yn ei ddweud, ein bod i ryw raddau yn cael ein gwthio i wneud hyn. Ac rwy'n credu, yng ngoleuni araith bwerus David Attenborough, fel y crybwyllwyd eisoes gan Andrew R.T. Davies, mae'r hyn a ddywedodd yn Katowice mewn gwirionedd yn gorfodi pob un ohonom i ystyried yn fanwl yr hyn y dylem fod yn ei wneud a'r hyn nad ydym mewn gwirionedd yn ei gyflawni. Rydym newydd gael trafodaeth am Brexit a phwysigrwydd hynny i genedlaethau'r dyfodol. Nid yw hynny'n ddim byd o'i gymharu â'r ddadl hon. Oni newidiwn ein ffyrdd, ni fydd byd i'n plant a'n hwyrion ei etifeddu. Fel y dywedodd Attenborough yn Katowice, mae cwymp ein gwareiddiadau a difodiant llawer o'r byd naturiol ar y gorwel os nad ydym yn gweithredu.
Mae'r rhain yn eiriau cryf iawn, ac er fy mod yn cytuno bod yn rhaid inni gynnwys y bobl, nid yw'n galonogol gweld safbwynt boblyddol Canghellor y Trysorlys yn methu flwyddyn ar ôl blwyddyn â chodi ardoll newid hinsawdd ar y dreth ar danwydd er mwyn adlewyrchu faint o lygredd a achosir gan yrru.
Felly, a yw'r rheoliadau hyn yn cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed gennym ym Mharis yn 2015? Mae'n debyg nad ydynt, ond maen nhw'n gam i'r cyfeiriad cywir. Dywedir wrthym gan yr arbenigwyr ein bod ar hyn o bryd yn anelu at gynhesu trychinebus o 3 y cant. Felly mae'n ddyletswydd ar y byd diwydiannol, sydd wedi elwa ar yr holl ddefnydd hwn o adnoddau'r byd, i wneud mwy na gwledydd llai datblygedig yn y byd.
Nodaf fod Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd wedi gweld bod cynnydd yn parhau i fod ymhell o gyrraedd targed presennol Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau ar lefel o 40 y cant islaw lefelau 1990 erbyn 2020, ymhen dwy flynedd. Credaf fod angen inni edrych o ddifrif ar statws Aberddawan, yr orsaf bŵer glo, oherwydd cyflwynodd 51 y cant o allyriadau pŵer Cymru a 14 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru yn 2015. Felly, rhaid bod buddugoliaeth o hynny. Ymddengys i mi yn fuddugoliaeth hawdd. Wrth gwrs mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym ffyrdd amgen o gynhyrchu trydan, ond yn amlwg nid glo yw hynny. Does dim diben dweud, fel y maent wedi'i wneud yng Ngwlad Pwyl, 'O, dyna beth mae swyddi pobl yn dibynnu arno'. Rhaid inni newid y swyddi a defnyddio technoleg i gael pobl i wneud pethau gwahanol. Felly, byddwn yn awgrymu i'r Llywodraeth bod angen inni gau Aberddawan ymhell cyn 2025, a byddai hynny'n ein cael yn ôl ar y trywydd iawn, oherwydd mae'n glir nad ydym yn y lle mae angen inni fod.
Hoffwn weld adolygiad ar unwaith o Ran L o'r rheoliadau adeiladu. Gan gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies ynglŷn â chynnwys y bobl, dydyn ni byth yn mynd i allu cynnwys yr adeiladwyr tai torfol gyda ni. Maen nhw bob amser yn mynd i fod eisiau parhau i gynhyrchu'r un hen dai nad ydynt yn effeithlon o ran ynni nes inni ddweud wrthynt am beidio, a dyna swyddogaeth y Llywodraeth—sicrhau bod pobl yn cyflawni drwy ddefnyddio adnoddau'r byd yn y ffordd fwyaf effeithiol. Gwyddom eisoes fod y dechnoleg ar gael i sicrhau bod gennym dai di-garbon, a dyna'r hyn sydd ei eisiau a'i angen ar bobl, oherwydd, ar hyn o bryd maen nhw'n gwario llawer gormod o'u harian haeddiannol ar geisio gwresogi eu cartrefi mewn adeiladau sy'n annigonol.
Mae allyriadau amaethyddiaeth wedi gostwng 15 y cant ers 1990, ond maent wedi cynyddu ychydig ers 2009 ac mae angen inni wneud rhywbeth am hynny, hefyd. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r ffaith bod dalfeydd defnydd tir wedi gostwng gan fod mwy o adeiladu'n digwydd ar y tir, ond hefyd mae llai o blannu coed yn digwydd. Mae angen inni ddechrau edrych ar y bwyd yr ydym yn ei fwyta a sut yr ydym yn ei gynhyrchu. Os oes gennym ffermio ffatri dwys, mae'n cynhyrchu llawer mwy o allyriadau carbon na phe bai gennym ffermio llai dwys. Mae angen edrych ar y pethau hyn.
Rwy'n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am fod yn onest a chyfaddef, pan heriwyd y Llywodraeth gan ddadansoddwr newid hinsawdd, fod yr olwg ar wyneb pob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog yn un o arswyd llwyr. Nid gwaith y Llywodraeth yn unig yw hyn; gwaith pob un ohonom yw newid ein ffyrdd. Ond rhaid i'r Llywodraeth arwain y ffordd, ac awgrymaf fod angen inni weithio tuag at 100 y cant erbyn 2050, ac y byddwn, gobeithio, yn dod yn ôl gyda rhai targedau mwy heriol, oherwydd ni chredaf fod y rhain yn ddigon heriol.